I CORINTHIANS
Chapter 3
I Co | WelBeibl | 3:1 | Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi'n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed. Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! – yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o'r bywyd Cristnogol. | |
I Co | WelBeibl | 3:2 | Roedd rhaid i mi eich bwydo chi â llaeth, am eich bod chi ddim yn barod i gymryd bwyd solet! Ac mae'n amlwg eich bod chi'n dal ddim yn barod! | |
I Co | WelBeibl | 3:3 | Dych chi'n dal i ymddwyn fel pobl sydd heb dderbyn yr Ysbryd. Mae'r holl genfigennu a'r ffraeo sy'n mynd ymlaen yn warthus. Dych chi'n ymddwyn fel petaech chi ddim yn Gristnogion o gwbl. | |
I Co | WelBeibl | 3:4 | Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall! | |
I Co | WelBeibl | 3:5 | Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi'i ddweud wrthon ni. | |
I Co | WelBeibl | 3:6 | Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i'w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni! | |
I Co | WelBeibl | 3:8 | Mae'r plannwr a'r dyfriwr eisiau'r un peth. A bydd y ddau'n cael eu talu am eu gwaith eu hunain. | |
I Co | WelBeibl | 3:9 | Dŷn ni'n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy'r maes mae Duw wedi'i roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad – | |
I Co | WelBeibl | 3:10 | fi gafodd y fraint a'r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi'r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, | |
I Co | WelBeibl | 3:12 | Mae'n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda choed, gwair a gwellt | |
I Co | WelBeibl | 3:13 | – bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi'i wneud. | |
I Co | WelBeibl | 3:15 | Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub – ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau! | |
I Co | WelBeibl | 3:16 | Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda'ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna? | |
I Co | WelBeibl | 3:17 | Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy'n dinistrio'i deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy'r deml honno! | |
I Co | WelBeibl | 3:18 | Mae'n bryd i chi stopio twyllo'ch hunain! Os ydych chi wir yn meddwl eich bod chi'n ddoeth, rhaid i chi fod yn ‛dwp‛ yng ngolwg y byd i fod yn ddoeth go iawn! | |
I Co | WelBeibl | 3:19 | Mae clyfrwch y byd yn dwp yng ngolwg Duw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Mae Duw'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw” | |
I Co | WelBeibl | 3:22 | Paul, Apolos, Pedr, y byd, bywyd, marwolaeth, y presennol, y dyfodol – chi biau nhw i gyd! | |