Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CORINTHIANS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 6
II C WelBeibl 6:1  Dŷn ni'n cydweithio gyda Duw ac yn apelio atoch chi i beidio ymateb yn arwynebol i'w haelioni e.
II C WelBeibl 6:2  Mae Duw'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Bydda i'n gwrando arnat ti pan fydd yr amser yn iawn, Ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub.” Edrychwch! Mae'r amser iawn wedi dod! Mae'r dydd i Dduw achub yma!
II C WelBeibl 6:3  Dŷn ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystro pobl rhag dod i gredu, fel bod dim modd beio ein gwaith ni.
II C WelBeibl 6:4  Na, dŷn ni am ddangos yn glir mai gweision Duw ydyn ni. Dangos hynny yn y ffordd dŷn ni'n dal ati yng nghanol ein holl drafferthion, pan mae pethau'n galed ac yn edrych yn anobeithiol.
II C WelBeibl 6:5  Dŷn ni wedi cael ein curo, ein carcharu, ein bygwth gan y mob, wedi gweithio nes ein bod wedi ymlâdd yn llwyr, ac wedi colli cwsg a gorfod mynd heb fwyd.
II C WelBeibl 6:6  Dangos hynny hefyd drwy'n bywydau glân, ein dealltwriaeth o'r gwirionedd, ein hamynedd gyda phobl, a'n caredigrwydd at bobl; a thrwy nerth yr Ysbryd Glân ar waith ynon ni, a'n cariad dwfn atoch chi.
II C WelBeibl 6:7  A hefyd drwy gyhoeddi'r gwir yn ffyddlon, a gwneud hynny gyda'r nerth mae Duw'n ei roi – gydag arfau cyfiawnder, i ymosod ac amddiffyn.
II C WelBeibl 6:8  Dŷn ni weithiau'n cael ein canmol, dro arall yn cael ein sarhau; mae pobl yn dweud pethau drwg a da amdanon ni. Dŷn ni'n cael ein galw'n dwyllwyr er ein bod ni'n dweud y gwir.
II C WelBeibl 6:9  Mae rhai'n dweud ein bod ni'n neb, ac eto mae pawb yn gwybod amdanon ni! Dŷn ni'n agos at farw, ac eto'n dal yn fyw: wedi'n chwipio, mae'n wir, ond heb ein lladd.
II C WelBeibl 6:10  Yn dal i orfoleddu er gwaetha'r holl dristwch. Yn gwybod ein bod ni'n dlawd, ac eto'n rhannu cyfoeth ysbrydol gyda llawer. Heb ddim, ac eto mae gynnon ni bopeth sydd ei angen!
II C WelBeibl 6:11  Ffrindiau annwyl Corinth, dŷn ni wedi bod yn gwbl agored gyda chi. Dŷn ni wedi rhoi'n hunain yn llwyr i chi!
II C WelBeibl 6:12  Dŷn ni ddim yn dal ein cariad yn ôl, chi sy'n dal yn ôl.
II C WelBeibl 6:13  Dewch yn eich blaen – dw i'n siarad â chi fel fy mhlant i – derbyniwch ni.
II C WelBeibl 6:14  Dych chi'n wahanol i bobl sydd ddim yn credu – felly peidiwch ymuno â nhw. Ydy cyfiawnder a drygioni'n gallu bod yn bartneriaid? Neu olau a thywyllwch?
II C WelBeibl 6:15  Ydy'r Meseia a'r diafol yn creu harmoni? Beth sydd gan rywun sy'n credu a rhywun sydd ddim yn credu yn gyffredin?
II C WelBeibl 6:16  Ydy'n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gyda'n gilydd yn deml i'r Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud: “Bydda i'n byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw; fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.”
II C WelBeibl 6:17  Felly mae'r Arglwydd yn dweud, “Dewch allan o'u canol nhw a bod yn wahanol.” “Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan, a chewch eich derbyn gen i.”
II C WelBeibl 6:18  “Bydda i'n Dad i chi, a byddwch chi yn feibion a merched i mi,” meddai'r Arglwydd Hollalluog.