ROMANS
Chapter 2
Roma | WelBeibl | 2:1 | Ond wedyn beth amdanat ti? – Ie, ti sydd mor barod i farnu pobl eraill a gosod dy ffon fesur arnyn nhw! Beth ydy dy esgus di? Y gwir ydy, rwyt ti'n gwneud yr un pethau! Felly wrth farnu pobl eraill rwyt ti'n dy gondemnio dy hun! | |
Roma | WelBeibl | 2:2 | Dŷn ni'n gwybod ei bod hi'n berffaith iawn i Dduw farnu pobl am wneud y fath bethau. | |
Roma | WelBeibl | 2:3 | Ond wyt ti felly'n meddwl y byddi di'n osgoi cael dy farnu? Ie, ti sydd mor barod i weld bai ar bobl eraill tra'n gwneud yn union yr un pethau dy hun! | |
Roma | WelBeibl | 2:4 | Neu wyt ti'n cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar? Wyt ti ddim yn gweld fod Duw drwy fod yn garedig atat ti eisiau dy arwain di i newid dy ffyrdd? | |
Roma | WelBeibl | 2:5 | Ond na, rwyt ti'n rhy ystyfnig! Felly rwyt ti'n storio mwy a mwy o gosb i ti dy hun ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw'n barnu. A bydd Duw'n barnu'n hollol deg. | |
Roma | WelBeibl | 2:7 | Bydd y rhai sydd eisiau derbyn ysblander, anrhydedd ac anfarwoldeb gan Dduw – sef y rhai sy'n dal ati i wneud daioni – yn cael bywyd tragwyddol. | |
Roma | WelBeibl | 2:8 | Ond y rhai hynny sydd ddim ond yn meddwl amdanyn nhw eu hunain, ac sy'n gwrthod y gwir ac yn gwneud pethau drwg – fydd dim byd ond dicter Duw a chosb yn eu disgwyl nhw. | |
Roma | WelBeibl | 2:10 | ond ysblander, anrhydedd a heddwch dwfn fydd i'r rhai sy'n gwneud daioni – i'r Iddew ac i bawb arall. | |
Roma | WelBeibl | 2:12 | Bydd pobl sydd ddim yn Iddewon, a ddim yn gwybod am Gyfraith Duw, yn mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi pechu. A bydd Iddewon, sef y bobl mae'r Gyfraith ganddyn nhw, yn cael eu cosbi am bechu hefyd – am dorri'r Gyfraith honno. | |
Roma | WelBeibl | 2:13 | Wedi'r cwbl, dydy clywed y Gyfraith ddim yn gwneud eich perthynas chi hefo Duw yn iawn; gwneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ddweud sy'n cyfri. | |
Roma | WelBeibl | 2:14 | (Yn wir, mae pobl sydd ddim yn Iddewon yn gallu gwneud yn naturiol beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn – er eu bod nhw ddim yn gwybod am y Gyfraith. Maen nhw'n dangos eu bod yn gwybod beth sy'n iawn a beth sydd ddim er bod y Gyfraith ddim ganddyn nhw. | |
Roma | WelBeibl | 2:15 | Maen nhw'n dangos fod gofynion Cyfraith Duw wedi'u hysgrifennu ar eu calonnau nhw. Mae eu cydwybod nhw naill ai'n eu cyhuddo nhw neu'n dweud wrthyn nhw eu bod yn gwneud y peth iawn.) | |
Roma | WelBeibl | 2:16 | Yn ôl y newyddion da dw i'n ei gyhoeddi dyna fydd yn cyfri ar y diwrnod pan fydd Duw yn cael y Meseia Iesu i farnu cyfrinachau pawb. | |
Roma | WelBeibl | 2:17 | Felly ble mae hynny'n dy adael di sy'n galw dy hun yn Iddew? Rwyt ti'n brolio fod gen ti berthynas â Duw am fod gen ti'r Gyfraith. | |
Roma | WelBeibl | 2:18 | Rwyt ti'n honni dy fod ti'n gwybod beth mae Duw eisiau. Rwyt ti'n gallu dewis beth sydd orau i'w wneud (am dy fod wedi cael dy ddysgu yn y Gyfraith). | |
Roma | WelBeibl | 2:19 | Rwyt ti'n gweld dy hun fel rhywun sy'n gallu dangos y ffordd i bobl eraill, a rhoi golau i bobl sydd ar goll yn y tywyllwch. | |
Roma | WelBeibl | 2:20 | Rwyt ti'n meddwl dy fod ti'n gallu dysgu am Dduw i bobl sydd ddim yn gwybod amdano, ac i dy blant. Mae'r Gyfraith gen ti! Mae gen ti bopeth sydd angen ei wybod - y gwir i gyd! … | |
Roma | WelBeibl | 2:21 | Rwyt ti'n dysgu pobl eraill, wyt ti? Felly, pam wyt ti ddim wedi dy ddysgu dy hun? Ti'n dweud wrth rywun arall “Paid dwyn,” ond yn dwyn dy hun! | |
Roma | WelBeibl | 2:22 | Ti'n dweud “Paid godinebu”, ond rwyt ti dy hun yn godinebu! Ti'n ffieiddio eilun-dduwiau, ond rwyt ti dy hun yn halogi'r cysegr! | |
Roma | WelBeibl | 2:23 | Mae'n ddigon hawdd brolio dy fod yn gwybod beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond drwy dorri'r Gyfraith honno rwyt ti dy hun yn amharchu Duw. | |
Roma | WelBeibl | 2:24 | Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “mae pobl y cenhedloedd yn dweud pethau drwg am Dduw o'ch achos chi.” | |
Roma | WelBeibl | 2:25 | Byddai'r ddefod o enwaediad yn golygu rhywbeth taset ti'n gwneud popeth mae'r Gyfraith yn ei ofyn. Ond os wyt ti'n torri'r Gyfraith does gen ti ddim mantais – waeth i ti fod heb dy enwaedu ddim! | |
Roma | WelBeibl | 2:26 | Ond os oes rhywun sydd ddim yn Iddew, a heb ei enwaedu, yn gwneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn, oni fydd Duw yn ei dderbyn e yn union fel petai wedi cael ei enwaedu? | |
Roma | WelBeibl | 2:27 | Bydd y dyn sydd heb fod drwy'r ddefod o gael ei enwaedu (ond sy'n gwneud beth mae'r Gyfraith yn ei ofyn) yn dy gondemnio di sydd wedi ‛cadw at lythyren y ddeddf‛ drwy gael dy enwaedu yn gorfforol, ac eto'n dal i dorri'r Gyfraith! | |
Roma | WelBeibl | 2:28 | Dydy'r pethau allanol ddim yn dy wneud di'n Iddew go iawn. A dydy'r ddefod gorfforol ddim yr un peth ag enwaediad go iawn. | |