Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EPHESIANS
1 2 3 4 5 6
Prev Up Next
Chapter 3
Ephe WelBeibl 3:1  Dyma pam dw i, Paul, yn garcharor – am fy mod i'n pregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y Meseia Iesu.
Ephe WelBeibl 3:2  Dw i'n cymryd eich bod wedi clywed am y gwaith penodol roddodd Duw i mi i'ch helpu chi.
Ephe WelBeibl 3:3  Dangosodd i mi rywbeth oedd wedi'i guddio o'r blaen. Dw i wedi ceisio'i esbonio'n fyr yma.
Ephe WelBeibl 3:4  Wrth i chi ei ddarllen, dewch i weld sut dw i'n deall beth oedd yn ddirgelwch am y Meseia.
Ephe WelBeibl 3:5  Doedd pobl yn y gorffennol ddim wedi cael gwybod y cwbl y mae'r Ysbryd Glân wedi'i ddangos i ni ei gynrychiolwyr a'i broffwydi.
Ephe WelBeibl 3:6  Dyma'r dirgelwch i chi: fod pobl o genhedloedd eraill yn cael rhannu'r cwbl mae Duw wedi'i baratoi i'r Iddewon. Mae'r Meseia Iesu wedi'u gwneud nhw'n un corff gyda'r Iddewon, a byddan nhw'n cael rhannu'r bendithion gafodd eu haddo hefyd!
Ephe WelBeibl 3:7  Dyma'r newyddion da dw i'n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy'r un sy'n rhoi'r nerth i mi wneud y cwbl.
Ephe WelBeibl 3:8  Dw i'n neb. Dw i wedi syrthio'n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni.
Ephe WelBeibl 3:9  Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi'i gadw o'r golwg cyn hyn.
Ephe WelBeibl 3:10  Pwrpas Duw ydy i'r rhai sy'n llywodraethu ac i'r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A'r eglwys sy'n dangos hynny iddyn nhw.
Ephe WelBeibl 3:11  Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae'r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni.
Ephe WelBeibl 3:12  Dŷn ni'n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni'n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e.
Ephe WelBeibl 3:13  Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i'n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo!
Ephe WelBeibl 3:14  Wrth feddwl am hyn i gyd dw i'n syrthio ar fy ngliniau i weddïo ar Dduw y Tad.
Ephe WelBeibl 3:15  Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear.
Ephe WelBeibl 3:16  Dw i'n gweddïo y bydd yn defnyddio'r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi.
Ephe WelBeibl 3:17  Dw i'n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i'w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi'n ei wneud – dyna'r sylfaen i adeiladu arni!
Ephe WelBeibl 3:18  Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall!
Ephe WelBeibl 3:19  Dw i am i chi brofi y cariad hwnnw sy'n llawer rhy fawr i'w brofi yn llawn, er mwyn i chi gael eich llenwi â'r cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer.
Ephe WelBeibl 3:20  Clod iddo! Mae'n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni'n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!
Ephe WelBeibl 3:21  Dylen ni sydd yn yr eglwys ac wedi'n huno gyda'r Meseia Iesu roi clod iddo am byth bythoedd! Amen.