EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 6
Exod | WelBeibl | 6:1 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Cei weld beth fydda i'n ei wneud i'r Pharo. Bydda i'n defnyddio fy nerth i'w orfodi e i'w gollwng nhw'n rhydd, a bydd e'n eu gyrru nhw allan o'i wlad!” | |
Exod | WelBeibl | 6:3 | Gwnes i ddangos fy hun i Abraham, Isaac a Jacob fel y Duw sy'n rheoli popeth. Ond doeddwn i ddim wedi gadael iddyn nhw fy nabod i wrth fy enw, yr ARGLWYDD. | |
Exod | WelBeibl | 6:4 | Rôn i wedi gwneud ymrwymiad i roi gwlad Canaan iddyn nhw, sef y wlad lle roedden nhw'n byw fel mewnfudwyr. | |
Exod | WelBeibl | 6:5 | Dw i wedi clywed pobl Israel yn griddfan am fod yr Eifftiaid wedi'u gwneud nhw'n gaethweision, a dw i wedi cofio fy ymrwymiad iddyn nhw. | |
Exod | WelBeibl | 6:6 | Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i'n mynd i ddod â chi allan o'r Aifft. Fyddwch chi ddim yn gaethweision i'r Eifftiaid o hyn ymlaen. Dw i'n mynd i'ch achub chi rhag cael eich cam-drin ganddyn nhw. Dw i'n mynd i ddefnyddio fy nerth i'ch rhyddhau chi, ac yn mynd i'w cosbi nhw. | |
Exod | WelBeibl | 6:7 | Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n bobl i mi fy hun. Fi fydd eich Duw chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o fod yn gaethweision yn yr Aifft. | |
Exod | WelBeibl | 6:8 | Bydda i'n dod â chi i'r wlad wnes i addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob – eich gwlad chi fydd hi wedyn! Fi ydy'r ARGLWYDD.’” | |
Exod | WelBeibl | 6:9 | Dyma Moses yn dweud hyn i gyd wrth bobl Israel, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando arno. Roedden nhw mor ddigalon am eu bod yn cael eu cam-drin mor ofnadwy. | |
Exod | WelBeibl | 6:11 | “Dos at y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad.” | |
Exod | WelBeibl | 6:12 | Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylai'r Pharo wrando arna i? Dw i'n siaradwr gwael.” | |
Exod | WelBeibl | 6:13 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft. | |
Exod | WelBeibl | 6:14 | Dyma enwau penaethiaid teuluoedd Israel: Meibion Reuben, mab hynaf Israel: Chanoch, Palw, Hesron a Carmi – enwau teuluoedd o lwyth Reuben. | |
Exod | WelBeibl | 6:15 | Meibion Simeon: Iemwel, Iamîn, Ohad, Iachîn, Sochar a Saul (mab i ferch o Canaan) – enwau teuluoedd o lwyth Simeon. | |
Exod | WelBeibl | 6:16 | A dyma enwau meibion Lefi (bob yn genhedlaeth): Gershon, Cohath a Merari (Roedd Lefi wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.) | |
Exod | WelBeibl | 6:18 | Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel (Roedd Cohath wedi byw i fod yn 133 mlwydd oed.) | |
Exod | WelBeibl | 6:20 | Roedd Amram wedi priodi Iochefed, chwaer ei dad, a nhw oedd rhieni Aaron a Moses. (Roedd Amram wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.) | |
Exod | WelBeibl | 6:23 | Roedd Aaron wedi priodi Elisheba (merch Aminadab, a chwaer i Nachshon), a nhw oedd rhieni Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar. | |
Exod | WelBeibl | 6:24 | Meibion Cora oedd Assir, Elcana ac Abiasaff. Eu disgynyddion nhw oedd y Corahiaid. | |
Exod | WelBeibl | 6:25 | Roedd Eleasar (mab Aaron) wedi priodi un o ferched Pwtiel, a nhw oedd rhieni Phineas. Dyma benaethiaid y teuluoedd o lwyth Lefi. | |
Exod | WelBeibl | 6:26 | Y rhain oedd yr Aaron a'r Moses wnaeth yr ARGLWYDD siarad â nhw, a dweud, “Dw i am i chi arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft mewn rhengoedd trefnus.” | |
Exod | WelBeibl | 6:27 | Nhw oedd y rhai aeth i siarad â'r Pharo, brenin yr Aifft, a mynnu ei fod yn gadael i bobl Israel fynd allan o'r Aifft – yr un Moses ac Aaron. | |
Exod | WelBeibl | 6:29 | dwedodd wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i eisiau i ti ddweud wrth y Pharo, brenin yr Aifft, bopeth dw i'n ei ddweud wrthot ti.” | |