Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
OBADIAH
1
Chapter 1
Obad WelBeibl 1:1  Gweledigaeth Obadeia. Dyma beth mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi'i ddweud am Edom. Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”
Obad WelBeibl 1:2  Mae'r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom: “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan; byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben.
Obad WelBeibl 1:3  Mae dy falchder wedi dy dwyllo di! Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig, ac mae dy gartref mor uchel nes dy fod yn meddwl, ‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’
Obad WelBeibl 1:4  Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr, a gosod dy nyth yng nghanol y sêr, bydda i'n dy dynnu di i lawr!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Obad WelBeibl 1:5  “Petai lladron yn dod atat ti, neu ysbeilwyr yn y nos, fydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau! Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti, oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr!
Obad WelBeibl 1:6  Bydd pobl Esau yn colli popeth; bydd y trysorau gasglon nhw wedi'u dwyn!
Obad WelBeibl 1:7  Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo; cei dy yrru at dy ffiniau. Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti, a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda ti wedi gosod trap heb i ti wybod.”
Obad WelBeibl 1:8  “Bryd hynny” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n difa rhai doeth Edom, a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.
Obad WelBeibl 1:9  Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman; fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau. O achos y lladdfa,
Obad WelBeibl 1:10  a'th drais yn erbyn Jacob dy frawd, bydd cywilydd yn dy orchuddio, a byddi'n cael dy ddinistrio am byth.
Obad WelBeibl 1:11  Pan oeddet ti'n sefyll o'r neilltu tra oedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo; pan oedd byddin estron yn mynd drwy ei giatiau a gamblo am gyfoeth Jerwsalem, doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw!
Obad WelBeibl 1:12  Sut allet ti syllu a mwynhau'r drychineb ddaeth i ran dy frawd? Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwda ar ddiwrnod eu difa? Sut allet ti chwerthin ar ddiwrnod y dioddef?
Obad WelBeibl 1:13  Sut allet ti fynd at giatiau fy mhobl ar ddiwrnod eu trychineb? Syllu a mwynhau eu trallod ar ddiwrnod eu trychineb. Sut allet ti ddwyn eu heiddo ar ddiwrnod eu trychineb?
Obad WelBeibl 1:14  Sut allet ti sefyll ar y groesffordd ac ymosod ar y ffoaduriaid! Sut allet ti eu rhoi yn llaw'r gelyn ar ddiwrnod y dioddef?
Obad WelBeibl 1:15  Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos, a bydda i'n barnu'r cenhedloedd i gyd. Byddi'n diodde beth wnest ti i eraill; cei dy dalu'n ôl am beth gafodd ei wneud.
Obad WelBeibl 1:16  Fel y gwnaethoch chi yfed ar y mynydd sydd wedi'i gysegru i mi, bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed – yfed nes byddan nhw'n chwil. Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli.
Obad WelBeibl 1:17  Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc – bydd yn lle cysegredig eto. Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôl oddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw.
Obad WelBeibl 1:18  Teulu Jacob fydd y tân, a theulu Joseff fydd y fflamau, a theulu Esau fydd y bonion gwellt! Byddan nhw'n eu llosgi a'u difa, a fydd neb o deulu Esau ar ôl.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Obad WelBeibl 1:19  Byddan nhw'n cipio'r Negef oddi ar bobl mynydd Esau, a Seffela oddi ar y Philistiaid. Byddan nhw'n ennill yn ôl dir Effraim a'r ardal o gwmpas Samaria, a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead.
Obad WelBeibl 1:20  Bydd byddin o bobl Israel o'r gaethglud yn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath; a phobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bell yn meddiannu pentrefi'r Negef.
Obad WelBeibl 1:21  Bydd y rhai gafodd eu hachub yn mynd i Fynydd Seion ac yn rheoli Edom – a'r ARGLWYDD fydd yn teyrnasu.