Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ROMANS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Prev Up Next
Chapter 11
Roma WelBeibl 11:1  Felly dw i'n gofyn eto: Ydy Duw wedi troi cefn ar ei bobl? Nac ydy, wrth gwrs ddim! Israeliad ydw i fy hun cofiwch – un o blant Abraham, o lwyth Benjamin.
Roma WelBeibl 11:2  Felly dydy Duw ddim wedi troi ei gefn ar y bobl oedd wedi'u dewis o'r dechrau. Ydych chi'n cofio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud? Roedd Elias yn cwyno am bobl Israel, ac yn dweud fel hyn:
Roma WelBeibl 11:3  “Arglwydd, maen nhw wedi lladd dy broffwydi di a dinistrio dy allorau. Fi ydy'r unig un sydd ar ôl, ac maen nhw'n ceisio fy lladd innau hefyd!”
Roma WelBeibl 11:4  Beth oedd ateb Duw iddo? Dyma ddwedodd Duw: “Mae gen i saith mil o bobl eraill sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal.”
Roma WelBeibl 11:5  Ac mae'r un peth yn wir heddiw – mae Duw yn ei haelioni wedi dewis cnewyllyn o Iddewon i gael eu hachub.
Roma WelBeibl 11:6  Ac os mai dim ond haelioni Duw sy'n eu hachub nhw, dim beth maen nhw yn ei wneud sy'n cyfri bellach. Petai hynny'n cyfri fyddai Duw ddim yn hael!
Roma WelBeibl 11:7  Dyma beth mae hyn yn ei olygu: Wnaeth pawb yn Israel ddim cael gafael yn beth roedden nhw'n ei geisio mor daer. Ond mae rhai wedi'i gael, sef y rhai mae Duw wedi'u dewis. Mae'r lleill wedi troi'n ystyfnig.
Roma WelBeibl 11:8  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Gwnaeth Duw nhw'n gysglyd, a rhoi iddyn nhw lygaid sy'n methu gweld a chlustiau sydd ddim yn clywed – ac maen nhw'n dal felly heddiw.”
Roma WelBeibl 11:9  A dwedodd y Brenin Dafydd fel hyn: “Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl ac yn rhwyd, yn drap ac yn gosb iddyn nhw;
Roma WelBeibl 11:10  gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall, a'u cefnau wedi'u crymu am byth dan y pwysau.”
Roma WelBeibl 11:11  Felly ydw i'n dweud fod yr Iddewon wedi baglu a syrthio, a byth yn mynd i godi eto? Wrth gwrs ddim! Mae'r ffaith eu bod nhw wedi llithro yn golygu fod pobl o genhedloedd eraill yn cael eu hachub. Ac mae hynny yn ei dro yn gwneud yr Iddewon yn eiddigeddus.
Roma WelBeibl 11:12  Ac os ydy eu colled nhw am eu bod wedi llithro yn cyfoethogi'r byd, a'u methiant nhw wedi helpu pobl o genhedloedd eraill, meddyliwch gymaint mwy fydd y fendith pan fyddan nhw'n dod i gredu!
Roma WelBeibl 11:13  Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n ei chyfri hi'n fraint fod Duw wedi fy ngalw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, i rannu ei neges gyda chi.
Roma WelBeibl 11:14  Ond dw i eisiau gwneud fy mhobl fy hun yn eiddigeddus ohonoch chi, er mwyn i rai ohonyn nhw hefyd gael eu hachub.
Roma WelBeibl 11:15  Os ydy eu taflu nhw i ffwrdd wedi golygu fod pobl o weddill y byd yn dod i berthynas iawn â Duw, beth fydd canlyniad eu derbyn nhw yn ôl? Bydd fel petai'r meirw'n dod yn ôl yn fyw!
Roma WelBeibl 11:16  Os ydy'r offrwm cyntaf o does wedi'i gysegru i Dduw, mae'r cwbl yn gysegredig. Os ydy gwreiddiau'r goeden yn sanctaidd, bydd y canghennau felly hefyd.
Roma WelBeibl 11:17  Mae rhai o'r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau'n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu'r maeth sy'n dod o wreiddiau'r olewydden.
Roma WelBeibl 11:18  Ond paid meddwl dy fod ti'n wahanol i'r canghennau gafodd eu llifio i ffwrdd! Cofia mai dim ti sy'n cynnal y gwreiddiau – y gwreiddiau sy'n dy gynnal di!
Roma WelBeibl 11:19  “Ond cafodd y canghennau hynny eu llifio i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn,” meddet ti.
Roma WelBeibl 11:20  Digon gwir: Cawson nhw eu llifio i ffwrdd am beidio credu, a chest ti dy osod yn eu lle dim ond am dy fod di wedi credu. Ond paid dechrau swancio; gwylia di!
Roma WelBeibl 11:21  Os wnaeth Duw ddim arbed y canghennau naturiol, wnaiff e ddim dy arbed dithau chwaith!
Roma WelBeibl 11:22  Sylwa fod Duw yn gallu bod yn garedig ac yn llym. Mae'n llym gyda'r rhai sy'n anufudd, ond yn garedig atat ti – dim ond i ti ddal ati i drystio yn ei garedigrwydd. Neu, fel arall, cei dithau hefyd dy lifio i ffwrdd!
Roma WelBeibl 11:23  A'r un fath gyda'r Iddewon – tasen nhw'n stopio gwrthod credu, byddai Duw yn eu himpio nhw yn ôl i'r goeden.
Roma WelBeibl 11:24  Os gwnaeth dy dorri di i ffwrdd oddi ar olewydden wyllt a'th impio yn groes i natur ar olewydden gardd, mae'n ddigon hawdd iddo impio'r canghennau naturiol yn ôl i'w holewydden eu hunain!
Roma WelBeibl 11:25  Frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod dirgelwch yma, rhag i chi fod yn rhy llawn ohonoch chi'ch hunain. Mae rhai o'r Iddewon wedi troi'n ystyfnig, a byddan nhw'n aros felly hyd nes y bydd y nifer cyflawn ohonoch chi sy'n perthyn i genhedloedd eraill wedi dod i mewn.
Roma WelBeibl 11:26  Yna bydd Israel gyfan yn cael ei hachub, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd Achubwr yn dod o Jerwsalem, ac yn symud annuwioldeb o Jacob.
Roma WelBeibl 11:27  Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, pan fydda i'n symud eu pechodau i ffwrdd.”
Roma WelBeibl 11:28  Ar hyn o bryd mae llawer o'r Iddewon yn elynion y newyddion da, er eich mwyn chi. Ond cofiwch mai nhw oedd y bobl ddewisodd Duw, ac mae e'n eu caru nhw. Roedd wedi addo i'r tadau y byddai'n gwneud hynny! – i Abraham, Isaac a Jacob.
Roma WelBeibl 11:29  Dydy Duw ddim yn cymryd ei roddion yn ôl nac yn canslo ei alwad.
Roma WelBeibl 11:30  Ar un adeg roeddech chi, bobl o genhedloedd eraill, yn anufudd i Dduw. Ond am fod yr Iddewon wedi bod yn anufudd, dych chi nawr wedi derbyn trugaredd.
Roma WelBeibl 11:31  Nhw ydy'r rhai sy'n anufudd bellach. Ond os ydy Duw wedi dangos trugaredd atoch chi, pam allan nhw hefyd ddim derbyn trugaredd?
Roma WelBeibl 11:32  Y gwir ydy, mae Duw wedi dal pawb yn garcharorion anufudd-dod, er mwyn iddo allu dangos trugaredd atyn nhw i gyd.
Roma WelBeibl 11:33  Mae Duw mor ffantastig! Mae e mor aruthrol ddoeth! Mae'n deall popeth! Mae beth mae e'n ei benderfynu y tu hwnt i'n hamgyffred ni, a beth mae'n ei wneud y tu hwnt i'n deall ni!
Roma WelBeibl 11:34  Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sydd wedi dod i wybod digon i roi cyngor iddo?
Roma WelBeibl 11:35  Pwy sydd wedi rhoi cymaint i Dduw nes bod Duw â dyled i'w thalu iddo?
Roma WelBeibl 11:36  Na, Duw sydd wedi rhoi popeth i ni! Fe sy'n cynnal y cwbl, ac mae'r cwbl yn bodoli er ei fwyn e! Fe ydy'r unig un sy'n haeddu ei foli am byth! Amen!