JOHN
Chapter 20
John | WelBeibl | 20:1 | Yn gynnar iawn ar y bore Sul, a hithau'n dal yn dywyll, dyma Mair Magdalen yn mynd at y bedd a darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi'i symud. | |
John | WelBeibl | 20:2 | Felly dyma hi'n rhedeg at Simon Pedr a'r disgybl arall (yr un oedd Iesu'n ei garu), a dweud wrthyn nhw, “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, a dŷn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi'i roi e!” | |
John | WelBeibl | 20:4 | Rhedodd y ddau gyda'i gilydd, ond dyma'r disgybl arall yn rhedeg yn gynt na Pedr a chyrraedd yno o'i flaen. | |
John | WelBeibl | 20:5 | Plygodd i edrych i mewn i'r bedd, a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno, ond aeth e ddim i mewn. | |
John | WelBeibl | 20:6 | Yna dyma Simon Pedr yn cyrraedd ar ei ôl ac yn mynd yn syth i mewn i'r bedd. Gwelodd yntau'r stribedi o liain yn gorwedd yno. | |
John | WelBeibl | 20:7 | Gwelodd hefyd y cadach oedd wedi bod am wyneb Iesu, ond roedd hwnnw wedi'i blygu a'i osod o'r neilltu ar wahân i'r stribedi lliain. | |
John | WelBeibl | 20:8 | Yna, yn y diwedd, dyma'r disgybl arall (oedd wedi cyrraedd y bedd gyntaf) yn mynd i mewn hefyd. Pan welodd e'r cwbl, credodd. | |
John | WelBeibl | 20:9 | (Doedden nhw ddim eto wedi deall fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod rhaid i Iesu ddod yn ôl yn fyw.) | |
John | WelBeibl | 20:11 | ond safodd Mair wrth ymyl y bedd yn crio. Plygodd i lawr i edrych i mewn i'r bedd | |
John | WelBeibl | 20:12 | a gweld dau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd – un wrth y pen a'r llall wrth y traed. | |
John | WelBeibl | 20:13 | Dyma nhw'n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam wyt ti'n crio?” “Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e” | |
John | WelBeibl | 20:14 | Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll yno. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e. | |
John | WelBeibl | 20:15 | “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam wyt ti'n crio? Am bwy rwyt ti'n chwilio?” Roedd hi'n meddwl mai'r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi'i symud, dywed lle rwyt ti wedi'i roi e, a bydda i'n mynd i'w nôl e.” | |
John | WelBeibl | 20:16 | Yna dyma Iesu'n dweud, “Mair.” Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy'n golygu ‛Athro‛). | |
John | WelBeibl | 20:17 | Dyma Iesu'n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd at fy Nhad a'm Duw, eich Tad a'ch Duw chi hefyd.’” | |
John | WelBeibl | 20:18 | Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi'i ddweud wrthi. | |
John | WelBeibl | 20:19 | Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda'i gilydd. Er bod y drysau wedi'u cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu'n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw. | |
John | WelBeibl | 20:20 | Yna dangosodd ei ddwylo a'i ochr iddyn nhw. Roedd y disgyblion mor hapus pan welon nhw'r Arglwydd. | |
John | WelBeibl | 20:21 | Yna dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.” | |
John | WelBeibl | 20:23 | Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.” | |
John | WelBeibl | 20:24 | Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos, (Tomos oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛ – un o'r deuddeg disgybl). | |
John | WelBeibl | 20:25 | Dyma'r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!” Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu'r peth!” | |
John | WelBeibl | 20:26 | Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a'r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi'u cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!” | |
John | WelBeibl | 20:27 | Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i'w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!” | |
John | WelBeibl | 20:29 | “Ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae'r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio'n fawr.” | |
John | WelBeibl | 20:30 | Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma. | |