JUDGES
Chapter 12
Judg | WelBeibl | 12:1 | Dyma ddynion Effraim yn galw byddin at ei gilydd ac yn croesi afon Iorddonen i Saffon. Dyma nhw'n gofyn i Jefftha, “Pam wnest ti fynd i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ofyn i ni fynd gyda ti? Dŷn ni'n mynd i losgi dy dŷ di i lawr a thithau tu mewn iddo!” | |
Judg | WelBeibl | 12:2 | Atebodd Jefftha, “Pan oedden ni yng nghanol dadl ffyrnig gyda'r Ammoniaid, dyma fi'n galw arnoch chi i ddod i helpu, ond ddaethoch chi ddim. | |
Judg | WelBeibl | 12:3 | Pan ddeallais i nad oeddech chi'n dod, dyma fi'n mentro mynd i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid hebddoch chi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i ni. Felly pam dych chi wedi dod i ymladd yn fy erbyn i?” | |
Judg | WelBeibl | 12:4 | Yna dyma Jefftha yn casglu byddin o ddynion Gilead at ei gilydd a mynd i ymladd yn erbyn dynion Effraim a'u trechu nhw. Roedd dynion Effraim wedi sarhau pobl Gilead drwy ddweud, “Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!” | |
Judg | WelBeibl | 12:5 | Roedd dynion Gilead wedi dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti'n perthyn i lwyth Effraim?” Petai'n ateb, “Na,” | |
Judg | WelBeibl | 12:6 | bydden nhw'n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw'n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw a'u lladd nhw yn y fan a'r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw. | |
Judg | WelBeibl | 12:7 | Dyma Jefftha'n arwain Israel am chwe mlynedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn ei dref ei hun yn Gilead. | |
Judg | WelBeibl | 12:9 | Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe'n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o'r tu allan i'w glan, a dyma fe'n trefnu i ferched o'r tu allan i briodi'i feibion. Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd. | |
Judg | WelBeibl | 12:11 | Yr arweinydd nesaf oedd Elon o lwyth Sabulon. Bu'n arwain pobl Israel am ddeg mlynedd. | |
Judg | WelBeibl | 12:14 | Roedd ganddo bedwar deg o feibion a tri deg o wyrion – ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun. Bu Abdon yn arwain pobl Israel am wyth mlynedd. | |