Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I TIMOTHY
1 2 3 4 5 6
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 5
I Ti WelBeibl 5:1  Paid bod yn llawdrwm wrth geryddu dyn sy'n hŷn na ti. Dangos barch ato ac apelio ato fel petai'n dad i ti. Trin y dynion ifanc fel brodyr,
I Ti WelBeibl 5:2  y gwragedd hŷn fel mamau, a'r gwragedd ifanc fel chwiorydd (a gofalu dy fod yn cadw dy feddwl yn lân pan fyddi gyda nhw).
I Ti WelBeibl 5:3  Dylai'r eglwys ofalu am y gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.
I Ti WelBeibl 5:4  Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai'r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw.
I Ti WelBeibl 5:5  Os ydy gweddw mewn gwir angen does ganddi neb i edrych ar ei hôl. Duw ydy ei hunig obaith hi, ac mae hi'n gweddïo ddydd a nos ac yn gofyn iddo am help.
I Ti WelBeibl 5:6  Ond mae'r weddw sy'n byw i fwynhau ei hun a chael amser da yn farw'n ysbrydol.
I Ti WelBeibl 5:7  Gwna'n siŵr fod pobl yn yr eglwys yn deall y pethau yma, wedyn fydd dim lle i feio neb.
I Ti WelBeibl 5:8  Mae unrhyw un sy'n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na'r bobl sydd ddim yn credu.
I Ti WelBeibl 5:9  Ddylai gweddw ddim ond cael ei chynnwys ar restr y rhai mae'r eglwys yn gofalu amdanyn nhw os ydy hi dros chwe deg oed. Rhaid iddi hefyd fod wedi bod yn ffyddlon i'w gŵr,
I Ti WelBeibl 5:10  ac yn wraig mae enw da iddi am ei bod wedi gwneud cymaint o ddaioni: wedi magu ei phlant, rhoi croeso i bobl ddieithr, gwasanaethu pobl Dduw, a helpu pobl mewn trafferthion. Dylai fod yn wraig sydd wedi ymroi i wneud daioni bob amser.
I Ti WelBeibl 5:11  Paid rhoi enwau'r gweddwon iau ar y rhestr. Pan fydd eu teimladau rhywiol yn gryfach na'u hymroddiad i'r Meseia, byddan nhw eisiau priodi.
I Ti WelBeibl 5:12  Byddai hynny yn golygu eu bod nhw'n euog o fod wedi torri'r addewid blaenorol wnaethon nhw.
I Ti WelBeibl 5:13  Yr un pryd, mae peryg iddyn nhw fynd i'r arfer drwg o wneud dim ond crwydro o un tŷ i'r llall a bod yn ddiog. Ac yn waeth na hynny, siarad nonsens, defnyddio swynion a dweud pethau ddylen nhw ddim.
I Ti WelBeibl 5:14  Dw i am i'r gweddwon iau i briodi eto a chael plant, a gofalu am y cartref. Wedyn fydd y gelyn ddim yn gallu bwrw sen arnon ni.
I Ti WelBeibl 5:15  Ond mae rhai eisoes wedi troi cefn, a mynd ar ôl Satan.
I Ti WelBeibl 5:16  Os oes gan unrhyw wraig sy'n Gristion berthnasau sy'n weddwon, dylai hi ofalu amdanyn nhw a pheidio rhoi'r baich ar yr eglwys. Bydd yr eglwys wedyn yn gallu canolbwyntio ar helpu'r gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.
I Ti WelBeibl 5:17  Mae'r arweinwyr hynny yn yr eglwys sy'n gwneud eu gwaith yn dda yn haeddu eu parchu a derbyn cyflog teg. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai hynny sy'n gweithio'n galed yn pregethu a dysgu.
I Ti WelBeibl 5:18  Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “Peidiwch rhwystro'r ych sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta,” a hefyd “Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”
I Ti WelBeibl 5:19  Paid gwrando ar gyhuddiad yn erbyn arweinydd yn yr eglwys oni bai fod dau neu dri tyst.
I Ti WelBeibl 5:20  Ond dylai'r rhai sydd yn dal ati i bechu gael eu ceryddu o flaen pawb, er mwyn i'r lleill wylio eu hunain.
I Ti WelBeibl 5:21  O flaen Duw a'r Meseia Iesu a'r angylion mae wedi'u dewis, dw i'n rhoi siars i ti wneud y pethau yma heb ragfarn na chymryd ochrau. Paid byth â dangos ffafriaeth!
I Ti WelBeibl 5:22  Gwylia rhag bod yn fyrbwyll wrth gomisiynu pobl yn arweinwyr yn yr eglwys. Does gen ti ddim eisiau bod yn gyfrifol am bechodau pobl eraill. Cadw dy hun yn bur.
I Ti WelBeibl 5:23  O hyn ymlaen stopia yfed dim byd ond dŵr. Cymer ychydig win i wella dy stumog. Rwyt ti'n dioddef salwch yn rhy aml.
I Ti WelBeibl 5:24  Mae pechodau rhai pobl yn gwbl amlwg, a does dim amheuaeth eu bod nhw'n euog. Ond dydy pechodau pobl eraill ddim ond yn dod i'r amlwg yn nes ymlaen.
I Ti WelBeibl 5:25  A'r un modd, mae'r pethau da mae rhai pobl yn eu gwneud yn amlwg hefyd. A fydd dim modd cuddio'r pethau hynny sydd wedi'u gwneud o'r golwg am byth.