Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 6
Josh WelBeibl 6:1  Roedd giatiau Jericho wedi'u cau'n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o'r ddinas.
Josh WelBeibl 6:2  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dw i'n mynd i roi dinas Jericho i ti. Byddi di'n concro ei brenin a'i byddin!
Josh WelBeibl 6:3  Dw i eisiau i dy fyddin di fartsio o gwmpas Jericho un waith bob dydd am chwe diwrnod.
Josh WelBeibl 6:4  Mae saith offeiriad i gerdded o flaen yr Arch, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid martsio o gwmpas y ddinas saith gwaith, gyda'r offeiriaid yn chwythu'r cyrn hwrdd.
Josh WelBeibl 6:5  Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i'r fyddin i gyd weiddi'n uchel. Bydd waliau'r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a'r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i'r ddinas.”
Josh WelBeibl 6:6  Felly dyma Josua fab Nwn yn galw'r offeiriaid ato a dweud wrthyn nhw, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, a rhoi saith offeiriad i fynd o'i blaen, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd.”
Josh WelBeibl 6:7  A dyma fe'n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.”
Josh WelBeibl 6:8  Ar ôl i Josua ddweud hyn, dyma'r saith offeiriad yn dechrau symud, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd wrth fynd. A dyma Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dilyn.
Josh WelBeibl 6:9  Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.
Josh WelBeibl 6:10  Ond roedd Josua wedi dweud wrth y milwyr, “Peidiwch gweiddi o gwbl. Cadwch yn hollol dawel nes i mi ddweud wrthoch chi am weiddi – wedyn cewch weiddi nerth eich pen!”
Josh WelBeibl 6:11  Felly dyma Josua yn gwneud iddyn nhw fynd ag Arch yr ARGLWYDD o gwmpas y ddinas un waith, cyn mynd yn ôl i'r gwersyll ac aros yno dros nos.
Josh WelBeibl 6:12  Yn gynnar y bore wedyn dyma Josua yn codi, a chael yr offeiriaid i fynd allan eto, yn cario Arch yr Ymrwymiad.
Josh WelBeibl 6:13  A dyma'r saith offeiriad yn mynd allan o flaen Arch yr ARGLWYDD, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.
Josh WelBeibl 6:14  Dyma nhw'n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna'n mynd yn ôl i'r gwersyll. A dyma nhw'n gwneud yr un peth am chwe diwrnod.
Josh WelBeibl 6:15  Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw'n codi gyda'r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o'r blaen – ond y tro yma dyma nhw'n mynd o'i chwmpas hi saith gwaith.
Josh WelBeibl 6:16  Y seithfed gwaith rownd, dyma'r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chi!
Josh WelBeibl 6:17  Mae'r ddinas, a phawb a phopeth sydd ynddi, i gael ei dinistrio'n llwyr, fel offrwm i'r ARGLWYDD. Dim ond Rahab y butain a'r rhai sydd gyda hi yn ei thŷ sydd i gael byw, am ei bod hi wedi cuddio'r ysbiwyr wnaethon ni eu hanfon.
Josh WelBeibl 6:18  A gwyliwch nad ydych chi'n cymryd unrhyw beth sydd i fod i gael ei ddinistrio. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n rhoi pobl Israel mewn perygl, ac yn achosi dinistr ofnadwy.
Josh WelBeibl 6:19  Yr ARGLWYDD sydd biau popeth wedi'i wneud o arian neu aur, pres neu haearn. Mae'r pethau hynny i gyd i'w cadw yn stordy'r ARGLWYDD.”
Josh WelBeibl 6:20  Pan glywodd y bobl y corn hwrdd yn seinio, dyma nhw'n gweiddi'n uchel. Syrthiodd wal y ddinas, a dyma'r milwyr yn mynd yn syth i mewn iddi ac yn ei choncro.
Josh WelBeibl 6:21  Dyma nhw'n lladd pawb a phopeth byw – dynion a merched, hen ac ifanc, gwartheg, defaid ac asynnod.
Josh WelBeibl 6:22  Ond roedd Josua wedi dweud wrth y ddau ddyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad, “Ewch chi i dŷ y butain, a dod â hi a'i theulu allan yn fyw, fel roeddech chi wedi addo iddi.”
Josh WelBeibl 6:23  Felly dyma'r ysbiwyr ifanc yn mynd i nôl Rahab, a'i thad a'i mam, ei brodyr, a phawb arall o'i theulu. Aethon nhw â hi a'i theulu i gyd i le saff tu allan i wersyll Israel.
Josh WelBeibl 6:24  Roedden nhw wedi llosgi'r ddinas a phopeth oedd ynddi, heblaw am y pethau aur ac arian, pres a haearn gafodd eu rhoi yn stordy tŷ'r ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 6:25  Ond roedd Josua wedi gadael i Rahab y butain fyw, a theulu ei thad a phawb arall oedd yn perthyn iddi. Mae ei theulu hi'n dal i fyw yn Israel hyd heddiw, am ei bod hi wedi cuddio'r dynion roedd Josua wedi'u hanfon i ysbïo ar Jericho.
Josh WelBeibl 6:26  Pan gafodd dinas Jericho ei dinistrio, roedd Josua wedi tyngu ar lw: “Bydd pwy bynnag sy'n ceisio ailadeiladu dinas Jericho yn cael ei felltithio gan yr ARGLWYDD. Bydd ei fab hynaf yn marw pan fydd e'n gosod y sylfeini, a'i fab ifancaf yn marw pan fydd e'n rhoi'r giatiau yn eu lle!”
Josh WelBeibl 6:27  Roedd yr ARGLWYDD gyda Josua, ac roedd parch mawr ato drwy'r wlad i gyd.