ROMANS
Chapter 11
Roma | WelBeibl | 11:1 | Felly dw i'n gofyn eto: Ydy Duw wedi troi cefn ar ei bobl? Nac ydy, wrth gwrs ddim! Israeliad ydw i fy hun cofiwch – un o blant Abraham, o lwyth Benjamin. | |
Roma | WelBeibl | 11:2 | Felly dydy Duw ddim wedi troi ei gefn ar y bobl oedd wedi'u dewis o'r dechrau. Ydych chi'n cofio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud? Roedd Elias yn cwyno am bobl Israel, ac yn dweud fel hyn: | |
Roma | WelBeibl | 11:3 | “Arglwydd, maen nhw wedi lladd dy broffwydi di a dinistrio dy allorau. Fi ydy'r unig un sydd ar ôl, ac maen nhw'n ceisio fy lladd innau hefyd!” | |
Roma | WelBeibl | 11:4 | Beth oedd ateb Duw iddo? Dyma ddwedodd Duw: “Mae gen i saith mil o bobl eraill sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal.” | |
Roma | WelBeibl | 11:5 | Ac mae'r un peth yn wir heddiw – mae Duw yn ei haelioni wedi dewis cnewyllyn o Iddewon i gael eu hachub. | |
Roma | WelBeibl | 11:6 | Ac os mai dim ond haelioni Duw sy'n eu hachub nhw, dim beth maen nhw yn ei wneud sy'n cyfri bellach. Petai hynny'n cyfri fyddai Duw ddim yn hael! | |
Roma | WelBeibl | 11:7 | Dyma beth mae hyn yn ei olygu: Wnaeth pawb yn Israel ddim cael gafael yn beth roedden nhw'n ei geisio mor daer. Ond mae rhai wedi'i gael, sef y rhai mae Duw wedi'u dewis. Mae'r lleill wedi troi'n ystyfnig. | |
Roma | WelBeibl | 11:8 | Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Gwnaeth Duw nhw'n gysglyd, a rhoi iddyn nhw lygaid sy'n methu gweld a chlustiau sydd ddim yn clywed – ac maen nhw'n dal felly heddiw.” | |
Roma | WelBeibl | 11:9 | A dwedodd y Brenin Dafydd fel hyn: “Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl ac yn rhwyd, yn drap ac yn gosb iddyn nhw; | |
Roma | WelBeibl | 11:10 | gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall, a'u cefnau wedi'u crymu am byth dan y pwysau.” | |
Roma | WelBeibl | 11:11 | Felly ydw i'n dweud fod yr Iddewon wedi baglu a syrthio, a byth yn mynd i godi eto? Wrth gwrs ddim! Mae'r ffaith eu bod nhw wedi llithro yn golygu fod pobl o genhedloedd eraill yn cael eu hachub. Ac mae hynny yn ei dro yn gwneud yr Iddewon yn eiddigeddus. | |
Roma | WelBeibl | 11:12 | Ac os ydy eu colled nhw am eu bod wedi llithro yn cyfoethogi'r byd, a'u methiant nhw wedi helpu pobl o genhedloedd eraill, meddyliwch gymaint mwy fydd y fendith pan fyddan nhw'n dod i gredu! | |
Roma | WelBeibl | 11:13 | Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n ei chyfri hi'n fraint fod Duw wedi fy ngalw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, i rannu ei neges gyda chi. | |
Roma | WelBeibl | 11:14 | Ond dw i eisiau gwneud fy mhobl fy hun yn eiddigeddus ohonoch chi, er mwyn i rai ohonyn nhw hefyd gael eu hachub. | |
Roma | WelBeibl | 11:15 | Os ydy eu taflu nhw i ffwrdd wedi golygu fod pobl o weddill y byd yn dod i berthynas iawn â Duw, beth fydd canlyniad eu derbyn nhw yn ôl? Bydd fel petai'r meirw'n dod yn ôl yn fyw! | |
Roma | WelBeibl | 11:16 | Os ydy'r offrwm cyntaf o does wedi'i gysegru i Dduw, mae'r cwbl yn gysegredig. Os ydy gwreiddiau'r goeden yn sanctaidd, bydd y canghennau felly hefyd. | |
Roma | WelBeibl | 11:17 | Mae rhai o'r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau'n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu'r maeth sy'n dod o wreiddiau'r olewydden. | |
Roma | WelBeibl | 11:18 | Ond paid meddwl dy fod ti'n wahanol i'r canghennau gafodd eu llifio i ffwrdd! Cofia mai dim ti sy'n cynnal y gwreiddiau – y gwreiddiau sy'n dy gynnal di! | |
Roma | WelBeibl | 11:19 | “Ond cafodd y canghennau hynny eu llifio i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn,” meddet ti. | |
Roma | WelBeibl | 11:20 | Digon gwir: Cawson nhw eu llifio i ffwrdd am beidio credu, a chest ti dy osod yn eu lle dim ond am dy fod di wedi credu. Ond paid dechrau swancio; gwylia di! | |
Roma | WelBeibl | 11:21 | Os wnaeth Duw ddim arbed y canghennau naturiol, wnaiff e ddim dy arbed dithau chwaith! | |
Roma | WelBeibl | 11:22 | Sylwa fod Duw yn gallu bod yn garedig ac yn llym. Mae'n llym gyda'r rhai sy'n anufudd, ond yn garedig atat ti – dim ond i ti ddal ati i drystio yn ei garedigrwydd. Neu, fel arall, cei dithau hefyd dy lifio i ffwrdd! | |
Roma | WelBeibl | 11:23 | A'r un fath gyda'r Iddewon – tasen nhw'n stopio gwrthod credu, byddai Duw yn eu himpio nhw yn ôl i'r goeden. | |
Roma | WelBeibl | 11:24 | Os gwnaeth dy dorri di i ffwrdd oddi ar olewydden wyllt a'th impio yn groes i natur ar olewydden gardd, mae'n ddigon hawdd iddo impio'r canghennau naturiol yn ôl i'w holewydden eu hunain! | |
Roma | WelBeibl | 11:25 | Frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod dirgelwch yma, rhag i chi fod yn rhy llawn ohonoch chi'ch hunain. Mae rhai o'r Iddewon wedi troi'n ystyfnig, a byddan nhw'n aros felly hyd nes y bydd y nifer cyflawn ohonoch chi sy'n perthyn i genhedloedd eraill wedi dod i mewn. | |
Roma | WelBeibl | 11:26 | Yna bydd Israel gyfan yn cael ei hachub, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd Achubwr yn dod o Jerwsalem, ac yn symud annuwioldeb o Jacob. | |
Roma | WelBeibl | 11:28 | Ar hyn o bryd mae llawer o'r Iddewon yn elynion y newyddion da, er eich mwyn chi. Ond cofiwch mai nhw oedd y bobl ddewisodd Duw, ac mae e'n eu caru nhw. Roedd wedi addo i'r tadau y byddai'n gwneud hynny! – i Abraham, Isaac a Jacob. | |
Roma | WelBeibl | 11:30 | Ar un adeg roeddech chi, bobl o genhedloedd eraill, yn anufudd i Dduw. Ond am fod yr Iddewon wedi bod yn anufudd, dych chi nawr wedi derbyn trugaredd. | |
Roma | WelBeibl | 11:31 | Nhw ydy'r rhai sy'n anufudd bellach. Ond os ydy Duw wedi dangos trugaredd atoch chi, pam allan nhw hefyd ddim derbyn trugaredd? | |
Roma | WelBeibl | 11:32 | Y gwir ydy, mae Duw wedi dal pawb yn garcharorion anufudd-dod, er mwyn iddo allu dangos trugaredd atyn nhw i gyd. | |
Roma | WelBeibl | 11:33 | Mae Duw mor ffantastig! Mae e mor aruthrol ddoeth! Mae'n deall popeth! Mae beth mae e'n ei benderfynu y tu hwnt i'n hamgyffred ni, a beth mae'n ei wneud y tu hwnt i'n deall ni! | |
Roma | WelBeibl | 11:34 | Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sydd wedi dod i wybod digon i roi cyngor iddo? | |