COLOSSIANS
Chapter 3
Colo | WelBeibl | 3:1 | Felly, am eich bod wedi cael eich codi i fywyd newydd gyda'r Meseia, ceisiwch beth sy'n y nefoedd, lle mae'r Meseia yn eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. | |
Colo | WelBeibl | 3:3 | Buoch farw, ac mae'r bywyd go iawn sydd gynnoch chi nawr wedi'i guddio'n saff gyda'r Meseia yn Nuw. | |
Colo | WelBeibl | 3:4 | Y Meseia ydy'ch bywyd chi. Pan fydd e'n dod i'r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e. | |
Colo | WelBeibl | 3:5 | Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! | |
Colo | WelBeibl | 3:6 | Pethau felly sy'n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo. | |
Colo | WelBeibl | 3:8 | Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus. | |
Colo | WelBeibl | 3:9 | Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio'r hen fywyd a'i ffyrdd | |
Colo | WelBeibl | 3:10 | ac wedi gwisgo'r bywyd newydd. Dyma'r ddynoliaeth newydd sy'n cael ei newid i fod yr un fath â'r Crëwr ei hun, ac sy'n dod i nabod Duw yn llawn. | |
Colo | WelBeibl | 3:11 | Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‛farbariad di-addysg‛ neu'n ‛anwariad gwyllt‛; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a'r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy'n cyfri ydy'r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy'n credu. | |
Colo | WelBeibl | 3:12 | Mae Duw wedi'ch dewis chi iddo'i hun ac wedi'ch caru chi'n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar. | |
Colo | WelBeibl | 3:13 | Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi'n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae'r Arglwydd wedi maddau i chi. | |
Colo | WelBeibl | 3:14 | A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu'r cwbl yn berffaith gyda'i gilydd. | |
Colo | WelBeibl | 3:15 | Gadewch i'r heddwch mae'r Meseia'n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi'ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti'r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar. | |
Colo | WelBeibl | 3:16 | Gadewch i'r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a'ch gwneud chi'n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio'ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw. | |
Colo | WelBeibl | 3:17 | Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist – ie, popeth! – popeth dych chi'n ei ddweud a'i wneud. Dyna sut dych chi'n dangos eich diolch i Dduw. | |
Colo | WelBeibl | 3:18 | Rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr – dyna'r peth iawn i bobl yr Arglwydd ei wneud. | |
Colo | WelBeibl | 3:20 | Rhaid i chi'r plant fod yn ufudd i'ch rhieni bob amser, am fod hynny'n plesio'r Arglwydd. | |
Colo | WelBeibl | 3:21 | Rhaid i chi'r tadau beidio bod mor galed ar eich plant nes eu bod nhw'n digalonni. | |
Colo | WelBeibl | 3:22 | Rhaid i chi sy'n gaethweision fod yn ufudd i'ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw'n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi'n parchu'r Arglwydd. | |
Colo | WelBeibl | 3:23 | Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol. | |
Colo | WelBeibl | 3:24 | Byddwch chi'n derbyn eich gwobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy'r meistr dych chi'n ei wasanaethu go iawn. | |