Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EXODUS
Prev Up Next
Chapter 2
Exod WelBeibl 2:1  Bryd hynny, roedd dyn o deulu Lefi wedi priodi gwraig ifanc oedd hefyd yn un o ddisgynyddion Lefi.
Exod WelBeibl 2:2  A dyma'r wraig yn beichiogi, ac yn cael mab. Pan welodd hi'r babi bach hyfryd, dyma hi'n ei guddio am dri mis.
Exod WelBeibl 2:3  Ond ar ôl hynny roedd hi'n amhosib ei guddio. Felly dyma hi'n cymryd basged frwyn, a'i selio gyda tar. Yna rhoi'r babi yn y fasged, a'i osod yng nghanol y brwyn ar lan afon Nîl.
Exod WelBeibl 2:4  Aeth chwaer y plentyn i sefyll heb fod yn rhy bell, i weld beth fyddai'n digwydd iddo.
Exod WelBeibl 2:5  Daeth merch y Pharo i lawr at yr afon i ymdrochi, tra oedd ei morynion yn cerdded ar lan yr afon. A dyma hi'n sylwi ar y fasged yng nghanol y brwyn, ac yn anfon caethferch i'w nôl.
Exod WelBeibl 2:6  Agorodd y fasged, a gweld y babi bach – bachgen, ac roedd yn crio. Roedd hi'n teimlo trueni drosto. “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn,” meddai.
Exod WelBeibl 2:7  Yna dyma chwaer y plentyn yn mynd at ferch y Pharo, a gofyn, “Ga i fynd i nôl un o'r gwragedd Hebreig i fagu'r plentyn i chi?”
Exod WelBeibl 2:8  A dyma ferch y Pharo yn dweud, “Ie, gwna hynny!” Felly dyma hi'n mynd adre i nôl mam y babi.
Exod WelBeibl 2:9  A dyma ferch y Pharo yn dweud wrthi, “Dw i eisiau i ti gymryd y plentyn yma, a'i fagu ar y fron i mi. Gwna i dalu cyflog i ti am wneud hynny.” Felly aeth y wraig a'r plentyn adre i'w fagu.
Exod WelBeibl 2:10  Yna, pan oedd y plentyn yn ddigon hen, dyma hi'n mynd ag e at ferch y Pharo, a dyma hithau'n ei fabwysiadu yn fab iddi'i hun. Rhoddodd yr enw Moses iddo – “Am fy mod wedi'i dynnu allan o'r dŵr,” meddai.
Exod WelBeibl 2:11  Flynyddoedd wedyn, pan oedd Moses wedi tyfu'n oedolyn, aeth allan at ei bobl, a gweld fel roedden nhw'n cael eu cam-drin. Gwelodd Eifftiwr yn curo Hebrëwr – un o'i bobl ei hun!
Exod WelBeibl 2:12  Ar ôl edrych o'i gwmpas i wneud yn siŵr fod neb yn ei weld, dyma fe'n taro'r Eifftiwr a'i ladd, a chladdu ei gorff yn y tywod.
Exod WelBeibl 2:13  Pan aeth allan y diwrnod wedyn, gwelodd ddau Hebrëwr yn dechrau ymladd gyda'i gilydd. A dyma Moses yn dweud wrth yr un oedd ar fai, “Pam wyt ti'n ymosod ar dy ffrind?”
Exod WelBeibl 2:14  A dyma'r dyn yn ei ateb, “Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna?” Roedd Moses wedi dychryn, a meddyliodd, “Mae'n rhaid bod pobl yn gwybod beth wnes i.”
Exod WelBeibl 2:15  A dyma'r Pharo yn dod i glywed am y peth, ac roedd am ladd Moses. Felly dyma Moses yn dianc oddi wrtho a mynd i wlad Midian. Pan gyrhaeddodd yno, eisteddodd wrth ymyl rhyw ffynnon.
Exod WelBeibl 2:16  Roedd gan offeiriad Midian saith merch, a dyma nhw'n dod at y ffynnon, a dechrau codi dŵr i'r cafnau er mwyn i ddefaid a geifr eu tad gael yfed.
Exod WelBeibl 2:17  Daeth grŵp o fugeiliaid yno a'u gyrru nhw i ffwrdd. Ond dyma Moses yn achub y merched, ac yn codi dŵr i'w defaid nhw.
Exod WelBeibl 2:18  Pan aeth y merched adre at eu tad, Reuel, dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod adre mor gynnar heddiw?”
Exod WelBeibl 2:19  A dyma nhw'n dweud wrtho, “Daeth rhyw Eifftiwr a'n hachub ni rhag y bugeiliaid, ac yna codi dŵr i'r praidd.”
Exod WelBeibl 2:20  A dyma fe'n gofyn i'w ferched, “Ble mae e? Pam yn y byd wnaethoch chi adael y dyn allan yna? Ewch i'w nôl, a gofyn iddo ddod i gael pryd o fwyd gyda ni.”
Exod WelBeibl 2:21  Cytunodd Moses i aros gyda nhw, a dyma Reuel yn rhoi ei ferch Seffora yn wraig iddo.
Exod WelBeibl 2:22  Wedyn dyma nhw'n cael mab, a dyma Moses yn rhoi'r enw Gershom iddo – “Mewnfudwr yn byw mewn gwlad estron ydw i,” meddai.
Exod WelBeibl 2:23  Aeth blynyddoedd heibio, a dyma frenin yr Aifft yn marw. Roedd pobl Israel yn griddfan am eu bod yn dioddef fel caethweision. Roedden nhw'n gweiddi'n daer am help, a dyma'u cri yn cyrraedd Duw.
Exod WelBeibl 2:24  Clywodd Duw nhw'n griddfan, ac roedd yn cofio ei ymrwymiad i Abraham, Isaac a Jacob.
Exod WelBeibl 2:25  Gwelodd Duw bobl Israel, ac roedd yn teimlo i'r byw drostyn nhw.