JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 16
Job | WelBeibl | 16:3 | Oes dim diwedd i'r malu awyr yma? Beth sy'n dy gorddi di fod rhaid i ti gael y gair olaf? | |
Job | WelBeibl | 16:4 | Gallwn innau siarad â chi yr un fath petaech chi yn fy lle i. Gallwn i eich drysu chi â geiriau diddiwedd, ac ysgwyd fy mhen arnoch chi. | |
Job | WelBeibl | 16:6 | Ond alla i ddweud dim i leddfu fy mhoen fy hun; ac os ydw i'n cadw'n dawel dydy'r poen ddim llai. | |
Job | WelBeibl | 16:8 | Dw i'n crebachu yn ei law – dw i'n ddim ond croen ac esgyrn ac mae hynny'n tystio yn fy erbyn i. | |
Job | WelBeibl | 16:9 | Mae e'n ddig, ac wedi fy rhwygo'n ddarnau; ac mae'n ysgyrnygu ei ddannedd arna i. Mae'n rhythu fel gelyn, | |
Job | WelBeibl | 16:10 | ac mae pobl yn chwerthin ac yn gwneud sbort am fy mhen. Maen nhw'n rhoi slap sarhaus i mi, ac yn uno gyda'i gilydd yn fy erbyn. | |
Job | WelBeibl | 16:12 | Roedd bywyd yn ddibryder, ond chwalodd y cwbl; gafaelodd yn fy ngwar a'm malu'n ddarnau mân. Mae wedi fy newis fel targed, | |
Job | WelBeibl | 16:13 | ac mae ei saethwyr o'm cwmpas. Mae wedi trywanu fy mherfedd yn ddidrugaredd, ac mae fy ngwaed wedi'i dywallt ar lawr. | |
Job | WelBeibl | 16:14 | Dw i fel wal mae'n torri drwyddi dro ar ôl tro, ac mae e'n rhuthro yn fy erbyn fel rhyfelwr. | |
Job | WelBeibl | 16:16 | Ar ôl wylo'n chwerw mae fy wyneb yn goch, ac mae cysgodion tywyll dan fy llygaid. | |
Job | WelBeibl | 16:19 | Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd; mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder! | |