Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 7
Josh WelBeibl 7:1  Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i'r ARGLWYDD. Roedd dyn o'r enw Achan wedi cymryd rhai o'r pethau oedd piau'r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel.
Josh WelBeibl 7:2  Dyma Josua'n anfon dynion o Jericho i ysbïo ar Ai (sydd i'r dwyrain o Bethel, wrth ymyl Beth-afen).
Josh WelBeibl 7:3  Pan ddaeth y dynion yn ôl, dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Paid anfon pawb i ymladd yn erbyn Ai. Bydd rhyw ddwy neu dair mil o ddynion yn hen ddigon. Does dim pwynt trafferthu i anfon y fyddin i gyd. Tref fach ydy Ai.”
Josh WelBeibl 7:4  Felly dyma ryw dair mil o ddynion arfog yn mynd, ond dynion Ai wnaeth ennill y frwydr, ac roedd rhaid i ddynion Israel ffoi.
Josh WelBeibl 7:5  Aeth dynion Ai ar eu holau yr holl ffordd i lawr o giatiau'r dref i'r chwareli. Cafodd tua tri deg chwech ohonyn nhw eu lladd ar y llethrau. Canlyniad hynny oedd i bobl Israel golli pob hyder.
Josh WelBeibl 7:6  Dyma Josua yn rhwygo'i ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau.
Josh WelBeibl 7:7  Gweddïodd Josua, “O na! Feistr, ARGLWYDD! Pam wyt ti wedi dod â'r bobl yma ar draws afon Iorddonen? Ai er mwyn i'r Amoriaid ein dinistrio ni? Pam wnaethon ni ddim bodloni ar aros yr ochr arall!
Josh WelBeibl 7:8  Meistr, beth alla i ei ddweud, ar ôl i Israel orfod ffoi o flaen eu gelynion?
Josh WelBeibl 7:9  Pan fydd y Canaaneaid a phawb arall sy'n byw yn y wlad yn clywed beth sydd wedi digwydd, byddan nhw'n troi yn ein herbyn ni a'n dileu ni oddi ar wyneb y ddaear. Be wnei di wedyn i gadw dy enw da?”
Josh WelBeibl 7:10  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb Josua, “Cod ar dy draed! Pam wyt ti'n gorwedd ar dy wyneb ar lawr fel yna?
Josh WelBeibl 7:11  Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda nhw! Maen nhw wedi cymryd pethau oedd piau fi – wedi dwyn, a dweud celwydd, a chuddio'r pethau gyda'u stwff nhw'u hunain.
Josh WelBeibl 7:12  Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion – am eu bod nhw i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio'r pethau hynny.
Josh WelBeibl 7:13  Dos, a dwed wrth y bobl am fynd drwy'r ddefod o buro'u hunain erbyn yfory. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel yn dweud, ‘Israel, mae yna bethau gynnoch chi oedd piau fi ac i fod i gael eu dinistrio. Fyddwch chi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn eich gelynion nes byddwch chi wedi cael gwared â'r pethau hynny.
Josh WelBeibl 7:14  Bore fory, dw i eisiau i chi ddod ymlaen bob yn llwyth. Bydda i'n pigo'r llwyth sy'n euog, a byddan nhw'n dod ymlaen bob yn glan. Yna'r clan bob yn deulu, ac aelodau'r teulu bob yn un.
Josh WelBeibl 7:15  Bydd y person sy'n cael ei ddal gyda'r pethau oedd i fod i gael eu cadw i mi, yn cael ei losgi, a'i deulu gydag e. Mae e wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD – peth gwarthus i'w wneud yn Israel!’”
Josh WelBeibl 7:16  Felly dyma Josua'n codi'n gynnar y bore wedyn, a gwneud i bobl Israel ddod ymlaen bob yn llwyth. Llwyth Jwda gafodd ei ddewis.
Josh WelBeibl 7:17  Yna dyma fe'n gwneud i glaniau Jwda ddod ymlaen yn eu tro. Clan Serach gafodd ei ddewis. Yna cafodd teulu Sabdi ei ddewis o glan Serach.
Josh WelBeibl 7:18  A phan ddaeth teulu Sabdi ymlaen bob yn un, dyma Achan yn cael ei ddal (sef Achan fab Carmi, ŵyr Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda).
Josh WelBeibl 7:19  Dyma Josua yn dweud wrth Achan, “Rho glod i'r ARGLWYDD, Duw Israel, a chyffesu iddo. Dwed beth wnest ti. Paid cuddio dim byd.”
Josh WelBeibl 7:20  A dyma Achan yn ateb, “Mae'n wir. Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma ddigwyddodd:
Josh WelBeibl 7:21  Gwnes i weld clogyn hardd o Babilonia, dau gant o ddarnau arian, a bar o aur yn pwyso dros hanner cilogram. Rôn i eisiau nhw, felly dyma fi'n eu cymryd nhw. Maen nhw wedi'u claddu yn y ddaear o dan fy mhabell, gyda'r arian yn y gwaelod.”
Josh WelBeibl 7:22  Felly dyma Josua yn anfon dynion i edrych yn y babell. A wir, dyna ble roedd y cwbl wedi'i guddio, gyda'r arian o dan bopeth arall.
Josh WelBeibl 7:23  Dyma nhw'n cymryd y cwbl o'r babell, a dod ag e at Josua a phobl Israel, a'i osod ar lawr o flaen yr ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 7:24  Yna dyma Josua a phobl Israel yn mynd ag Achan fab Serach, gyda'i berthnasau a'i eiddo i gyd, i Ddyffryn Achor. (Aethon nhw â'r arian, y clogyn, y bar aur, ei feibion a'i ferched, ei anifeiliaid, ei babell, a phopeth arall oedd piau fe gyda nhw.)
Josh WelBeibl 7:25  Meddai Josua yno, “Pam wnest ti ddod â'r drychineb yma arnon ni? Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddod â thrychineb arnat ti!” A dyma bobl Israel yn taflu cerrig at Achan nes roedd e wedi marw. A dyma nhw'n gwneud yr un peth i'w deulu, ac yna'n llosgi'r cyrff.
Josh WelBeibl 7:26  Yna codon nhw bentwr mawr o gerrig drosto – sy'n dal yna hyd heddiw. A dyma'r ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig hefo nhw wedyn. A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Achor ers hynny (sef ‛Dyffryn y Drychineb‛).