EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 25
Exod | WelBeibl | 25:9 | Dw i eisiau i'r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i'n dangos i ti. | |
Exod | WelBeibl | 25:10 | “Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia – 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. | |
Exod | WelBeibl | 25:11 | Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. | |
Exod | WelBeibl | 25:14 | Mae'r polion i ffitio drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, ac i'w defnyddio i'w chario hi. | |
Exod | WelBeibl | 25:15 | Mae'r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser – rhaid peidio eu tynnu nhw allan. | |
Exod | WelBeibl | 25:16 | Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth, dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch. | |
Exod | WelBeibl | 25:17 | “Yna gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. | |
Exod | WelBeibl | 25:18 | Yna gwneud dau gerwb o aur wedi'i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun. | |
Exod | WelBeibl | 25:19 | Yna gwneud dau gerwb o aur wedi'i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun. | |
Exod | WelBeibl | 25:20 | Mae'r cerwbiaid i fod yn wynebu'i gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch. | |
Exod | WelBeibl | 25:21 | Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi. | |
Exod | WelBeibl | 25:22 | Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau gerwb sydd uwchben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud. | |
Exod | WelBeibl | 25:23 | “Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. | |
Exod | WelBeibl | 25:24 | Mae'r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i'w osod o'i gwmpas i'w addurno. | |
Exod | WelBeibl | 25:25 | Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi'i addurno yr un fath â'r border. | |
Exod | WelBeibl | 25:26 | Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau, | |
Exod | WelBeibl | 25:27 | wrth ymyl y croeslath. Mae'r cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion drwyddyn nhw i gario'r bwrdd. | |
Exod | WelBeibl | 25:28 | Mae'r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi'u gorchuddio gydag aur. | |
Exod | WelBeibl | 25:29 | Hefyd platiau, pedyll, jygiau a phowlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod. | |
Exod | WelBeibl | 25:31 | “Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi'i guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. | |
Exod | WelBeibl | 25:33 | Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau. | |
Exod | WelBeibl | 25:37 | Yna rhaid gwneud saith lamp, a'u gosod nhw arni fel eu bod yn goleuo o'i blaen hi. | |