II CHRONICLES
Chapter 17
II C | WelBeibl | 17:1 | Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, ac aeth ati i gryfhau'r deyrnas iddi allu gwrthsefyll Israel. | |
II C | WelBeibl | 17:2 | Rhoddodd filwyr yn y trefi amddiffynnol a gosod garsiynau drwy wlad Jwda i gyd, ac yn y trefi roedd Asa ei dad wedi'i hennill oddi ar Effraim. | |
II C | WelBeibl | 17:3 | Roedd yr ARGLWYDD gyda Jehosaffat am ei fod, ar ddechrau ei deyrnasiad, yn dilyn ffyrdd ei hynafiad Dafydd. Doedd e ddim yn addoli duwiau Baal. | |
II C | WelBeibl | 17:4 | Roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw'i orchmynion, yn wahanol i bobl Israel. | |
II C | WelBeibl | 17:5 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ei deyrnas yn gadarn. Roedd pobl Jwda i gyd yn dod ag anrhegion i Jehosaffat, a daeth yn gyfoethog iawn, ac roedd parch mawr ato. | |
II C | WelBeibl | 17:6 | Roedd yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD a chael gwared â'r holl allorau lleol a pholion y dduwies Ashera o Jwda. | |
II C | WelBeibl | 17:7 | Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma Jehosaffat yn anfon pump o'i swyddogion allan i drefi Jwda i ddysgu'r bobl am Gyfraith Duw. Enwau'r pump oedd Ben-chaîl, Obadeia, Sechareia, Nethanel a Michaia. | |
II C | WelBeibl | 17:8 | Ac roedd naw o Lefiaid yn eu helpu, sef Shemaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Shemiramoth, Jonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia. Roedd Elishama a Joram yr offeiriaid gyda nhw hefyd. | |
II C | WelBeibl | 17:9 | Buon nhw'n teithio o gwmpas trefi Jwda i gyd yn dysgu'r bobl o Lyfr Cyfraith yr ARGLWYDD. | |
II C | WelBeibl | 17:10 | Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat. | |
II C | WelBeibl | 17:11 | Dyma rai o'r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr. | |
II C | WelBeibl | 17:12 | Roedd Jehosaffat yn fwy a mwy pwerus, ac adeiladodd gaerau a chanolfannau storio yn Jwda. | |
II C | WelBeibl | 17:13 | Roedd ganddo lot fawr wedi'i gadw yn y canolfannau hynny, a byddin o filwyr profiadol yn Jerwsalem. | |
II C | WelBeibl | 17:14 | Roedd y rhain wedi'u rhannu yn ôl eu llwythau fel hyn: Capteiniaid ar unedau o fil o Jwda: Adna – yn gapten ar dri chan mil o filwyr profiadol, dewr. | |
II C | WelBeibl | 17:16 | Amaseia fab Sichri (oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu yr ARGLWYDD) – roedd 200,000 o filwyr profiadol, dewr gydag e. | |
II C | WelBeibl | 17:17 | Wedyn o lwyth Benjamin: Eliada, oedd yn filwr profiadol a dewr. Roedd 200,000 o filwyr gydag e yn cario bwasaeth a tharian. | |