II KINGS
Chapter 12
II K | WelBeibl | 12:1 | Cafodd Joas ei wneud yn frenin yn ystod seithfed flwyddyn Jehw fel brenin Israel. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba. | |
II K | WelBeibl | 12:2 | Yr holl amser y buodd e'n frenin, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi'i ddysgu. | |
II K | WelBeibl | 12:3 | Ond er hynny wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol. Roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. | |
II K | WelBeibl | 12:4 | Dwedodd Joas wrth yr offeiriaid, “Cymrwch yr arian sydd wedi cael ei gysegru i'r deml – treth y cyfrifiad, y pris dalwyd am unigolion, a'r rhoddion gwirfoddol. | |
II K | WelBeibl | 12:6 | Ond hyd yn oed pan oedd Joas wedi bod yn frenin am ddau ddeg tair o flynyddoedd, doedd yr offeiriaid yn dal ddim wedi atgyweirio'r deml. | |
II K | WelBeibl | 12:7 | Felly dyma'r Brenin Joas yn galw Jehoiada a'r offeiriaid eraill i'w weld, a gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi ddim wedi atgyweirio'r deml? O hyn ymlaen dych chi ddim i gadw unrhyw arian sy'n cael ei roi i chi. Rhaid i'r cwbl fynd tuag at atgyweirio'r deml.” | |
II K | WelBeibl | 12:8 | Felly dyma'r offeiriaid yn cytuno i beidio cymryd mwy o arian gan y bobl, ac i roi heibio'r cyfrifoldeb i atgyweirio'r deml. | |
II K | WelBeibl | 12:9 | Dyma Jehoiada'r offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma fe'n rhoi'r gist ar yr ochr dde i'r allor, wrth y fynedfa i'r deml. Roedd y porthorion yn rhoi'r holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist. | |
II K | WelBeibl | 12:10 | Pan oedden nhw'n gweld fod y gist yn llawn, roedd ysgrifennydd y brenin a'r archoffeiriad yn cyfri'r arian a'i roi mewn bagiau. | |
II K | WelBeibl | 12:11 | Yna roedden nhw'n ei roi i'r fformyn oedd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Roedden nhw wedyn yn ei ddefnyddio i dalu'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar y deml – | |
II K | WelBeibl | 12:12 | i'r dynion oedd yn adeiladu'r waliau a'r seiri maen, a hefyd i brynu coed, cerrig wedi'u naddu ac unrhyw beth arall oedd angen ar gyfer y gwaith. | |
II K | WelBeibl | 12:13 | Tra oedd y gwaith o atgyweirio'r deml yn digwydd, gafodd dim o'r arian ei ddefnyddio i dalu am bowlenni arian, sisyrnau, dysglau, utgyrn nac unrhyw gelfi aur ac arian eraill i'r deml. | |
II K | WelBeibl | 12:14 | Roedd y cwbl yn cael ei roi i'r fformyn oedd yn arolygu'r gwaith o atgyweirio teml yr ARGLWYDD. | |
II K | WelBeibl | 12:15 | Doedd dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian oedd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn gwbl onest. | |
II K | WelBeibl | 12:16 | (Ond doedd yr arian oedd yn cael ei dalu gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r aberth i buro o bechod ddim yn dod i'r deml. Yr offeiriaid oedd yn cael hwnnw.) | |
II K | WelBeibl | 12:17 | Bryd hynny dyma Hasael, brenin Syria, yn ymosod ar dre Gath a'i choncro. Yna dyma fe'n penderfynu ymosod ar Jerwsalem. | |
II K | WelBeibl | 12:18 | Ond dyma Joas, brenin Jwda, yn talu arian mawr iddo beidio ymosod. Cymerodd Joas y cwbl roedd e a'r brenhinoedd o'i flaen (sef Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia) wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD. Cymerodd yr aur oedd yn stordai'r deml a'r palas hefyd, ac anfon y cwbl i Hasael brenin Syria; a dyma Hasael a'i fyddin yn troi'n ôl a pheidio ymosod ar Jerwsalem. | |
II K | WelBeibl | 12:19 | Mae gweddill hanes Joas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Jwda. | |
II K | WelBeibl | 12:20 | Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le. | |