ROMANS
Chapter 4
Roma | WelBeibl | 4:1 | Ond beth am Abraham felly – tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i'w ddysgu i ni am hyn i gyd? | |
Roma | WelBeibl | 4:2 | Os cafodd Abraham ei dderbyn gan Dduw am beth wnaeth e, roedd ganddo le i frolio. Ond dim felly oedd hi o safbwynt Duw. | |
Roma | WelBeibl | 4:3 | Dyma mae'r ysgrifau'n ei ddweud amdano: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” | |
Roma | WelBeibl | 4:4 | Pan mae rhywun yn gweithio mae'n ystyried ei gyflog fel rhywbeth mae'n ei haeddu, dim fel rhodd. | |
Roma | WelBeibl | 4:5 | Ond wrth gredu bod Duw yn derbyn pobl annuwiol i berthynas iawn ag e'i hun, dydy rhywun ddim yn dibynnu ar beth mae e'i hun wedi'i wneud. Mae'r “berthynas iawn gyda Duw” yn cael ei roi iddo fel rhodd. | |
Roma | WelBeibl | 4:6 | Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae'n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy'n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny): | |
Roma | WelBeibl | 4:7 | “Mae'r rhai sydd wedi cael maddeuant am y pethau drwg wnaethon nhw wedi'u bendithio'n fawr! y rhai sydd â'u pechodau wedi'u symud o'r golwg am byth. | |
Roma | WelBeibl | 4:8 | Mae'r rhai dydy'r Arglwydd ddim yn dal ati i gyfri eu pechod yn eu herbyn wedi'u bendithio'n fawr!” | |
Roma | WelBeibl | 4:9 | Ai dim ond Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) sy'n cael profi'r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛)? Gadewch i ni droi'n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai drwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw. | |
Roma | WelBeibl | 4:10 | Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd drwy'r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu! | |
Roma | WelBeibl | 4:11 | Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu – a hynny fel arwydd o'r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi'i dderbyn i berthynas iawn ag e'i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy'n credu ond ddim wedi bod drwy'r ddefod o gael eu henwaedu. | |
Roma | WelBeibl | 4:12 | Ond mae hefyd yn dad i'r rhai sy'n credu ac wedi cael eu henwaedu – dim am eu bod nhw wedi bod drwy'r ddefod ond am eu bod wedi credu, yr un fath ag Abraham. | |
Roma | WelBeibl | 4:13 | Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu'r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu sy'n dod â'r addewid yn wir, dim gwneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. | |
Roma | WelBeibl | 4:14 | Os mai'r etifeddion ydy'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn am eu bod nhw'n ufudd i'r Gyfraith Iddewig, dydy credu yn dda i ddim – yn wir does dim pwynt i Dduw addo dim byd yn y lle cyntaf! | |
Roma | WelBeibl | 4:15 | Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud ydy dangos ein bod ni'n haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Os does dim cyfraith does dim trosedd. | |
Roma | WelBeibl | 4:16 | Felly credu ydy'r ffordd i dderbyn beth mae Duw wedi'i addo! Rhodd Duw ydy'r cwbl! Ac mae disgynyddion Abraham i gyd yn ei dderbyn. Nid dim ond Iddewon sydd â'r Gyfraith ganddyn nhw, ond pawb sydd wedi credu, yr un fath ag Abraham. Ydy, mae Abraham yn dad i ni i gyd! | |
Roma | WelBeibl | 4:17 | Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn hollol glir: “Dw i wedi dy wneud di'n dad i lawer o genhedloedd.” Dyna sut mae'r Duw y credodd Abraham ynddo yn gweld pethau. Fe ydy'r Duw sy'n gwneud pobl farw yn fyw ac yn galw i fod bethau oedd ddim yn bodoli o gwbl o'r blaen! | |
Roma | WelBeibl | 4:18 | Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu hyd yn oed pan oedd pethau'n edrych yn gwbl anobeithiol! Credodd y byddai yn “dad i lawer o genhedloedd.” Credodd beth ddwedodd Duw, “Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.” | |
Roma | WelBeibl | 4:19 | Daliodd ati i gredu'n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam. | |
Roma | WelBeibl | 4:20 | Ond wnaeth Abraham ddim amau, na stopio credu beth oedd Duw wedi'i addo iddo. Yn wir roedd yn credu'n gryfach bob dydd, ac yn clodfori Duw drwy wneud hynny. | |
Roma | WelBeibl | 4:24 | maen nhw ar ein cyfer ninnau hefyd! Gallwn ni gael perthynas iawn gyda Duw yr un fath – ni sy'n credu yn y Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. | |