Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CHRONICLES
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 33
II C WelBeibl 33:1  Un deg dau oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd.
II C WelBeibl 33:2  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
II C WelBeibl 33:3  Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu chwalu gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i dduwiau Baal, a pholion i'r dduwies Ashera. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw.
II C WelBeibl 33:4  Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Bydd fy enw yn Jerwsalem am byth.”
II C WelBeibl 33:5  Cododd allorau i'r sêr yn y ddwy iard yn y deml.
II C WelBeibl 33:6  Llosgodd ei fab yn aberth yn nyffryn Ben-hinnom, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth, darogan a swynion. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a phobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.
II C WelBeibl 33:7  Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o eilun-dduw a'i gosod yn y deml! – yn y lle roedd Duw wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdani, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth.
II C WelBeibl 33:8  Wna i ddim symud Israel allan o'r tir dw i wedi'i roi i'w hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith, y rheolau a'r canllawiau gafodd eu rhoi drwy Moses.”
II C WelBeibl 33:9  Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o flaen Israel!
II C WelBeibl 33:10  Roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Manasse a'i bobl, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw o gwbl.
II C WelBeibl 33:11  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw'n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a'i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e'n gaeth i Babilon.
II C WelBeibl 33:12  Yng nghanol y creisis dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid.
II C WelBeibl 33:13  Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais, a dod ag e'n ôl i fod yn frenin yn Jerwsalem. A dyna sut daeth Manasse i ddeall mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.
II C WelBeibl 33:14  Wedi hyn dyma Manasse yn ailadeiladu wal allanol Dinas Dafydd, o'r gorllewin i ddyffryn Gihon at Giât y Pysgod ac yna o gwmpas y terasau. Roedd hi'n wal uchel iawn. Gosododd swyddogion milwrol yn holl drefi amddiffynnol Jwda hefyd.
II C WelBeibl 33:15  Yna dyma fe'n cael gwared â'r duwiau paganaidd a'r ddelw honno o deml yr ARGLWYDD, a'r holl allorau roedd e wedi'u hadeiladu ar fryn y deml ac yn Jerwsalem. Taflodd nhw allan o'r ddinas,
II C WelBeibl 33:16  ac yna atgyweirio allor yr ARGLWYDD a chyflwyno arni offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n gorchymyn fod pobl Jwda i addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel.
II C WelBeibl 33:17  Roedd y bobl yn dal i aberthu ar yr allorau lleol, ond dim ond i'r ARGLWYDD eu Duw.
II C WelBeibl 33:18  Mae gweddill hanes Manasse, gan gynnwys ei weddi ar Dduw, a beth roedd y proffwydi wedi'i ddweud wrtho ar ran yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'w gweld yn Hanes Brenhinoedd Israel.
II C WelBeibl 33:19  Mae Negeseuon y Proffwydi hefyd yn cynnwys ei weddi a sut wnaeth Duw ymateb, cofnod o'i bechodau a'r holl bethau drwg wnaeth e, a lleoliad yr allorau lleol a pholion y dduwies Ashera a'r delwau cerrig gododd e cyn iddo gyfaddef ei fai.
II C WelBeibl 33:20  Pan fuodd Manasse farw cafodd ei gladdu yn ei balas. A dyma Amon ei fab yn dod yn frenin yn ei le.
II C WelBeibl 33:21  Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd.
II C WelBeibl 33:22  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse. Roedd yn aberthu i'r holl ddelwau cerrig roedd ei dad wedi'u gwneud, ac yn eu haddoli.
II C WelBeibl 33:23  A wnaeth Amon ddim troi yn ôl at yr ARGLWYDD fel ei dad. Gwnaeth fwy a mwy o bethau drwg.
II C WelBeibl 33:24  Yna dyma rai o'i swyddogion yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn ei balas.
II C WelBeibl 33:25  Ond wedyn dyma bobl y wlad yn dienyddio pawb oedd wedi bod yn rhan o'r cynllwyn yn erbyn Amon. A dyma nhw'n gwneud Joseia, ei fab, yn frenin yn ei le.