Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EXODUS
Prev Up Next
Chapter 21
Exod WelBeibl 21:2  Os wyt ti'n prynu Hebrëwr yn gaethwas, rhaid iddo weithio i ti am chwe mlynedd. Ond ar ddechrau'r seithfed flwyddyn mae'n rhydd i fynd, heb dalu dim i ti.
Exod WelBeibl 21:3  Os oedd yn sengl pan ddechreuodd weithio i ti, bydd yn gadael ar ei ben ei hun; ond os oedd yn briod, bydd ei wraig yn cael mynd gydag e.
Exod WelBeibl 21:4  Os mai ei feistr roddodd wraig iddo, a hithau wedi cael plant, mae'r wraig a'i phlant yn aros gyda'r meistr, a'r gwas yn gadael ar ei ben ei hun.
Exod WelBeibl 21:5  Ond falle y bydd y gwas yn dweud, ‘Dw i'n hapus gyda fy meistr, fy ngwraig a'm plant – dw i ddim eisiau bod yn ddyn rhydd.’
Exod WelBeibl 21:6  Os felly, bydd rhaid i'r meistr fynd i'w gyflwyno o flaen Duw. Wedyn bydd y meistr yn mynd ag e at y drws neu ffrâm y drws, ac yn rhoi twll drwy glust y gwas gyda mynawyd, i ddangos ei fod wedi dewis gweithio i'w feistr am weddill ei fywyd.
Exod WelBeibl 21:7  Os ydy rhywun wedi gwerthu ei ferch i weithio fel caethforwyn, fydd hi ddim yn cael mynd yn rhydd ar ddiwedd y chwe mlynedd, fel y dynion.
Exod WelBeibl 21:8  Os nad ydy'r ferch yn plesio'r meistr wnaeth ei chymryd hi, mae'n gallu caniatáu i rywun ei phrynu hi'n ôl. Ond does ganddo ddim hawl i'w gwerthu hi i rywun o wlad arall, am ei fod wedi delio'n annheg gyda hi.
Exod WelBeibl 21:9  Os ydy e wedi dewis ei rhoi hi i'w fab, rhaid iddi hi gael yr un hawliau, a chael ei thrin fel petai'n ferch iddo.
Exod WelBeibl 21:10  Os ydy e'n cymryd gwraig arall, mae gan y wraig gyntaf hawl i dderbyn bwyd a dillad ganddo, ac i gael rhyw gydag e.
Exod WelBeibl 21:11  Os nad ydy e'n fodlon rhoi'r tri peth yna iddi, mae ganddi hawl i fynd yn rhydd, heb dalu dim.
Exod WelBeibl 21:12  Os ydy rhywun yn taro person arall a'i ladd, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 21:13  Os digwyddodd y peth drwy ddamwain, heb unrhyw fwriad i ladd, dw i'n mynd i drefnu lle saff i'r lladdwr ddianc iddo.
Exod WelBeibl 21:14  Ond os oedd bwriad clir i ladd y person arall, cewch lusgo'r llofrudd i ffwrdd a'i ddienyddio, hyd yn oed os oedd e wedi dianc at fy allor i.
Exod WelBeibl 21:15  Os ydy rhywun yn taro ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 21:16  Os ydy rhywun yn herwgipio person arall, i'w werthu neu i'w ddal yn gaeth, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 21:17  Os ydy rhywun yn melltithio'i dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 21:18  Dyma sydd i ddigwydd os bydd dynion yn ymladd, ac un yn taro'r llall gyda charreg neu gyda'i ddwrn nes ei anafu a'i adael yn orweddog, ond heb ei ladd:
Exod WelBeibl 21:19  Os bydd yr un gafodd ei anafu yn gwella ac yn gallu cerdded eto gyda ffon, fydd dim rhaid cosbi'r dyn wnaeth ei daro. Ond bydd disgwyl iddo dalu iawndal am yr amser gwaith gollodd y llall, a thalu unrhyw gostau meddygol nes bydd wedi gwella.
Exod WelBeibl 21:20  Os ydy rhywun yn curo ei gaethwas neu ei forwyn gyda ffon, a'r gwas neu'r forwyn yn marw, rhaid iddo gael ei gosbi.
Exod WelBeibl 21:21  Ond os ydy'r gwas neu'r forwyn yn dal yn fyw ar ôl diwrnod neu ddau, fydd y meistr ddim yn cael ei gosbi. Bydd eisoes ar ei golled.
Exod WelBeibl 21:22  Os bydd dynion yn ymladd ac yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli'r plentyn, ond heb gael unrhyw niwed pellach, rhaid i'r dyn wnaeth ei tharo gael ei gosbi a thalu faint bynnag o iawndal mae gŵr y wraig yn ei hawlio a'r llys yn ei ganiatáu.
Exod WelBeibl 21:23  Ond os ydy'r wraig ei hun yn cael niwed difrifol, rhaid i'r gosb gyfateb: Y ddedfryd fydd, bywyd am fywyd,
Exod WelBeibl 21:24  llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,
Exod WelBeibl 21:26  Os ydy rhywun yn taro ei gaethwas neu ei forwyn yn ei lygad, a'i ddallu, rhaid gadael iddo fe neu hi fynd yn rhydd, fel iawndal am golli ei lygad.
Exod WelBeibl 21:27  Os ydy e'n taro dant ei gaethwas neu ei forwyn allan, mae'r gwas neu'r forwyn i gael mynd yn rhydd, fel iawndal am y dant.
Exod WelBeibl 21:28  Os ydy dyn neu wraig yn marw am fod tarw wedi'i gornio e neu hi, rhaid lladd yr anifail drwy daflu cerrig ato, a dydy'r cig ddim i gael ei fwyta. Fydd y perchennog ddim yn cael ei gosbi.
Exod WelBeibl 21:29  Ond os oedd y tarw wedi cornio rhywun o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid i'r tarw gael ei ladd a rhaid i'r perchennog farw hefyd;
Exod WelBeibl 21:30  neu mae teulu'r un gafodd ei ladd yn gallu hawlio swm o arian yn iawndal gan berchennog y tarw.
Exod WelBeibl 21:31  Mae'r un peth yn wir os ydy'r tarw yn cornio plentyn.
Exod WelBeibl 21:32  Os ydy'r tarw yn cornio caethwas neu forwyn, mae'r perchennog i dalu tri deg darn o arian, ac mae'r tarw i gael ei ladd drwy daflu cerrig ato.
Exod WelBeibl 21:33  Os ydy rhywun yn cloddio pydew a'i adael ar agor, a tharw neu asyn rhywun yn syrthio iddo a marw,
Exod WelBeibl 21:34  rhaid i'r sawl sydd biau'r pydew dalu am yr anifail, ond bydd yn cael cadw'r corff.
Exod WelBeibl 21:35  Os ydy tarw un dyn yn cornio a lladd tarw rhywun arall, mae'r tarw byw i gael ei werthu, a'r arian i gael ei rannu rhyngddyn nhw. Maen nhw hefyd i rannu'r tarw gafodd ei ladd.
Exod WelBeibl 21:36  Ond os oedd y tarw wedi cornio o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid iddo roi tarw yn ei le, a bydd e'n cael cadw'r anifail marw.