EPHESIANS
Chapter 1
Ephe | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. At bobl Dduw yn Effesus, sy'n dilyn y Meseia Iesu, ac yn ffyddlon iddo: | |
Ephe | WelBeibl | 1:2 | Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. | |
Ephe | WelBeibl | 1:3 | Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sy'n y byd nefol arnon ni sy'n perthyn i'r Meseia. | |
Ephe | WelBeibl | 1:4 | Hyd yn oed cyn i'r byd gael ei greu, cawson ni'n dewis ganddo i fod mewn perthynas â'r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad | |
Ephe | WelBeibl | 1:5 | trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i'w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! | |
Ephe | WelBeibl | 1:6 | Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi'i ddangos tuag aton ni! – ei anrheg i ni yn y Mab mae'n ei garu. | |
Ephe | WelBeibl | 1:7 | Cawson ni'n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni'n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! | |
Ephe | WelBeibl | 1:9 | Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy'r Meseia. Trefnu | |
Ephe | WelBeibl | 1:10 | i ddod â phopeth sy'n bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod. | |
Ephe | WelBeibl | 1:11 | Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â'r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu'r cwbl ymlaen llaw. Mae'n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio. | |
Ephe | WelBeibl | 1:12 | Mae am i ni'r Iddewon, y rhai cyntaf i roi'n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych. | |
Ephe | WelBeibl | 1:13 | Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd – cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â'r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy'n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy'n dangos eich bod yn perthyn iddo, a'r sêl hwnnw ydy'r Ysbryd Glân oedd wedi'i addo i chi. | |
Ephe | WelBeibl | 1:14 | Yr Ysbryd ydy'r blaendal sy'n gwarantu'r ffaith bod lle wedi'i gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i'w feddiannu'n llawn. Rheswm arall i'w foli am ei fod mor wych! | |
Ephe | WelBeibl | 1:15 | Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i'r Arglwydd Iesu a'ch cariad at Gristnogion eraill, | |
Ephe | WelBeibl | 1:16 | dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i'n cofio amdanoch chi bob tro dw i'n gweddïo. | |
Ephe | WelBeibl | 1:17 | Dw i'n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi'r Ysbryd i chi i'ch goleuo a'ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i'w nabod yn well. | |
Ephe | WelBeibl | 1:18 | Dw i'n gweddïo y daw'r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy'r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy'r lle bendigedig sydd ganddo i'w bobl. | |
Ephe | WelBeibl | 1:19 | Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy'r nerth sydd ar gael i ni sy'n credu. Dyma'r pŵer aruthrol | |
Ephe | WelBeibl | 1:20 | wnaeth godi'r Meseia yn ôl yn fyw a'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol. | |
Ephe | WelBeibl | 1:21 | Mae'n llawer uwch nag unrhyw un arall sy'n teyrnasu neu'n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy'n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na'r byd sydd i ddod! | |
Ephe | WelBeibl | 1:22 | Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Mae wedi'i wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys. | |