EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 7
Exod | WelBeibl | 7:1 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Bydda i'n dy wneud di fel ‛duw‛ i'r Pharo, a dy frawd Aaron fel dy broffwyd. | |
Exod | WelBeibl | 7:2 | Rwyt i ddweud popeth dw i'n ei orchymyn i ti, ac mae dy frawd Aaron i ddweud wrth y Pharo fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad. | |
Exod | WelBeibl | 7:3 | Ond bydda i'n gwneud y Pharo'n ystyfnig. Bydda i'n gwneud lot fawr o arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft, | |
Exod | WelBeibl | 7:4 | ond fydd y Pharo ddim yn gwrando. Felly bydda i'n taro'r Aifft, yn eu cosbi nhw'n llym, ac yn arwain fy mhobl Israel allan o'r wlad mewn rhengoedd trefnus. | |
Exod | WelBeibl | 7:5 | Wedyn bydd pobl yr Aifft yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n taro'r Aifft ac yn arwain pobl Israel allan o'u gwlad nhw.” | |
Exod | WelBeibl | 7:6 | Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw. | |
Exod | WelBeibl | 7:7 | Roedd Moses yn wyth deg oed, ac Aaron yn wyth deg tri, pan aethon nhw i siarad â'r Pharo. | |
Exod | WelBeibl | 7:9 | “Pan fydd y Pharo yn dweud, ‘Dangoswch wyrth i mi,’ dywed wrth Aaron am daflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo, a bydd y ffon yn troi'n neidr anferth.” | |
Exod | WelBeibl | 7:10 | Pan aeth Moses ac Aaron at y Pharo, dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma Aaron yn taflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo a'i swyddogion, a dyma'r ffon yn troi'n neidr anferth. | |
Exod | WelBeibl | 7:11 | Ond yna dyma'r Pharo yn galw am swynwyr doeth a chonsurwyr – dewiniaid yr Aifft, oedd yn gwneud yr un math o beth drwy hud a lledrith. | |
Exod | WelBeibl | 7:12 | Dyma nhw i gyd yn taflu eu ffyn ar lawr, a dyma'r ffyn yn troi'n nadroedd. Ond dyma ffon Aaron yn llyncu eu ffyn nhw i gyd! | |
Exod | WelBeibl | 7:13 | Ond roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. | |
Exod | WelBeibl | 7:14 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Mae'r Pharo mor ystyfnig. Mae'n gwrthod rhyddhau y bobl. | |
Exod | WelBeibl | 7:15 | Bore yfory, dos i'w gyfarfod pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dos i sefyll ar lan afon Nîl, yn disgwyl amdano. Dos â dy ffon gyda ti, sef yr un wnaeth droi'n neidr. | |
Exod | WelBeibl | 7:16 | Dwed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti i ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw fy addoli i yn yr anialwch!” Ond hyd yn hyn rwyt ti wedi gwrthod gwrando. | |
Exod | WelBeibl | 7:17 | Felly mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dyma sut rwyt ti'n mynd i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD: Dw i'n mynd i daro dŵr afon Nîl gyda'r ffon yma, a bydd yn troi yn waed. | |
Exod | WelBeibl | 7:18 | Bydd y pysgod yn marw, a bydd afon Nîl yn drewi. Fydd pobl yr Aifft ddim yn gallu yfed dŵr ohoni.”’” | |
Exod | WelBeibl | 7:19 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed wrth Aaron am estyn ei ffon dros ddyfroedd yr Aifft – yr afonydd, y camlesi, y corsydd a'r dŵr sydd wedi'i gasglu – er mwyn i'r cwbl droi'n waed. Bydd gwaed drwy'r wlad i gyd, hyd yn oed yn y bwcedi pren a'r cafnau carreg.” | |
Exod | WelBeibl | 7:20 | Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Codi'r ffon a tharo dŵr afon Nîl o flaen llygaid y Pharo a'i swyddogion. A dyma ddŵr afon Nîl yn troi'n waed. | |
Exod | WelBeibl | 7:21 | Dyma'r pysgod yn yr afon yn marw, ac roedd y dŵr yn drewi mor ofnadwy, doedd pobl yr Aifft ddim yn gallu ei yfed. Roedd gwaed drwy wlad yr Aifft i gyd! | |
Exod | WelBeibl | 7:22 | Ond dyma ddewiniaid yr Aifft yn gwneud yr un peth drwy hud a lledrith. Felly roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. | |
Exod | WelBeibl | 7:24 | Ond roedd pobl gyffredin yr Aifft yn gorfod cloddio am ddŵr, am eu bod yn methu yfed dŵr afon Nîl. | |