Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JUDE
1
Chapter 1
Jude WelBeibl 1:1  Llythyr gan Jwdas, gwas i Iesu Grist a brawd Iago, Atoch chi sydd wedi'ch galw i berthynas gyda Duw y Tad, sy'n eich cofleidio chi â'i gariad, a gyda Iesu Grist sy'n gofalu amdanoch chi:
Jude WelBeibl 1:2  Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei drugaredd, ei heddwch dwfn a'i gariad di-ben-draw arnoch chi!
Jude WelBeibl 1:3  Ffrindiau annwyl, roeddwn i'n awyddus iawn i ysgrifennu atoch chi am y bywyd newydd dŷn ni'n ei rannu gyda'n gilydd. Ond nawr mae'n rhaid i mi ysgrifennu i'ch annog chi i wneud safiad dros y ffydd, sef y gwirionedd mae Duw wedi'i roi i'w bobl un waith ac am byth.
Jude WelBeibl 1:4  Y broblem ydy bod pobl sydd ddim yn gwrando ar Dduw wedi sleifio i mewn i'ch plith chi. Mae'r bobl yma'n dweud ein bod ni'n rhydd i fyw'n anfoesol, am fod Duw mor barod i faddau! Mae'r ysgrifau sanctaidd wedi dweud ers talwm fod pobl felly'n mynd i gael eu cosbi. Pobl ydyn nhw sy'n gwadu awdurdod Iesu Grist, ein hunig Feistr a'n Harglwydd ni.
Jude WelBeibl 1:5  Dych chi'n gwybod hyn eisoes, ond dw i am eich atgoffa chi: roedd Duw wedi achub ei bobl a'u helpu i ddianc o'r Aifft. Ond yn nes ymlaen roedd rhaid iddo ddinistrio rhai ohonyn nhw am eu bod nhw'n anffyddlon.
Jude WelBeibl 1:6  Wedyn beth am yr angylion hynny wrthododd gadw o fewn y ffiniau roedd Duw wedi'u gosod iddyn nhw? Roedden nhw eisiau mwy o awdurdod a dyma nhw'n gadael lle roedden nhw i fod i fyw. Does dim dianc iddyn nhw! Mae Duw wedi'u rhwymo nhw gyda chadwyni yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol. Maen eu cadw nhw yno yn disgwyl y diwrnod mawr pan fyddan nhw'n cael eu cosbi.
Jude WelBeibl 1:7  A chofiwch beth ddigwyddodd i Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas! Roedd anfoesoldeb rhywiol yn rhemp, ac roedden nhw eisiau cyfathrach annaturiol gyda'r angylion! Maen nhw'n dioddef yn y tân sydd byth yn diffodd, ac mae eu cosb nhw yn rhybudd i bawb.
Jude WelBeibl 1:8  Ac mae'r bobl hyn sydd wedi dod i'ch plith chi yr un fath! Breuddwydion ydy sail beth maen nhw'n ei ddysgu. Maen nhw'n llygru eu cyrff drwy wneud pethau anfoesol, yn herio awdurdod yr Arglwydd, ac yn dweud pethau sarhaus am yr angylion gogoneddus.
Jude WelBeibl 1:9  Wnaeth Michael y prif angel ddim meiddio hyd yn oed cyhuddo'r diafol o gablu pan oedd y ddau yn ymladd am gorff Moses. “Bydd Duw yn delio gyda ti!” ddwedodd e.
Jude WelBeibl 1:10  Ond mae'r bobl yma'n sarhau pethau dŷn nhw ddim yn eu deall! Maen nhw fel anifeiliaid direswm, yn dilyn eu greddfau rhywiol, ac yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau! A dyna'n union fydd yn eu dinistrio nhw yn y diwedd!
Jude WelBeibl 1:11  Gwae nhw! Maen nhw wedi dilyn esiampl Cain. Maen nhw fel Balaam, yn rhuthro i wneud unrhyw beth am arian. Maen nhw wedi gwrthryfela fel Cora, a byddan nhw'n cael eu dinistrio!
Jude WelBeibl 1:12  Mae'r bobl yma fel creigiau peryglus yn y môr. Maen nhw'n bwyta yn eich cariad-wleddoedd chi, ond yn poeni dim am arwyddocâd y pryd bwyd dych chi'n ei rannu! Dŷn nhw'n meddwl am neb ond nhw eu hunain. Twyllwyr ydyn nhw! Maen nhw, Fel cymylau sy'n rhoi dim glaw, a'r gwynt yn eu chwythu nhw i ffwrdd. Fel coed heb ffrwyth i'w gasglu oddi arnyn nhw – yn hollol farw, wedi cael eu diwreiddio!
Jude WelBeibl 1:13  Fel tonnau gwyllt y môr, yn corddi ewyn eu gweithredoedd ffiaidd. Fel sêr gwib yn y gofod, a'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu am byth!
Jude WelBeibl 1:14  Proffwydodd Enoch amdanyn nhw ymhell bell yn ôl (saith cenhedlaeth ar ôl Adda): “Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn dod gyda miloedd ar filoedd o'i angylion sanctaidd.
Jude WelBeibl 1:15  Bydd yn barnu pawb, ac yn cosbi pechaduriaid annuwiol am bopeth drwg maen nhw wedi'u gwneud, ac am yr holl bethau sarhaus maen nhw wedi'u dweud amdano.”
Jude WelBeibl 1:16  Dydy'r bobl yma'n gwneud dim ond grwgnach a gweld bai ar eraill! Maen nhw'n gwneud pa ddrwg bynnag maen nhw eisiau! Maen nhw'n brolio'u hunain, a seboni pobl eraill os ydy hynny o ryw fantais iddyn nhw!
Jude WelBeibl 1:17  Ond cofiwch, ffrindiau annwyl, fod cynrychiolwyr personol ein Harglwydd Iesu Grist wedi dweud ymlaen llaw am hyn.
Jude WelBeibl 1:18  “Yn y dyddiau i ddod bydd pobl yn chwarae crefydd” medden nhw, “ac yn gwneud dim byd ond dilyn eu chwantau drwg.”
Jude WelBeibl 1:19  Ydyn, maen nhw yma! Nhw sy'n creu rhaniadau yn eich plith chi. Eu greddfau naturiol sy'n eu rheoli nhw. A dydy'r Ysbryd Glân ddim ganddyn nhw reit siŵr!
Jude WelBeibl 1:20  Ond rhaid i chi fod yn wahanol, ffrindiau annwyl. Daliwch ati i adeiladu eich bywydau ar sylfaen y ffydd sy'n dod oddi wrth Dduw. Gweddïo fel mae'r Ysbryd Glân yn eich arwain chi.
Jude WelBeibl 1:21  Byw mewn ffordd sy'n dangos cariad Duw, wrth ddisgwyl yn frwd am y bywyd tragwyddol mae'r Arglwydd Iesu Grist yn mynd i'w roi i chi.
Jude WelBeibl 1:23  Cipiwch allan o'r tân y rhai hynny sydd mewn peryg o losgi. Byddwch yn garedig wrth y rhai sy'n ffraeo ond yn ofalus yr un pryd. Mae eu pechodau nhw'n ffiaidd, fel dillad isaf budron!
Jude WelBeibl 1:24  Clod i Dduw! Fe ydy'r un sy'n gallu'ch cadw chi rhag llithro. Fe fydd yn eich galw i mewn i'w gwmni bendigedig, yn gwbl ddi-fai, i gael profi llawenydd anhygoel!
Jude WelBeibl 1:25  Fe ydy'r unig Dduw, sy'n ein hachub ni drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Mae e'n haeddu ei foli a'i fawrygu, ac mae ganddo nerth ac awdurdod absoliwt. Mae hynny o'r dechrau cyntaf, yn awr yn y presennol, ac am byth! Amen.