II KINGS
Chapter 21
II K | WelBeibl | 21:1 | Un deg dau oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Hefftsiba. | |
II K | WelBeibl | 21:2 | Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. | |
II K | WelBeibl | 21:3 | Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu dinistrio gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i Baal a pholion i'r dduwies Ashera, fel roedd y Brenin Ahab wedi gwneud yn Israel. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw. | |
II K | WelBeibl | 21:4 | Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Dw i am osod fy enw yn Jerwsalem.” | |
II K | WelBeibl | 21:6 | Llosgodd ei fab yn aberth, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth ac yn darogan. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a phobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio. | |
II K | WelBeibl | 21:7 | Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o'r dduwies Ashera a'i gosod yn y deml! – yn y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdano, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth. | |
II K | WelBeibl | 21:8 | Wna i ddim gyrru Israel allan o'r tir dw i wedi'i roi i'w hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith wnaeth fy ngwas Moses ei rhoi iddyn nhw.” | |
II K | WelBeibl | 21:9 | Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o flaen Israel! | |
II K | WelBeibl | 21:11 | “Mae Manasse, brenin Jwda wedi gwneud pethau ffiaidd, ac wedi pechu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen. Mae wedi gwneud i bobl Jwda bechu hefyd, drwy addoli ei eilunod ffiaidd. | |
II K | WelBeibl | 21:12 | Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddod â dinistr ar Jerwsalem a Jwda. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn gegagored. | |
II K | WelBeibl | 21:13 | Dw i'n mynd i wneud i Jerwsalem beth wnes i i Samaria ac i linach Ahab. Bydda i'n sychu Jerwsalem yn lân fel mae rhywun yn sychu dysgl a'i throi hi wyneb i waered. | |
II K | WelBeibl | 21:14 | Bydda i'n gwrthod y rhai sydd ar ôl o'm pobl, a'u rhoi nhw i'w gelynion. Byddan nhw fel ysbail i'w gasglu a gwobrau rhyfel i'w gelynion. | |
II K | WelBeibl | 21:15 | Mae hyn am eu bod wedi gwneud pethau drwg, ac wedi fy nigio i, o'r diwrnod y daeth eu hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw!” | |
II K | WelBeibl | 21:16 | Ar ben popeth arall roedd Manasse wedi lladd lot fawr o bobl ddiniwed – roedd staen eu gwaed ar bob stryd yn Jerwsalem! Hyn heb sôn am y ffaith ei fod wedi arwain pobl Jwda i bechu a gwneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. | |
II K | WelBeibl | 21:17 | Mae gweddill hanes Manasse, a'r pethau wnaeth e gyflawni (gan gynnwys yr holl bethau drwg wnaeth e), i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. | |
II K | WelBeibl | 21:18 | Pan fuodd Manasse farw, cafodd ei gladdu yng ngardd y palas, sef gardd Wssa. A dyma Amon, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. | |
II K | WelBeibl | 21:19 | Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd. Enw ei fam oedd Meshwlemeth (merch Charwts o Iotba). | |
II K | WelBeibl | 21:20 | Gwnaeth yntau bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse. | |
II K | WelBeibl | 21:22 | Roedd wedi troi ei gefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac wedi gwrthod ei ddilyn. | |
II K | WelBeibl | 21:23 | Yna dyma rai o swyddogion y Brenin Amon yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn ei balas. | |
II K | WelBeibl | 21:24 | Ond wedyn dyma bobl y wlad yn dienyddio pawb oedd wedi bod yn rhan o'r cynllwyn yn erbyn Amon. A dyma nhw'n gwneud Joseia, ei fab, yn frenin yn ei le. | |
II K | WelBeibl | 21:25 | Mae gweddill hanes yr hyn wnaeth Amon ei gyflawni i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. | |