JOHN
Chapter 21
John | WelBeibl | 21:2 | Dyma beth ddigwyddodd: Roedd criw ohonyn nhw gyda'i gilydd – Simon Pedr, Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛), Nathanael o Cana Galilea, meibion Sebedeus, a dau ddisgybl arall. | |
John | WelBeibl | 21:3 | “Dw i'n mynd i bysgota,” meddai Simon Pedr wrth y lleill. A dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni am ddod hefyd.” Felly aethon nhw allan mewn cwch, ond wnaethon nhw ddal dim drwy'r nos. | |
John | WelBeibl | 21:4 | Pan oedd hi yn dechrau gwawrio dyma Iesu'n sefyll ar lan y llyn, ond doedd y disgyblion ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno. | |
John | WelBeibl | 21:6 | Yna dwedodd Iesu, “Taflwch y rhwyd ar ochr dde'r cwch, a byddwch yn dal rhai.” Dyma nhw'n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw'n methu tynnu'r rhwyd yn ôl i'r cwch. | |
John | WelBeibl | 21:7 | Dyma'r disgybl roedd Iesu'n ei garu yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd ydy e!” A dyma Simon Pedr yn rhwymo dilledyn am ei ganol (doedd ganddo ddim byd amdano), yna neidio i'r dŵr. | |
John | WelBeibl | 21:8 | Daeth y disgyblion eraill ar ei ôl yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd oedd yn llawn o bysgod ar eu holau. (Doedden nhw ond ryw 90 metr o'r lan.) | |
John | WelBeibl | 21:11 | Felly dyma Simon Pedr yn mynd i mewn i'r cwch a llusgo'r rhwyd i'r lan. Roedd hi'n llawn o bysgod mawr, 153 ohonyn nhw, ond er hynny wnaeth y rhwyd ddim rhwygo. | |
John | WelBeibl | 21:12 | “Dewch i gael brecwast,” meddai Iesu. Doedd dim un o'r disgyblion yn meiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” – roedden nhw'n gwybod yn iawn mai'r Meistr oedd e. | |
John | WelBeibl | 21:13 | Yna dyma Iesu'n cymryd y bara a'i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth gyda'r pysgod. | |
John | WelBeibl | 21:14 | Dyma'r trydydd tro i Iesu adael i'w ddisgyblion ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw. | |
John | WelBeibl | 21:15 | Pan oedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu'n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na'r rhain?” “Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.” | |
John | WelBeibl | 21:16 | Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?” Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.” | |
John | WelBeibl | 21:17 | Yna gofynnodd Iesu iddo'r drydedd waith, “Simon fab Ioan, wyt ti'n fy ngharu i?” Roedd Pedr yn ddigalon fod Iesu wedi gofyn eto'r drydedd waith, “Wyt ti'n fy ngharu i?” “Arglwydd,” meddai, “rwyt ti'n gwybod pob peth; rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Yna dwedodd Iesu, “Gofala am fy nefaid. | |
John | WelBeibl | 21:18 | Cred di fi, pan oeddet ti'n ifanc roeddet yn gwisgo ac yn mynd i ble bynnag oeddet ti eisiau; ond pan fyddi'n hen byddi'n estyn allan dy freichiau, a bydd rhywun arall yn dy rwymo di ac yn dy arwain i rywle ti ddim eisiau mynd.” | |
John | WelBeibl | 21:19 | (Dwedodd Iesu hyn i ddangos sut fyddai Pedr yn marw i anrhydeddu Duw.) Yna dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dilyn fi.” | |
John | WelBeibl | 21:20 | Dyma Pedr yn troi a gweld y disgybl roedd Iesu yn ei garu yn eu dilyn nhw. (Yr un oedd wedi pwyso'n ôl at Iesu yn y swper a gofyn, “Arglwydd, pwy sy'n mynd i dy fradychu di?”) | |
John | WelBeibl | 21:22 | Atebodd Iesu, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti? Dilyn di fi.” | |
John | WelBeibl | 21:23 | A dyna pam aeth y stori ar led ymhlith y credinwyr fod y disgybl hwnnw ddim yn mynd i farw. Ond dim dweud nad oedd e'n mynd i farw wnaeth Iesu; dim ond dweud, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti?” | |
John | WelBeibl | 21:24 | Fi ydy'r disgybl hwnnw – yr un welodd hyn i gyd ac sydd wedi ysgrifennu am y cwbl. Ac mae popeth dw i'n ei ddweud yn wir. | |