II TIMOTHY
Chapter 2
II T | WelBeibl | 2:2 | Dwed di wrth eraill beth glywaist ti fi'n ei ddweud o flaen llawer o dystion – rhanna'r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill. | |
II T | WelBeibl | 2:4 | Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy'n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio'i gapten. | |
II T | WelBeibl | 2:5 | Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau. | |
II T | WelBeibl | 2:7 | Meddylia am beth dw i'n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd. | |
II T | WelBeibl | 2:8 | Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi'i godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi. | |
II T | WelBeibl | 2:9 | A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw! | |
II T | WelBeibl | 2:10 | Felly dw i'n fodlon diodde'r cwbl er mwyn i'r bobl mae Duw wedi'u dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol. | |
II T | WelBeibl | 2:11 | Mae'r hyn sy'n cael ei ddweud mor wir!: Os buon ni farw gyda'r Meseia, byddwn ni hefyd yn byw gydag e; | |
II T | WelBeibl | 2:12 | os byddwn ni'n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni'n gwadu ein bod ni'n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni; | |
II T | WelBeibl | 2:13 | Os ydyn ni'n anffyddlon, bydd e'n siŵr o fod yn ffyddlon; oherwydd dydy e ddim yn gallu gwadu pwy ydy e. | |
II T | WelBeibl | 2:14 | Dal ati i atgoffa pobl o'r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae'n drysu'r bobl sy'n gwrando. | |
II T | WelBeibl | 2:15 | Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti – dy fod di'n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o'i waith. Bydd yn un sy'n esbonio'r gwir yn iawn. | |
II T | WelBeibl | 2:16 | Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw. | |
II T | WelBeibl | 2:17 | Mae'n rywbeth sy'n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus | |
II T | WelBeibl | 2:18 | – maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw'n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl! | |
II T | WelBeibl | 2:19 | Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll – mae fel carreg sylfaen gadarn, a'r geiriau hyn wedi'u cerfio arni: “Mae'r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy'n dweud eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.” | |
II T | WelBeibl | 2:20 | Mewn tŷ crand mae rhai llestri wedi'u gwneud o aur ac arian, a rhai eraill yn llestri o bren neu'n llestri pridd. Mae'r llestri aur ac arian yn cael eu defnyddio ar achlysuron arbennig, ond y lleill at ddefnydd pob dydd. | |
II T | WelBeibl | 2:21 | Os bydd rhywun yn cadw draw o'r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i'r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da. | |
II T | WelBeibl | 2:22 | Ond rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o'i gariad a'i heddwch. Dyma sut mae'r rhai sy'n cyffesu enw'r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn. | |
II T | WelBeibl | 2:23 | Paid gwastraffu dy amser gyda rhyw ddyfalu dwl. Dydy pethau felly'n gwneud dim ond achosi gwrthdaro. | |
II T | WelBeibl | 2:24 | Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb. Dylai allu dysgu pobl eraill, a pheidio byth â dal dig. | |
II T | WelBeibl | 2:25 | Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro'r rhai sy'n tynnu'n groes iddo. Wedi'r cwbl mae bob amser yn bosib y bydd Duw yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu'r gwir; | |