ROMANS
Chapter 16
Roma | WelBeibl | 16:1 | Dim ond pethau da sydd gen i i'w dweud am Phebe, ein chwaer sy'n gwasanaethu yn eglwys Cenchrea. | |
Roma | WelBeibl | 16:2 | Rhowch groeso brwd iddi – y math o groeso mae unrhyw un sy'n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi. | |
Roma | WelBeibl | 16:4 | Dau wnaeth fentro'u bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy'r unig un sy'n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi'r cenhedloedd hefyd! | |
Roma | WelBeibl | 16:5 | Cofion hefyd at yr eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw. Cofiwch fi at fy ffrind annwyl Epainetws – y person cyntaf yn Asia i ddod yn Gristion. | |
Roma | WelBeibl | 16:7 | Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Maen nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd – roedden nhw'n credu yn y Meseia o'm blaen i. | |
Roma | WelBeibl | 16:9 | Cofion hefyd at Wrbanus, sy'n gweithio gyda ni dros y Meseia, ac at fy ffrind annwyl Stachus. | |
Roma | WelBeibl | 16:10 | Cofiwch fi at Apeles, sydd wedi profi ei hun yn ffyddlon i'r Meseia. Cofion at bawb sy'n gwasanaethu yn nhŷ Aristobwlus. | |
Roma | WelBeibl | 16:11 | Cofiwch fi at Herodion sydd yntau'n Iddew, ac at y Cristnogion hynny sy'n gwasanaethu yn nhŷ Narcisws. | |
Roma | WelBeibl | 16:12 | Cofiwch fi at Tryffena a Tryffosa, dwy wraig sy'n gweithio'n galed dros yr Arglwydd. A chofiwch fi hefyd at Persis annwyl – gwraig arall sydd wedi bod yn gweithio'n arbennig o galed dros yr Arglwydd. | |
Roma | WelBeibl | 16:13 | Cofion at Rwffus, gwas arbennig i'r Arglwydd, ac at ei fam sydd wedi bod fel mam i minnau hefyd. | |
Roma | WelBeibl | 16:14 | A chofiwch fi at Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermes a'r brodyr a'r chwiorydd eraill gyda nhw. | |
Roma | WelBeibl | 16:15 | Cofion at Philologws a Jwlia, Nerews a'i chwaer, ac Olympas a phob un o'r credinwyr eraill sydd gyda nhw. | |
Roma | WelBeibl | 16:16 | Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae eglwysi'r Meseia i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi. | |
Roma | WelBeibl | 16:17 | Dw i'n apelio atoch chi frodyr a chwiorydd, i wylio'r bobl hynny sy'n creu rhaniadau ac yn ceisio'ch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw. | |
Roma | WelBeibl | 16:18 | Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu'r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw'n twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith. | |
Roma | WelBeibl | 16:19 | Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi'n ufudd i'r Arglwydd, a dw i'n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg. | |
Roma | WelBeibl | 16:20 | A bydd Duw, sy'n rhoi'r heddwch dwfn, yn eich galluogi i ddryllio Satan dan eich traed yn fuan. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu. | |
Roma | WelBeibl | 16:21 | Mae Timotheus, sy'n gweithio gyda mi yn anfon ei gyfarchion atoch chi; hefyd Lwcius, Jason a Sosipater, fy nghyd-Iddewon. | |
Roma | WelBeibl | 16:22 | (A finnau, Tertiws, sydd wedi rhoi'r llythyr yma ar bapur. Dw i'n eich cyfarch chi yn yr Arglwydd hefyd.) | |
Roma | WelBeibl | 16:23 | Mae Gaius yn anfon ei gyfarchion (yn ei gartref e dw i'n aros), ac mae'r eglwys sy'n cyfarfod yma yn anfon eu cyfarchion hefyd. Cyfarchion hefyd oddi wrth Erastus, trysorydd cyngor y ddinas, a hefyd oddi wrth y brawd Cwartus. | |
Roma | WelBeibl | 16:25 | Clod i Dduw, sy'n gallu'ch gwneud chi'n gryf drwy'r newyddion da sydd gen i – sef y neges sy'n cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Mae'r cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd, | |
Roma | WelBeibl | 16:26 | ond bellach mae wedi'i ddwyn i'r golwg. Fel mae'r ysgrifau proffwydol yn dweud, y rhai gafodd eu hysgrifennu drwy orchymyn y Duw tragwyddol – mae pobl o bob cenedl yn cael eu galw i gredu ynddo a byw'n ufudd iddo. | |