Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ROMANS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 1
Roma WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul – gwas y Meseia Iesu. Dw i wedi cael fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, ac wedi cael fy anfon allan i rannu newyddion da Duw.
Roma WelBeibl 1:2  Dyma'r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da
Roma WelBeibl 1:3  am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd,
Roma WelBeibl 1:4  ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
Roma WelBeibl 1:5  Mae Duw wedi rhoi i ni y fraint a'r cyfrifoldeb o'i gynrychioli, ac o alw pobl o bob gwlad i gredu ynddo ac i fyw'n ufudd iddo.
Roma WelBeibl 1:6  A dych chi'n rhai o'r bobl hynny – wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia.
Roma WelBeibl 1:7  Dw i'n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi'ch caru gan Dduw a'ch gwneud yn bobl arbennig iddo. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Roma WelBeibl 1:8  Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i'n diolch i Dduw drwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy'r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi.
Roma WelBeibl 1:9  Dw i wrthi'n gweithio fy ngorau glas dros Dduw drwy gyhoeddi'r newyddion da am ei Fab, ac mae e'n gwybod mod i'n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd.
Roma WelBeibl 1:10  Dw i'n gweddïo y bydd e'n ei gwneud hi'n bosib i mi ddod atoch chi o'r diwedd.
Roma WelBeibl 1:11  Dw i wir yn hiraethu am gael dod i'ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi'n gryf.
Roma WelBeibl 1:12  Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau.
Roma WelBeibl 1:13  Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod atoch lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.
Roma WelBeibl 1:14  Mae'n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i'w thalu! Dim ots os ydyn nhw'n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu'n farbariaid cwbl ddi-addysg.
Roma WelBeibl 1:15  A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi'r newyddion da.
Roma WelBeibl 1:16  Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd.
Roma WelBeibl 1:17  Dyma'r newyddion da sy'n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e'n ffyddlon. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Drwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”
Roma WelBeibl 1:18  Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi'r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw'n mygu'r gwirionedd gyda'u drygioni.
Roma WelBeibl 1:19  Mae beth sydd i'w wybod am Dduw yn amlwg – mae Duw wedi'i wneud yn ddigon clir i bawb.
Roma WelBeibl 1:20  Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae'r holl bethau mae wedi'u creu yn dangos yn glir mai fe ydy'r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!
Roma WelBeibl 1:21  Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw'n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch.
Roma WelBeibl 1:22  Ydyn, maen nhw'n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn!
Roma WelBeibl 1:23  Yn lle addoli'r Duw bendigedig sy'n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi'u cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw – pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid.
Roma WelBeibl 1:24  Felly mae Duw wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. Maen nhw wedi dewis gwneud pob math o bethau mochaidd, ac amharchu eu cyrff gyda'i gilydd.
Roma WelBeibl 1:25  Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy'n wir am Dduw! Maen nhw'n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli'r Crëwr ei hun! – yr Un sy'n haeddu ei foli am byth! Amen!
Roma WelBeibl 1:26  Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy'n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn;
Roma WelBeibl 1:27  a dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw'n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu'r gosb maen nhw'n ei haeddu.
Roma WelBeibl 1:28  Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy'n wir am Dduw, mae e wedi gadael iddyn nhw ddilyn eu syniadau pwdr. Maen nhw'n gwneud popeth o'i le –
Roma WelBeibl 1:29  ymddwyn yn anghyfiawn, gwneud pethau drwg, bod yn farus a hunanol, bod yn faleisus, cenfigennu, llofruddio, cecru, twyllo, bod yn sbeitlyd a hel straeon am bobl eraill.
Roma WelBeibl 1:30  Maen nhw'n enllibio pobl, yn casáu Duw, yn haerllug, yn snobyddlyd a hunanbwysig, ac yn meddwl o hyd am ryw ffordd newydd i bechu. Does ganddyn nhw ddim parch at eu rhieni,
Roma WelBeibl 1:31  dydyn nhw'n deall dim, maen nhw'n torri eu gair, yn ddiserch ac yn dangos dim trugaredd.
Roma WelBeibl 1:32  Maen nhw'n gwybod yn iawn fod Duw wedi dweud fod pawb sy'n gwneud y pethau yma yn haeddu marw. Ond maen nhw'n dal ati er hynny, ac yn waeth fyth yn annog pobl eraill i wneud yr un fath â nhw!