EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 40
Exod | WelBeibl | 40:4 | Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni. | |
Exod | WelBeibl | 40:5 | Rho'r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl. | |
Exod | WelBeibl | 40:6 | Yna gosod yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, pabell presenoldeb Duw. | |
Exod | WelBeibl | 40:9 | “Wedyn cymer yr olew eneinio, a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i'w cysegru a'u gwneud yn sanctaidd. | |
Exod | WelBeibl | 40:10 | Eneinia'r allor i losgi'r offrymau a'i hoffer i gyd. Cysegra'r allor i'w gwneud hi'n gwbl sanctaidd. | |
Exod | WelBeibl | 40:12 | “Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a'i feibion at fynedfa pabell presenoldeb Duw a'u golchi nhw â dŵr. | |
Exod | WelBeibl | 40:13 | Arwisga fe gyda'r gwisgoedd cysegredig, a'i eneinio a'i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi. | |
Exod | WelBeibl | 40:15 | a'u heneinio nhw fel gwnest ti eneinio eu tad, iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid i mi. Drwy eu heneinio ti'n rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw o wasanaethu fel offeiriaid i mi ar hyd y cenedlaethau.” | |
Exod | WelBeibl | 40:18 | Dyma Moses yn ei godi drwy roi'r socedi yn eu lle, yna codi'r fframiau, cysylltu'r croesfarrau a rhoi'r polion yn eu lle. | |
Exod | WelBeibl | 40:19 | Wedyn dyma fe'n lledu'r babell dros fframwaith y Tabernacl, a'r gorchudd dros hwnnw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Exod | WelBeibl | 40:20 | Yna dyma fe'n gosod Llechi'r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu'r polion iddi a rhoi'r caead arni. | |
Exod | WelBeibl | 40:21 | Wedyn mynd â'r Arch i'r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o'i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Exod | WelBeibl | 40:22 | Wedyn dyma fe'n gosod y bwrdd tu mewn i babell presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn. | |
Exod | WelBeibl | 40:23 | A gosod y bara mewn trefn ar y bwrdd, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Exod | WelBeibl | 40:24 | Wedyn gosod y menora tu mewn i babell presenoldeb Duw, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y Tabernacl. | |
Exod | WelBeibl | 40:25 | Yna gosod y lampau yn eu lle arni, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Exod | WelBeibl | 40:26 | Wedyn rhoi'r allor aur (allor yr arogldarth) tu mewn i babell presenoldeb Duw, o flaen y sgrîn, | |
Exod | WelBeibl | 40:27 | a llosgi arogldarth persawrus arni, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Exod | WelBeibl | 40:29 | Rhoddodd yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl hefyd, sef pabell presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Exod | WelBeibl | 40:30 | Wedyn gosod y ddysgl fawr rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi hi â dŵr ar gyfer ymolchi. | |
Exod | WelBeibl | 40:31 | Byddai Moses ac Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed gyda'r dŵr ynddi. | |
Exod | WelBeibl | 40:32 | Bydden nhw'n ymolchi bob tro roedden nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw neu'n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Exod | WelBeibl | 40:33 | Wedyn dyma fe'n gosod yr iard o gwmpas y Tabernacl a'r allor, a rhoi'r sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard. Felly dyma Moses yn gorffen y gwaith. | |
Exod | WelBeibl | 40:34 | A dyma'r cwmwl yn dod i lawr dros babell presenoldeb Duw, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi (sef y Tabernacl). | |
Exod | WelBeibl | 40:35 | Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i'r babell o achos y cwmwl oedd wedi setlo arni, ac am fod ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi. | |
Exod | WelBeibl | 40:36 | Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y Tabernacl, roedd pobl Israel yn mynd ymlaen ar eu taith. | |