Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
REVELATION OF JOHN
Prev Up Next
Chapter 9
Reve WelBeibl 9:1  Yna dyma'r pumed angel yn canu ei utgorn, a gwelais seren oedd wedi syrthio o'r awyr i'r ddaear. Dyma allwedd y pwll sy'n arwain i'r pydew diwaelod yn cael ei roi iddi.
Reve WelBeibl 9:2  Pan agorodd y seren y pwll i'r pydew diwaelod daeth mwg allan ohono fel mwg yn dod o ffwrnais enfawr. Dyma'r mwg ddaeth allan o'r pwll yn achosi i'r haul a'r awyr fynd yn dywyll.
Reve WelBeibl 9:3  Yna dyma locustiaid yn dod allan o'r mwg i lawr ar y ddaear, ac roedd y gallu i ladd fel sgorpionau wedi'i roi iddyn nhw.
Reve WelBeibl 9:4  Dyma nhw'n cael gorchymyn i beidio gwneud niwed i'r glaswellt a'r planhigion a'r coed. Dim ond y bobl hynny oedd heb eu marcio ar eu talcennau gyda sêl Duw oedd i gael niwed.
Reve WelBeibl 9:5  Ond doedden nhw ddim i fod i ladd y bobl hynny, dim ond eu poenydio nhw am bum mis. (Roedd y poen yn debyg i'r poen mae rhywun sydd wedi cael pigiad gan sgorpion yn ei ddioddef.)
Reve WelBeibl 9:6  Bydd pobl eisiau marw, ond yn methu marw; byddan nhw'n dyheu am gael marw, ond bydd marwolaeth yn dianc o'u gafael nhw.
Reve WelBeibl 9:7  Roedd y locustiaid yn edrych yn debyg i geffylau yn barod i fynd i frwydr, ac roedden nhw'n gwisgo rhywbeth tebyg i goron aur ar eu pennau. Roedd ganddyn nhw wynebau tebyg i wyneb dynol,
Reve WelBeibl 9:8  a gwallt hir fel gwallt gwragedd. Roedd ganddyn nhw ddannedd fel dannedd llew.
Reve WelBeibl 9:9  Roedd eu dwyfron fel arfwisg, fel llurig haearn, ac roedd sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o geffylau a cherbydau rhyfel yn rhuthro i frwydr.
Reve WelBeibl 9:10  Roedd ganddyn nhw gynffonnau fel cynffon sgorpion, a'u pigiad yn gallu poenydio pobl am bum mis.
Reve WelBeibl 9:11  Angel y pydew diwaelod ydy eu brenin nhw – Abadon ydy'r enw Hebraeg arno, neu Apolyon (sef ‛Y Dinistrydd‛) yn yr iaith Roeg.
Reve WelBeibl 9:12  Mae'r trychineb cyntaf wedi digwydd; ond edrychwch, mae dau arall yn dod!
Reve WelBeibl 9:13  Dyma'r chweched angel yn canu ei utgorn. Yna clywais lais yn dod o'r lle roedd y cyrn ar bedair cornel yr allor aur sydd o flaen Duw.
Reve WelBeibl 9:14  Dwedodd y llais wrth y chweched angel oedd ag utgorn, “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi'u rhwymo wrth afon fawr Ewffrates.”
Reve WelBeibl 9:15  Yna dyma'r pedwar angel yn cael eu gollwng yn rhydd. Roedden nhw wedi'u cadw ar gyfer yr union awr hon ar yr union ddyddiad hwn, i ladd un rhan o dair o'r ddynoliaeth.
Reve WelBeibl 9:16  Dyma nhw'n arwain byddin o ddau gan miliwn o filwyr ar gefn ceffylau. Clywais y rhif! – dyna faint oedd yna.
Reve WelBeibl 9:17  Dyma sut olwg oedd ar y ceffylau a'r marchogion a welais i: Roedd llurig eu harfwisg yn goch fel tân, yn las tywyll ac yn felyn fel sylffwr. Roedd pennau'r ceffylau fel pennau llewod, ac roedd tân a mwg a brwmstan yn dod allan o'u cegau.
Reve WelBeibl 9:18  Cafodd un rhan o dair o'r ddynoliaeth eu lladd gan y plâu, sef y tân, y mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u cegau.
Reve WelBeibl 9:19  Ond roedd gan y ceffylau rym yn eu cynffonnau hefyd. Roedd eu cynffonnau yn debyg i nadroedd gyda phennau oedd yn gallu brathu ac anafu pobl.
Reve WelBeibl 9:20  Ond wnaeth gweddill y ddynoliaeth ddim troi cefn ar eu drygioni (sef y bobl hynny wnaeth y plâu ddim eu lladd). Roedden nhw'n dal i addoli cythreuliaid ac eilunod o aur, arian, efydd, carreg a phren – eilunod sy'n methu gweld na chlywed na cherdded!
Reve WelBeibl 9:21  Wnaethon nhw ddim troi cefn ar yr holl lofruddio, na'r ddewiniaeth, na'r anfoesoldeb rhywiol, na'r dwyn chwaith.