Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ECCLESIASTES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
Prev Up Next
Chapter 3
Eccl WelBeibl 3:1  Mae amser wedi'i bennu i bopeth, amser penodol i bopeth sy'n digwydd yn y byd:
Eccl WelBeibl 3:2  amser i gael eich geni ac amser i farw, amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd;
Eccl WelBeibl 3:3  amser i ladd ac amser i iacháu, amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu;
Eccl WelBeibl 3:4  amser i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i ddawnsio;
Eccl WelBeibl 3:5  amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig, amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio;
Eccl WelBeibl 3:6  amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll, amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd;
Eccl WelBeibl 3:7  amser i rwygo ac amser i bwytho, amser i gadw'n dawel ac amser i siarad;
Eccl WelBeibl 3:8  amser i garu ac amser i gasáu; amser i ryfel ac amser i heddwch.
Eccl WelBeibl 3:9  Felly, beth mae'r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech?
Eccl WelBeibl 3:10  Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi'u rhoi i bobl eu gwneud:
Eccl WelBeibl 3:11  Mae Duw'n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o'r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw'n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau.
Eccl WelBeibl 3:12  Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw.
Eccl WelBeibl 3:13  Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.
Eccl WelBeibl 3:14  Des i'r casgliad hefyd fod popeth mae Duw yn ei wneud yn aros am byth: does dim modd ychwanegu ato, na thynnu dim oddi wrtho. Mae Duw wedi gwneud pethau fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.
Eccl WelBeibl 3:15  “Mae popeth a fu yn dal i fod, a phopeth fydd fel popeth sydd. Mae Duw'n gwneud eto beth sydd wedi mynd heibio.”
Eccl WelBeibl 3:16  Peth arall dw i'n ei weld o hyd ac o hyd: lle byddwn i'n disgwyl cyfiawnder a thegwch mae drygioni!
Eccl WelBeibl 3:17  Meddyliais, “Bydd Duw yn barnu'r bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sy'n gwneud drygioni. Mae amser wedi'i bennu i bopeth, a bydd pob gweithred yn cael ei barnu.”
Eccl WelBeibl 3:18  Wedyn meddyliais, “Mae Duw yn gwneud i bobl weld eu bod nhw ddim gwell nag anifeiliaid.”
Eccl WelBeibl 3:19  Mae tynged pobl ac anifeiliaid yn union yr un fath: mae'r naill a'r llall yn marw, a'r un anadl sy'n eu cadw nhw'n fyw. Dydy pobl ddim gwell nag anifeiliaid. Dydy e'n gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 3:20  Mae'r ddau'n mynd i'r un lle yn y pen draw; mae'r ddau wedi dod o'r pridd ac yn mynd yn ôl i'r pridd.
Eccl WelBeibl 3:21  Does neb wir yn gwybod fod ysbryd pobl yn codi i fyny, ac ysbryd anifeiliaid yn mynd i lawr i'r ddaear.
Eccl WelBeibl 3:22  Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all rhywun ei wneud ydy mwynhau ei waith. Dyna ei unig wobr. Pwy ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl iddo farw?