EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 35
Exod | WelBeibl | 35:1 | Dyma Moses yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD wedi'i orchymyn i chi ei wneud: | |
Exod | WelBeibl | 35:2 | “Mae yna chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, yn Saboth i'r ARGLWYDD – diwrnod i chi orffwys. Os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth. | |
Exod | WelBeibl | 35:4 | Wedyn dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn. | |
Exod | WelBeibl | 35:5 | ‘Dylai pawb sy'n awyddus i gyfrannu ddod â rhoddion i'r ARGLWYDD: aur, arian, pres, | |
Exod | WelBeibl | 35:10 | Mae'r crefftwyr yn eich plith chi i ddod a gwneud popeth mae'r ARGLWYDD wedi'i orchymyn: | |
Exod | WelBeibl | 35:11 | Y Tabernacl, gyda'r babell a'i gorchudd, y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi. | |
Exod | WelBeibl | 35:15 | Allor yr arogldarth gyda'i pholion, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus. Y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r Tabernacl. | |
Exod | WelBeibl | 35:16 | Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi, y gratin bres sydd arni, y polion, a'r holl offer sy'n mynd gyda hi. Y ddysgl fawr gyda'i stand. | |
Exod | WelBeibl | 35:19 | Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi'u brodio'n hardd), gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion fydd hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’” | |
Exod | WelBeibl | 35:21 | Ond daeth rhai, oedd wedi'u sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a chyflwyno eu rhoddion i'r ARGLWYDD – rhoddion tuag at godi pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig. | |
Exod | WelBeibl | 35:22 | Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod – dynion a merched. A dyma nhw'n cyfrannu tlysau aur o bob math – broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno'r aur yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. | |
Exod | WelBeibl | 35:23 | Roedd eraill yn dod ag edau las, porffor neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, neu grwyn môr-fuchod. | |
Exod | WelBeibl | 35:24 | Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw. | |
Exod | WelBeibl | 35:25 | Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â'r defnydd roedden nhw wedi'i wneud – edau las, porffor neu goch, neu liain main drud. | |
Exod | WelBeibl | 35:26 | Roedd gwragedd eraill wedi'u hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wedi'i wneud o flew gafr. | |
Exod | WelBeibl | 35:27 | Dyma'r arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fyddai'n mynd dros y frest. | |
Exod | WelBeibl | 35:28 | Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus. | |
Exod | WelBeibl | 35:29 | Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol i'r ARGLWYDD – dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses. | |
Exod | WelBeibl | 35:30 | Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda. | |
Exod | WelBeibl | 35:31 | Mae wedi'i lenwi gydag Ysbryd Duw, sy'n rhoi dawn, deall a gallu iddo, i greu pob math o waith cywrain, | |
Exod | WelBeibl | 35:34 | Mae Duw wedi rhoi'r ddawn iddo fe, ac i Oholiab fab Achisamach o lwyth Dan, i ddysgu eu crefft i eraill. | |