Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CHRONICLES
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 35
II C WelBeibl 35:1  Dyma Joseia'n dathlu Gŵyl y Pasg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. Cafodd ŵyn y Pasg eu lladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
II C WelBeibl 35:2  Roedd Joseia wedi trefnu dyletswyddau yr offeiriaid, a'u hannog i wneud eu gwaith yn nheml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 35:3  Wedyn dyma fe'n dweud wrth y Lefiaid oedd i ddysgu pobl Israel am yr offrymau a'r aberthau oedd i'w cysegru i'r ARGLWYDD, “Gosodwch yr Arch Sanctaidd yn y deml wnaeth Solomon, mab Dafydd brenin Israel, ei hadeiladu. Does dim angen i chi ei chario ar eich ysgwyddau bellach. Nawr rhowch eich hunain i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel!
II C WelBeibl 35:4  Trefnwch eich hunain yn grwpiau yn ôl eich teuluoedd fel roedd y Brenin Dafydd a Solomon ei fab wedi dweud.
II C WelBeibl 35:5  Safwch yn y deml i helpu'r bobl o'r llwyth mae eich teulu chi yn ei gynrychioli.
II C WelBeibl 35:6  Lladdwch ŵyn y Pasg, mynd drwy'r ddefod o buro eich hunain, a pharatoi popeth i'ch pobl allu gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud drwy Moses.”
II C WelBeibl 35:7  Roedd Joseia wedi rhoi ei anifeiliaid ei hun i'r bobl i'w cyflwyno'n offrwm – 30,000 o ŵyn a geifr ifanc, a 3,000 o deirw ifanc.
II C WelBeibl 35:8  Rhoddodd ei swyddogion hefyd anifeiliaid yn offrymau gwirfoddol i'r bobl, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Chilceia, Sechareia a Iechiel, prif swyddogion teml Dduw 2,600 o ŵyn a geifr ifanc a 300 o wartheg.
II C WelBeibl 35:9  Rhoddodd Conaneia a'i frodyr Shemaia a Nethanel, a Chashafeia, Jeiel a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid 5,000 o ŵyn a geifr ifanc ar gyfer aberth y Pasg a 500 o wartheg.
II C WelBeibl 35:10  Pan oedd popeth yn barod, dyma'r offeiriaid yn sefyll yn eu lle, a'r Lefiaid yn eu grwpiau, fel roedd y brenin wedi gorchymyn.
II C WelBeibl 35:11  Yna dyma nhw'n lladd ŵyn y Pasg, a dyma'r offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor tra oedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid.
II C WelBeibl 35:12  Roedden nhw'n rhoi'r offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr ar un ochr a'u rhannu i'r bobl yn eu grwpiau teuluol er mwyn i'r rheiny eu cyflwyno i'r ARGLWYDD fel mae'n dweud yn Sgrôl Moses. (Roedden nhw'n gwneud yr un peth gyda'r gwartheg hefyd.)
II C WelBeibl 35:13  Wedyn roedden nhw'n rhostio ŵyn y Pasg ar dân agored yn ôl y ddefod, a berwi'r offrymau sanctaidd mewn crochanau, pedyll a dysglau cyn eu rhannu'n gyflym i'r bobl.
II C WelBeibl 35:14  Wedyn roedd rhaid i'r Lefiaid baratoi ar gyfer eu hunain a'r offeiriaid. Roedd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn dal i losgi'r offrymau a'r braster pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd y Lefiaid yn paratoi ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, sef disgynyddion Aaron.
II C WelBeibl 35:15  Roedd disgynyddion Asaff, sef y cantorion, yn aros yn eu lle fel roedd Dafydd, Asaff, Heman a Iedwthwn (proffwyd y brenin) wedi dweud. Ac roedd y rhai oedd yn gofalu am y giatiau yn aros lle roedden nhw. Doedd dim rhaid iddyn nhw adael eu lleoedd am fod y Lefiaid eraill yn paratoi eu hoffrymau nhw.
II C WelBeibl 35:16  Felly cafodd y paratoadau ar gyfer dathlu Pasg yr ARGLWYDD eu gwneud i gyd y diwrnod hwnnw. Cafodd yr offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr eu cyflwyno i gyd ar allor yr ARGLWYDD fel roedd y Brenin Joseia wedi gorchymyn.
II C WelBeibl 35:17  Felly dyma holl bobl Israel oedd yn bresennol yn cadw'r Pasg yr adeg honno, a Gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.
II C WelBeibl 35:18  Doedd Pasg tebyg ddim wedi'i gadw yn Israel ers cyfnod y proffwyd Samuel. Doedd dim un o frenhinoedd Israel wedi cynnal Pasg tebyg i'r un yma. Roedd y Brenin Joseia, yr offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel i gyd yno, heb sôn am bawb oedd yn byw yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 35:19  Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma.
II C WelBeibl 35:20  Ar ôl i Joseia gael trefn ar bopeth yn y deml, dyma Necho, brenin yr Aifft, yn dod i frwydro yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. Aeth Joseia a'i fyddin allan i ymladd yn ei erbyn.
II C WelBeibl 35:21  Ond dyma Necho yn anfon negeswyr ato, “Beth sydd gan hyn i'w wneud â ti, frenin Jwda? Dw i ddim yn ymosod arnat ti; teyrnas arall dw i'n ei rhyfela. Mae Duw gyda mi, ac wedi dweud wrtho i am frysio, felly stopia ymyrryd rhag i mi dy ddinistrio di.”
II C WelBeibl 35:22  Ond wnaeth Joseia ddim troi yn ôl. Dyma fe'n newid ei ddillad i geisio cuddio pwy oedd e. Wnaeth e ddim gwrando ar Necho, er mai Duw oedd wedi rhoi'r neges iddo. Felly aeth allan i ryfela yn ei erbyn ar wastatir Megido.
II C WelBeibl 35:23  Cafodd y Brenin Joseia ei saethu gan fwasaethwyr. A dyma fe'n dweud wrth ei weision, “Ewch â fi o'ma. Dw i wedi cael fy anafu'n ddrwg!”
II C WelBeibl 35:24  Felly dyma'i weision yn ei symud o'i gerbyd i gerbyd arall, a mynd ag e yn ôl i Jerwsalem. Ond bu farw, a chafodd ei gladdu ym mynwent ei hynafiaid. Roedd pobl Jwda a Jerwsalem i gyd yn galaru ar ei ôl.
II C WelBeibl 35:25  Ysgrifennodd Jeremeia gerddi i alaru ar ôl Joseia, ac mae cantorion yn dal i'w canu hyd heddiw. Mae'n draddodiad yn Israel i'w canu nhw. Maen nhw wedi'u cadw yn Llyfr y Galarnadau.
II C WelBeibl 35:26  Mae gweddill hanes Joseia, ei ymrwymiad i gadw beth mae Cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud,
II C WelBeibl 35:27  a phopeth arall wnaeth e o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel.