Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ROMANS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 6
Roma WelBeibl 6:1  Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Ei bod hi'n iawn i ni ddal ati i bechu er mwyn i Dduw ddangos mwy a mwy o haelioni?
Roma WelBeibl 6:2  Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i'r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd?
Roma WelBeibl 6:3  Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni'n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i'r Meseia Iesu, roedden ni'n uniaethu â'i farwolaeth e.
Roma WelBeibl 6:4  Wrth gael ein bedyddio, cawson ni'n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o'r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd.
Roma WelBeibl 6:5  Os ydyn ni wedi'n huno â'i farwolaeth, dŷn ni'n siŵr o gael ein huno hefyd â'i atgyfodiad.
Roma WelBeibl 6:6  Mae beth roedden ni'n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda'r Meseia, er mwyn i'r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy.
Roma WelBeibl 6:7  Os ydy rhywun wedi marw, mae'n rhydd o afael pechod.
Roma WelBeibl 6:8  Ond os ydyn ni wedi marw gyda'r Meseia dŷn ni'n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd!
Roma WelBeibl 6:9  Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi'i godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach.
Roma WelBeibl 6:10  Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e'n byw i glodfori Duw!
Roma WelBeibl 6:11  Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â'r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.
Roma WelBeibl 6:12  Peidiwch gadael i bechod reoli'ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i'w chwantau.
Roma WelBeibl 6:13  Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o'ch corff i'w ddefnyddio i wneud beth sy'n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a'ch defnyddio chi i wneud beth sy'n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd.
Roma WelBeibl 6:14  Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd!
Roma WelBeibl 6:15  Felly, ydyn ni'n mynd i ddal ati i bechu am ein bod wedi profi haelioni Duw ac mai nid y Gyfraith sy'n ein rheoli ni bellach? Na! Wrth gwrs ddim!
Roma WelBeibl 6:16  Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae'n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw.
Roma WelBeibl 6:17  Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi'i ddysgu i chi.
Roma WelBeibl 6:18  Dych chi wedi'ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy'n iawn.
Roma WelBeibl 6:19  Gadewch i mi ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd sy'n hawdd i chi ei ddeall: O'r blaen roeddech chi'n gadael i bob math o fudreddi a drygioni eich rheoli chi. Ond bellach rhaid i chi adael i beth sy'n iawn eich rheoli chi, a'ch gwneud chi'n bobl sy'n byw bywydau glân.
Roma WelBeibl 6:20  Pan oeddech chi'n gaeth i bechod, doedd dim disgwyl i chi wneud beth sy'n iawn.
Roma WelBeibl 6:21  Ond beth oedd canlyniad hynny yn y pen draw? Marwolaeth! Dyna oedd canlyniad y pethau mae gynnoch chi gymaint o gywilydd ohonyn nhw bellach.
Roma WelBeibl 6:22  Ond nawr dych chi'n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy'r bywyd glân sy'n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol.
Roma WelBeibl 6:23  Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.