Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I SAMUEL
Prev Up Next
Chapter 27
I Sa WelBeibl 27:1  Meddyliodd Dafydd, “Mae Saul yn mynd i'm lladd i un o'r dyddiau yma. Y peth gorau i mi fyddai dianc i wlad y Philistiaid. Wedyn bydd Saul yn rhoi'r gorau i geisio dod o hyd i mi yn ngwlad Israel. Bydda i o leia wedi llwyddo i ddianc o'i afael.”
I Sa WelBeibl 27:2  Felly dyma fe a'i chwe chant o ddynion yn croesi drosodd i dref Gath at y Brenin Achish, mab Maoch.
I Sa WelBeibl 27:3  Arhosodd Dafydd, a'i ddynion a'u teuluoedd, gydag Achish yn Gath. Roedd dwy wraig Dafydd gydag e hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail o Carmel (gweddw Nabal).
I Sa WelBeibl 27:4  Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc i Gath, dyma fe'n rhoi'r gorau i chwilio amdano.
I Sa WelBeibl 27:5  Gofynnodd Dafydd i Achish, “Plîs ga i fynd i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad? Ddylwn i, dy was, ddim bod yn byw yn ninas y brenin.”
I Sa WelBeibl 27:6  Felly dyma Achish yn rhoi tref Siclag i Dafydd y diwrnod hwnnw. (A dyna pam mae Siclag yn dal i berthyn i deyrnas Jwda hyd heddiw.)
I Sa WelBeibl 27:7  Buodd Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia am flwyddyn a phedwar mis.
I Sa WelBeibl 27:8  Byddai'n mynd allan gyda'i ddynion i ymosod ar y Geshwriaid, y Gisriaid a'r Amaleciaid. (Roedden nhw wedi bod yn byw yn yr ardal ers amser maith, o Shwr hyd at wlad yr Aifft.)
I Sa WelBeibl 27:9  Pan fyddai Dafydd yn ymosod ar ardal byddai'n lladd pawb, yn ddynion a merched. Wedyn byddai'n cymryd y defaid, gwartheg, asynnod, camelod a'r dillad, a mynd â nhw i Achish.
I Sa WelBeibl 27:10  Os byddai Achish yn gofyn, “Ble wnest ti ymosod y tro yma?”, byddai Dafydd yn ateb, “Negef Jwda,” neu “Negef Ierachmeël,” neu “Negef y Ceneaid.”
I Sa WelBeibl 27:11  Doedd e byth yn gadael neb yn fyw, dynion na merched, rhag ofn iddyn nhw ddod i Gath a dweud beth roedd e'n wneud go iawn. A dyma fuodd Dafydd yn ei wneud yr holl amser roedd yn aros yng nghefn gwlad Philistia.
I Sa WelBeibl 27:12  Roedd Achish yn trystio Dafydd ac yn meddwl, “Mae'n siŵr fod ei bobl yn Israel yn ei ffieiddio'n llwyr erbyn hyn! Bydd e'n was i mi am byth.”