II CHRONICLES
Chapter 15
II C | WelBeibl | 15:2 | a dyma fe'n mynd at y Brenin Asa a dweud: “Gwrandwch arna i, Asa a phobl Jwda a Benjamin i gyd. Bydd yr ARGLWYDD gyda chi tra dych chi'n ffyddlon iddo fe. Bydd e'n ymateb pan fyddwch chi'n ei geisio. Ond os byddwch chi'n troi'ch cefn arno, bydd e'n troi ei gefn arnoch chi. | |
II C | WelBeibl | 15:3 | Roedd Israel heb y Duw go iawn am amser maith, heb offeiriaid i'w dysgu a heb Gyfraith. | |
II C | WelBeibl | 15:4 | Ond yn eu helynt dyma nhw'n troi at yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma nhw'n ei geisio, a dyma fe'n ymateb. | |
II C | WelBeibl | 15:5 | Yr adeg yna doedd hi ddim yn saff i neb fynd a dod, am fod yna helyntion ofnadwy yn y gwledydd i gyd. | |
II C | WelBeibl | 15:6 | Roedd un wlad yn dinistrio'r llall, a'r trefi yn dinistrio'i gilydd, am fod Duw wedi dod â phob math o helyntion arnyn nhw. | |
II C | WelBeibl | 15:7 | Ond byddwch chi'n ddewr a pheidio llaesu dwylo, oherwydd fe gewch chi wobr am eich gwaith.” | |
II C | WelBeibl | 15:8 | Roedd Asa'n teimlo'n llawer mwy hyderus ar ôl clywed beth ddwedodd y proffwyd. Dyma fe'n cael gwared â'r holl eilunod ffiaidd oedd yn Jwda a Benjamin a'r trefi roedd wedi'u concro ym mryniau Effraim. Yna dyma fe'n trwsio'r allor oedd o flaen cyntedd teml yr ARGLWYDD. | |
II C | WelBeibl | 15:9 | Casglodd bobl Jwda a Benjamin at ei gilydd, gyda phobl llwythau Effraim, Manasse a Simeon oedd wedi dod atyn nhw i fyw (Roedd llawer iawn o bobl wedi symud o Israel i Jwda ar ôl gweld fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag Asa.) | |
II C | WelBeibl | 15:10 | Dyma nhw'n dod i Jerwsalem yn y trydydd mis pan oedd Asa wedi bod yn frenin am un deg pump o flynyddoedd. | |
II C | WelBeibl | 15:11 | Dyma nhw'n aberthu i'r ARGLWYDD rai o'r anifeiliaid roedden nhw wedi'u cymryd yn ysbail, gan gynnwys saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid. | |
II C | WelBeibl | 15:12 | Wedyn, dyma nhw'n gwneud ymrwymiad i geisio yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, o ddifrif. | |
II C | WelBeibl | 15:13 | Byddai pawb oedd yn gwrthod gwneud hynny yn cael eu lladd, hen ac ifanc, dynion a merched. | |
II C | WelBeibl | 15:14 | Dyma nhw'n tyngu llw i'r ARGLWYDD gan weiddi, canu utgyrn a chwythu'r corn hwrdd. | |
II C | WelBeibl | 15:15 | Roedd pobl Jwda i gyd yn hapus i gymryd y llw, achos roedden nhw'n hollol o ddifrif. Roedden nhw wedi ceisio'r ARGLWYDD, ac roedd yntau wedi ymateb. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddyn nhw o bob cyfeiriad. | |
II C | WelBeibl | 15:16 | Yna dyma'r Brenin Asa yn diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam-frenhines, am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, ei falu'n fân, a'i losgi wrth Ddyffryn Cidron. | |
II C | WelBeibl | 15:17 | Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol yn Israel roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes. | |
II C | WelBeibl | 15:18 | Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi'u cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml Dduw. | |