Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
AMOS
1 2 3 4 5 6 7 8 9
Prev Up Next
Chapter 5
Amos WelBeibl 5:1  Gwrandwch arna i'n galaru! Dw i'n canu cân angladdol er cof amdanat ti, wlad Israel:
Amos WelBeibl 5:2  “Mae Israel fel merch ifanc wedi'i tharo i lawr, mae hi'n gorwedd ar bridd ei gwlad a does neb i'w chodi ar ei thraed.”
Amos WelBeibl 5:3  Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel: “Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre anfonodd fil allan i'r fyddin, a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre anfonodd gant i'r fyddin.”
Amos WelBeibl 5:4  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel: “Tro yn ôl ata i, a chei fyw!
Amos WelBeibl 5:5  Paid troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel, mynd i ymweld â chysegr Gilgal na chroesi'r ffin a mynd i lawr i Beersheba. Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo, a fydd Bethel ddim mwy na rhith!”
Amos WelBeibl 5:6  Tro yn ôl at yr ARGLWYDD, a chei fyw! Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân ac yn llosgi Bethel yn ulw; a fydd neb yn gallu diffodd y tân.
Amos WelBeibl 5:7  Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw, ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir!
Amos WelBeibl 5:8  Duw ydy'r un wnaeth y sêr – Pleiades ac Orïon. Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore, ac yn troi'r dydd yn nos dywyll. Mae e'n cymryd dŵr o'r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir —yr ARGLWYDD ydy ei enw e!
Amos WelBeibl 5:9  Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel, nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion!
Amos WelBeibl 5:10  Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys; ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.
Amos WelBeibl 5:11  Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw: Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd, gewch chi ddim byw ynddyn nhw. Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd, gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
Amos WelBeibl 5:12  Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml, ac wedi pechu'n ddiddiwedd drwy gam-drin pobl onest, a derbyn breib i wrthod cyfiawnder i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!
Amos WelBeibl 5:13  Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel, achos mae'n amser drwg.
Amos WelBeibl 5:14  Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg, a chewch fyw! Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, gyda chi go iawn (fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)
Amos WelBeibl 5:15  Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.
Amos WelBeibl 5:16  Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw hollbwerus: “Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr, a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’ Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru, a bydd galarwyr proffesiynol yno'n udo llafarganu.
Amos WelBeibl 5:17  Bydd pobl yn wylo'n uchel, hyd yn oed yn y gwinllannoedd, achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Amos WelBeibl 5:18  Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod! Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw? Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl!
Amos WelBeibl 5:19  Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod. Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel, ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!
Amos WelBeibl 5:20  Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod – diwrnod tywyll fydd e, dim un golau! Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau!
Amos WelBeibl 5:21  “Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi, ac yn eu diystyru nhw. Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi.
Amos WelBeibl 5:22  Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi, ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw. Gallwch offrymu eich anifeiliaid gorau i mi, ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl!
Amos WelBeibl 5:23  Stopiwch ddod yma i forio canu'ch emynau; does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich nablau.
Amos WelBeibl 5:24  Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo, a thegwch fel ffrwd nant sydd byth yn sychu.
Amos WelBeibl 5:25  “Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel?
Amos WelBeibl 5:26  A nawr mae'n well gynnoch chi gario eich ‛brenin‛ Saccwth, a'ch delw o Caiwan – sef duwiau'r sêr dych chi wedi'u llunio i chi'ch hunain!
Amos WelBeibl 5:27  Felly, bydda i'n eich gyrru chi'n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, sef yr un sy'n cael ei alw y Duw hollbwerus.