Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 28
I Ch WelBeibl 28:1  Dyma Dafydd yn galw swyddogion Israel i gyd at ei gilydd i Jerwsalem – arweinwyr y llwythau, swyddogion unedau'r fyddin, capteiniaid unedau o fil ac o gant, y swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo ac anifeiliaid y brenin a'i feibion, swyddogion y palas, y milwyr, a'r arwyr milwrol i gyd.
I Ch WelBeibl 28:2  Dyma'r Brenin Dafydd yn codi ar ei draed a dweud: “Fy mrodyr a'm pobl, gwrandwch. Rôn i wir eisiau adeiladu teml lle gellid gosod Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD fel stôl droed i'n Duw. Dw i wedi gwneud y paratoadau ar gyfer ei hadeiladu.
I Ch WelBeibl 28:3  Ond dyma Duw yn dweud wrtho i, ‘Gei di ddim adeiladu teml i'm hanrhydeddu i, am dy fod ti'n ryfelwr, ac wedi lladd lot o bobl.’
I Ch WelBeibl 28:4  “Yr ARGLWYDD, Duw Israel, ddewisodd fi o deulu fy nhad i fod yn frenin ar Israel am byth. Roedd wedi dewis llwyth Jwda i arwain, a theulu fy nhad o fewn Jwda, ac yna dewisodd fi o blith fy mrodyr, a'm gwneud i yn frenin ar Israel gyfan.
I Ch WelBeibl 28:5  Ac o'r holl feibion mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi i mi, mae wedi dewis Solomon i fod yn frenin ar fy ôl, i deyrnasu ar ei ran.
I Ch WelBeibl 28:6  Dwedodd wrtho i, ‘Dy fab Solomon ydy'r un fydd yn adeiladu teml i mi, a'r iardiau o'i chwmpas. Dw i wedi'i ddewis e i fod yn fab i mi, a bydda i'n dad iddo fe.
I Ch WelBeibl 28:7  Bydda i'n sefydlu ei deyrnas am byth, os bydd e'n dal ati i gadw fy ngorchmynion a'm rheolau i, fel rwyt ti'n gwneud.’
I Ch WelBeibl 28:8  Felly, o flaen Israel gyfan, cynulliad pobl yr ARGLWYDD, a Duw ei hun yn dyst, dw i'n dweud: Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, i chi feddiannu'r wlad dda yma, a'i gadael hi'n etifeddiaeth i'ch plant am byth.
I Ch WelBeibl 28:9  “A tithau, Solomon fy mab, gwna'n siŵr dy fod yn nabod Duw dy dad. Rho dy hun yn llwyr i'w addoli a'i wasanaethu yn frwd. Mae'r ARGLWYDD yn gwybod beth sy'n mynd drwy feddwl pawb, ac yn gwybod pam maen nhw'n gwneud pethau. Os byddi di'n ceisio'r ARGLWYDD go iawn, bydd e'n gadael i ti ddod o hyd iddo. Ond os byddi di'n troi cefn arno, bydd e'n dy wrthod di am byth.
I Ch WelBeibl 28:10  Mae'r ARGLWYDD wedi dy ddewis di i adeiladu teml yn gysegr iddo. Felly bydd yn gryf a bwrw iddi!”
I Ch WelBeibl 28:11  Dyma Dafydd yn rhoi'r cynlluniau ar gyfer y deml i'w fab Solomon – cynlluniau'r cyntedd, yr adeiladau, y trysordai, y lloriau uchaf, yr ystafelloedd mewnol, a'r cysegr lle roedd caead yr Arch.
I Ch WelBeibl 28:12  Rhoddodd gynlluniau popeth oedd e wedi'i ddychmygu am iard y deml, yr ystafelloedd o'i chwmpas, stordai teml Dduw a'r stordai lle roedd y rhoddion wedi'u cysegru i Dduw yn cael eu cadw.
I Ch WelBeibl 28:13  Rhoddodd y cyfarwyddiadau ar gyfer y gwahanol grwpiau o offeiriaid a Lefiaid iddo, y gwahanol gyfrifoldebau a'r offer oedd i gael eu defnyddio wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD.
I Ch WelBeibl 28:14  Rhoddodd iddo restr o faint yn union o aur ac arian oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y llestri a'r offer gwahanol fyddai'n cael eu defnyddio yn yr addoliad –
I Ch WelBeibl 28:15  y menora aur a'r lampau oedd arni, y rhai arian a'r lampau oedd arnyn nhw (roedd pob manylyn yn cael ei bwyso);
I Ch WelBeibl 28:16  yr aur ar gyfer y byrddau lle roedd y bara'n cael ei osod yn bentwr (faint o aur oedd i'w ddefnyddio i wneud pob un, a faint o arian oedd i'w ddefnyddio i wneud y byrddau arian);
I Ch WelBeibl 28:17  a'r aur pur oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y ffyrc, y dysglau a'r jygiau, y powlenni bach aur a'r powlenni bach arian (union bwysau pob un),
I Ch WelBeibl 28:18  a'r aur wedi'i buro ar gyfer gwneud allor yr arogldarth. Rhoddodd iddo'r cynllun ar gyfer sedd y cerwbiaid aur oedd yn lledu eu hadenydd i gysgodi Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD.
I Ch WelBeibl 28:19  “Dw i wedi ysgrifennu'r cwbl i lawr yn fanwl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi fy arwain i,”
I Ch WelBeibl 28:20  meddai Dafydd wrth Solomon. “Bydd yn gryf a dewr! Bwrw iddi! Paid bod ag ofn na phanicio! Mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda ti. Fydd e ddim yn dy adael di nac yn troi cefn arnat ti nes bydd y gwaith yma i gyd ar deml yr ARGLWYDD wedi'i orffen.
I Ch WelBeibl 28:21  Dyma sut mae'r offeiriaid a'r Lefiaid wedi'u rhannu'n grwpiau i wneud holl waith teml Dduw. Mae'r gweithwyr a'r crefftwyr yn barod i dy helpu i wneud y cwbl. Mae'r swyddogion a'r bobl i gyd yn barod i wneud beth bynnag wyt ti'n ddweud.”