Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EPHESIANS
1 2 3 4 5 6
Prev Up Next
Chapter 4
Ephe WelBeibl 4:1  Felly, dyma fi yn garcharor am wasanaethu'r Arglwydd. Dw i'n pwyso arnoch chi i fyw fel y dylai pobl mae Duw wedi'u galw i berthyn iddo fyw.
Ephe WelBeibl 4:2  Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad.
Ephe WelBeibl 4:3  Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi'ch gwneud chi'n un, a'i fod yn eich clymu chi gyda'ch gilydd mewn heddwch.
Ephe WelBeibl 4:4  Gan mai'r un Ysbryd Glân sydd gynnon ni, dŷn ni'n un corff – a dych chi wedi'ch galw gan Dduw i rannu'r un gobaith.
Ephe WelBeibl 4:6  a dim ond un Duw a Thad i bawb. Y Duw sy'n teyrnasu dros bopeth, ac sy'n gweithio drwy bob un ac ym mhob un!
Ephe WelBeibl 4:7  Ond mae'r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i'w roi i bawb.
Ephe WelBeibl 4:8  Dyna pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i'r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.”
Ephe WelBeibl 4:9  (Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr i'r byd daearol?
Ephe WelBeibl 4:10  A'r un ddaeth i lawr ydy'r union un aeth i fyny i'r man uchaf yn y nefoedd, er mwyn i'w lywodraeth lenwi'r bydysawd cyfan.)
Ephe WelBeibl 4:11  A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon.
Ephe WelBeibl 4:12  Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf.
Ephe WelBeibl 4:13  Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.
Ephe WelBeibl 4:14  Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir.
Ephe WelBeibl 4:15  Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia.
Ephe WelBeibl 4:16  Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi'i weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.
Ephe WelBeibl 4:17  Felly gyda'r awdurdod mae'r Arglwydd ei hun wedi'i roi i mi, dw i'n dweud wrthoch chi, ac yn mynnu hyn: peidiwch byw fel mae'r paganiaid di-gred yn byw. Dŷn nhw'n deall dim –
Ephe WelBeibl 4:18  maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wedi'u gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw i'w gynnig am eu bod nhw'n gwrthod gwrando. Maen nhw'n ystyfnig!
Ephe WelBeibl 4:19  Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dŷn nhw'n gwneud dim byd ond byw'n anfoesol a gadael i'w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy'r adeg.
Ephe WelBeibl 4:20  Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia –
Ephe WelBeibl 4:21  os mai fe ydy'r un dych chi wedi'ch dysgu i'w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i'r gwir.
Ephe WelBeibl 4:22  Felly rhaid i chi gael gwared â'r hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wedi'i lygru gan chwantau twyllodrus.
Ephe WelBeibl 4:24  Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wedi'i fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.
Ephe WelBeibl 4:25  Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd”, am ein bod ni'n perthyn i'r un corff.
Ephe WelBeibl 4:26  “Peidiwch pechu pan dych chi wedi digio” – gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd.
Ephe WelBeibl 4:28  Rhaid i'r person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth, fel bod ganddo rywbeth i'w rannu gyda phobl mewn angen.
Ephe WelBeibl 4:29  Peidiwch defnyddio iaith aflan. Dylech ddweud pethau sy'n helpu pobl eraill – pethau sy'n bendithio'r rhai sy'n eich clywed chi.
Ephe WelBeibl 4:30  Peidiwch brifo teimladau Ysbryd Glân Duw. Yr Ysbryd ydy'r sêl sy'n eich marcio chi fel rhai fydd yn cael rhyddid llwyr ar y diwrnod hwnnw pan fydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl.
Ephe WelBeibl 4:31  Rhaid i chi beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas, a bod yn faleisus.
Ephe WelBeibl 4:32  Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia.