Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DANIEL
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 5
Dani WelBeibl 5:1  Roedd y Brenin Belshasar wedi trefnu gwledd i fil o'i uchel-swyddogion. A dyna lle roedd e'n yfed gwin o'u blaen nhw i gyd.
Dani WelBeibl 5:2  Pan oedd y gwin wedi mynd i'w ben dyma Belshasar yn gorchymyn dod â'r llestri aur ac arian oedd ei ragflaenydd, Nebwchadnesar, wedi'u cymryd o'r deml yn Jerwsalem. Roedd am yfed ohonyn nhw, gyda'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon i gyd.
Dani WelBeibl 5:3  Felly dyma nhw'n dod â'r llestri aur ac arian oedd wedi'u cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma'r brenin a'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon yn yfed ohonyn nhw.
Dani WelBeibl 5:4  Wrth yfed y gwin roedden nhw'n canmol eu duwiau – eilun-dduwiau wedi'u gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg.
Dani WelBeibl 5:5  Yna'n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i'w gweld yng ngolau'r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu.
Dani WelBeibl 5:6  Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau'n wan a'i liniau'n crynu.
Dani WelBeibl 5:7  Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a'r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd pwy bynnag sy'n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae'n ei olygu yn cael ei anrhydeddu – bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
Dani WelBeibl 5:8  Felly dyma'r dynion doeth i gyd yn dod i mewn, ond allai run ohonyn nhw ddarllen yr ysgrifen na dweud beth oedd ei ystyr.
Dani WelBeibl 5:9  Erbyn hyn roedd y Brenin Belshasar wedi dychryn am ei fywyd. Roedd yn wyn fel y galchen ac roedd ei uchel-swyddogion i gyd wedi drysu'n lân.
Dani WelBeibl 5:10  Pan glywodd y fam frenhines yr holl sŵn roedd y brenin a'i uchel-swyddogion yn ei wneud, aeth i mewn i'r neuadd fwyta. “O frenin! Boed i ti fyw am byth!” meddai. “Paid dychryn. Paid eistedd yna'n welw.
Dani WelBeibl 5:11  Mae yna ddyn yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo. Pan oedd Nebwchadnesar yn frenin, daeth yn amlwg fod gan y dyn yma ddirnadaeth, deall, a doethineb fel petai'n un o'r duwiau ei hun. Gwnaeth Nebwchadnesar e'n brif swynwr, ac roedd yn bennaeth ar yr dewiniaid, swynwyr a'r dynion doeth i gyd.
Dani WelBeibl 5:12  Roedd yna rywbeth cwbl arbennig am y dyn yma, Daniel (gafodd yr enw Belteshasar gan y brenin). Roedd ganddo feddwl anarferol o graff, gwybodaeth a gallu i esbonio ystyr breuddwydion, egluro posau, a datrys problemau cymhleth. Galw am Daniel, a bydd e'n dweud wrthot ti beth mae'r ysgrifen yn ei olygu.”
Dani WelBeibl 5:13  Felly dyma nhw'n dod â Daniel at y brenin. A dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ai ti ydy'r Daniel gafodd ei gymryd yn gaeth o Jwda gan fy rhagflaenydd, y Brenin Nebwchadnesar?
Dani WelBeibl 5:14  Dw i wedi clywed fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a bod gen ti ddirnadaeth, a deall, a doethineb anarferol.
Dani WelBeibl 5:15  Dw i wedi gofyn i'r dynion doeth a'r swynwyr ddarllen ac esbonio'r ysgrifen yma i mi, ond dŷn nhw ddim yn gallu.
Dani WelBeibl 5:16  Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti'n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu, byddi'n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
Dani WelBeibl 5:17  Ond dyma Daniel yn ateb y brenin, “Cadwch eich rhoddion a'u rhoi nhw i rywun arall. Ond gwna i ddweud wrth y brenin beth ydy ystyr yr ysgrifen.
Dani WelBeibl 5:18  Eich mawrhydi, roedd y Duw Goruchaf wedi rhoi awdurdod brenhinol ac ysblander mawr i Nebwchadnesar eich rhagflaenydd chi.
Dani WelBeibl 5:19  Roedd Duw wedi'i wneud mor fawr nes bod gan bawb o bob gwlad ac iaith ei ofn. Roedd yn lladd pwy bynnag roedd e'n dewis ei ladd, ac yn arbed pwy bynnag oedd e eisiau. Doedd dim dal pwy fyddai e'n ei anrhydeddu, a phwy fyddai'n ei sathru nesa.
Dani WelBeibl 5:20  Ond trodd yn ddyn balch ac ystyfnig, a chymerodd Duw ei orsedd a'i anrhydedd oddi arno.
Dani WelBeibl 5:21  Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda'r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a'i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai'r Duw Goruchaf sy'n teyrnasu dros lywodraethau'r byd, a'i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau.
Dani WelBeibl 5:22  “Er eich bod chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, dych chithau wedi bod yr un mor falch.
Dani WelBeibl 5:23  Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a'u defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw – chi a'ch uchel-swyddogion, gyda'ch gwragedd a'ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg – duwiau sy'n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy'n rhoi anadl i chi fyw, ac sy'n dal eich bywyd a'ch tynged yn ei law!
Dani WelBeibl 5:24  Dyna pam anfonodd e'r llaw i ysgrifennu'r neges yma.
Dani WelBeibl 5:25  “Dyma beth sydd wedi'i ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN
Dani WelBeibl 5:26  A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‛cyfrif‛. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi'u rhifo. Mae Duw'n dod â nhw i ben.
Dani WelBeibl 5:27  Ystyr TECEL ydy ‛pwyso‛. Chi wedi'ch pwyso yn y glorian, a'ch cael yn brin.
Dani WelBeibl 5:28  Ystyr PARSIN ydy ‛rhannu‛. Mae'ch teyrnas wedi'i rhannu'n ei hanner a'i rhoi i Media a Persia.”
Dani WelBeibl 5:29  Dyma Belshasar yn gorchymyn fod Daniel i gael ei wisgo mewn porffor, i gael cadwyn aur am ei wddf, ac i'w ddyrchafu i'r drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.
Dani WelBeibl 5:30  Ond ar y noson honno cafodd Belshasar, brenin Babilon, ei lofruddio.
Dani WelBeibl 5:31  Daeth Dareius y Mediad yn frenin ar y deyrnas. Roedd yn chwe deg dau oed.