Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EPHESIANS
1 2 3 4 5 6
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 5
Ephe WelBeibl 5:1  Felly dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo.
Ephe WelBeibl 5:2  Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni. Rhoddodd ei hun fel offrwm ac aberth oedd yn arogli'n hyfryd i Dduw.
Ephe WelBeibl 5:3  Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw.
Ephe WelBeibl 5:4  Dim iaith anweddus, siarad dwl a jôcs budron chwaith – does dim lle i bethau felly. Yn lle hynny dylech chi ddiolch i Dduw.
Ephe WelBeibl 5:5  Dych chi'n gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw a'i Feseia sy'n teyrnasu ym mywydau'r bobl hynny sy'n byw'n anfoesol, neu'n aflan, neu'n bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!
Ephe WelBeibl 5:6  Peidiwch gadael i neb eich twyllo gyda'u geiriau gwag. Mae'r bobl yma'n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo.
Ephe WelBeibl 5:8  Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau'r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos eich bod chi yn y golau.
Ephe WelBeibl 5:9  Pethau da a chyfiawn a gwir ydy'r ffrwyth sy'n tyfu yn y golau.
Ephe WelBeibl 5:11  Peidiwch cael dim i'w wneud â'r math o ymddygiad sy'n perthyn i'r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw.
Ephe WelBeibl 5:12  Mae'n warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud o'r golwg.
Ephe WelBeibl 5:13  Ond pan mae'r golau'n disgleirio mae'r cwbl yn dod i'r golwg.
Ephe WelBeibl 5:14  Mae'r golau'n dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam mae'n cael ei ddweud: “Deffra, ti sydd yn cysgu tyrd yn ôl yn fyw! a bydd golau'r Meseia yn disgleirio arnat ti.”
Ephe WelBeibl 5:15  Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth.
Ephe WelBeibl 5:16  Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman.
Ephe WelBeibl 5:17  Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae'r Arglwydd eisiau.
Ephe WelBeibl 5:18  Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difetha'ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi a'ch rheoli chi.
Ephe WelBeibl 5:19  Canwch salmau ac emynau a chaneuon ysbrydol i'ch gilydd – canwch fawl yn frwd i'r Arglwydd.
Ephe WelBeibl 5:20  Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi'i wneud.
Ephe WelBeibl 5:21  Dylech fod yn atebol i'ch gilydd fel arwydd o'ch parch at y Meseia ei hun.
Ephe WelBeibl 5:22  Chi'r gwragedd i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd ei hun.
Ephe WelBeibl 5:23  O'r gŵr mae'r wraig yn tarddu, fel mae'r eglwys yn tarddu o'r Meseia (rhoddodd ei fywyd i'w hachub hi!)
Ephe WelBeibl 5:24  Felly, fel mae'r eglwys yn atebol i'r Meseia, rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr ym mhopeth.
Ephe WelBeibl 5:25  Chi'r gwŷr, rhaid i chi garu eich gwragedd yn union fel mae'r Meseia wedi caru'r eglwys. Rhoddodd ei fywyd yn aberth drosti,
Ephe WelBeibl 5:26  i'w chysegru hi a'i gwneud yn lân. Mae dŵr y bedydd yn arwydd o'r golchi sy'n digwydd drwy'r neges sy'n cael ei chyhoeddi.
Ephe WelBeibl 5:27  Mae'r Meseia am gymryd yr eglwys iddo'i hun fel priodferch hardd – heb smotyn na chrychni na dim arall o'i le arni – yn berffaith lân a di-fai.
Ephe WelBeibl 5:28  Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd – fel eu cyrff eu hunain! Mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun!
Ephe WelBeibl 5:29  Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain – maen nhw'n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw. A dyna sut mae'r Meseia yn gofalu am yr eglwys,
Ephe WelBeibl 5:31  Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth fel hyn: “bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.”
Ephe WelBeibl 5:32  Mae rhyw wirionedd mawr yn guddiedig yma – sôn ydw i am berthynas y Meseia a'i eglwys.
Ephe WelBeibl 5:33  Beth bynnag, dyna ddylai pob un ohonoch chi ei wneud – caru ei wraig fel mae'n ei garu ei hun, fel bod y wraig wedyn yn parchu ei gŵr.