Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOHN
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next
Chapter 19
John WelBeibl 19:1  Felly dyma Peilat yn gorchymyn i Iesu gael ei chwipio.
John WelBeibl 19:2  Dyma'r milwyr yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi am ei ben, a gwisgo clogyn porffor amdano.
John WelBeibl 19:3  Yna roedden nhw'n mynd ato drosodd a throsodd, a'i gyfarch gyda'r geiriau, “Eich mawrhydi, Brenin yr Iddewon!”, ac wedyn ei daro ar ei wyneb.
John WelBeibl 19:4  Yna aeth Peilat allan eto a dweud wrth y dyrfa, “Dw i'n dod ag e allan eto, i chi wybod mod i ddim yn ei gael e'n euog o unrhyw drosedd.”
John WelBeibl 19:5  Daeth Iesu allan yn gwisgo'r goron ddrain a'r clogyn porffor, ac meddai Peilat wrthyn nhw, “Edrychwch, dyma'r dyn!”
John WelBeibl 19:6  Y foment y gwelodd y prif offeiriaid a'u swyddogion e, dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!” Ond meddai Peilat, “Cymerwch chi e a'i groeshoelio eich hunain! Lle dw i'n y cwestiwn, mae e'n ddieuog.”
John WelBeibl 19:7  “Mae gynnon ni Gyfraith,” meddai'r arweinwyr Iddewig, “ac yn ôl y Gyfraith honno mae'n rhaid iddo farw, am ei fod wedi galw'i hun yn Fab Duw.”
John WelBeibl 19:8  Pan glywodd Peilat hynny, roedd yn ofni fwy fyth.
John WelBeibl 19:9  Aeth yn ôl i mewn i'r palas a gofyn i Iesu, “O ble wyt ti wedi dod?” Ond roddodd Iesu ddim ateb iddo.
John WelBeibl 19:10  “Wyt ti'n gwrthod siarad â fi?” meddai Peilat. “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai fi sydd â'r awdurdod i dy ryddhau di neu dy groeshoelio di?”
John WelBeibl 19:11  Atebodd Iesu, “Fyddai gen ti ddim awdurdod o gwbl drosto i oni bai ei fod wedi'i roi i ti gan Dduw, sydd uwchlaw pawb. Felly mae'r un drosglwyddodd fi i ti'n euog o bechod llawer gwaeth.”
John WelBeibl 19:12  O hynny ymlaen gwnaeth Peilat ei orau i ollwng Iesu yn rhydd. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi eto, “Os gollyngi di'r dyn yna'n rhydd, ti ddim yn gyfaill i Cesar! Mae unrhyw un sy'n hawlio ei fod yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr Cesar!”
John WelBeibl 19:13  Pan glywodd Peilat hyn, daeth â Iesu allan eto, ac eisteddodd yn sedd y barnwr yn y lle oedd yn cael ei alw ‛Y Palmant‛ (‛Gabbatha‛ yn Hebraeg).
John WelBeibl 19:14  Roedd hi'r diwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, tua canol dydd. “Dyma fe, eich brenin chi,” meddai Peilat wrth y dyrfa.
John WelBeibl 19:15  Ond dyma nhw'n gweiddi, “I ffwrdd ag e! I ffwrdd ag e! Croeshoelia fe!” “Dych chi am i mi groeshoelio eich brenin chi?” meddai Peilat. “Cesar ydy'n hunig frenin ni!” oedd ateb y prif offeiriaid.
John WelBeibl 19:16  Yn y diwedd dyma Peilat yn gadael iddyn nhw gael eu ffordd, ac yn rhoi Iesu i'w groeshoelio. Felly aeth y milwyr ag Iesu i ffwrdd.
John WelBeibl 19:17  Aeth allan, yn cario'i groes, i'r lle sy'n cael ei alw Lle y Benglog (‛Golgotha‛ yn Hebraeg).
John WelBeibl 19:18  Yno, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes, a dau arall hefyd – un bob ochr iddo, a Iesu yn y canol.
John WelBeibl 19:19  Trefnodd Peilat fod arwydd yn cael ei rwymo ar ei groes, yn dweud: IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.
John WelBeibl 19:20  Gwelodd llawer o Iddewon yr arwydd yma, am fod y lle y cafodd Iesu ei groeshoelio yn agos i'r ddinas. Roedd yr arwydd mewn tair iaith – Hebraeg, Lladin a Groeg.
John WelBeibl 19:21  Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‛Brenin yr Iddewon‛, ond yn hytrach fod y dyn yna'n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.”
John WelBeibl 19:22  Atebodd Peilat, “Dw i wedi'i ysgrifennu, a dyna ddiwedd ar y mater.”
John WelBeibl 19:23  Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw'n cymryd ei ddillad a'u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o'r top i'r gwaelod.
John WelBeibl 19:24  Felly dyma nhw'n dweud, “Ddylen ni ddim rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.” Digwyddodd hyn er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir, “Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, a gamblo am fy nghrys.” Dyna'n union wnaeth y milwyr!
John WelBeibl 19:25  Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a'i fodryb hefyd, a Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen.
John WelBeibl 19:26  Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a'r disgybl oedd Iesu'n ei garu yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,”
John WelBeibl 19:27  ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai'n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda'r disgybl hwnnw.
John WelBeibl 19:28  Roedd Iesu'n gwybod ei fod wedi gwneud popeth roedd gofyn iddo'i wneud. “Dw i'n sychedig,” meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud.
John WelBeibl 19:29  Roedd jwg o win sur rhad wrth ymyl, felly dyma nhw'n trochi ysbwng yn y gwin a'i rwymo ar goesyn isop i'w godi i fyny at wefusau Iesu.
John WelBeibl 19:30  Ar ôl cael diod, dyma Iesu'n dweud, “Mae'r cwbl wedi'i wneud.” Yna plygodd ei ben a marw.
John WelBeibl 19:31  Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a'r Saboth hwnnw'n ddiwrnod arbennig iawn, dyma'r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i'r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw'n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a'r ddau leidr iddyn nhw farw'n gynt, ac wedyn gallai'r cyrff gael eu cymryd i lawr.
John WelBeibl 19:32  Felly dyma'r milwyr yn dod ac yn torri coesau'r ddau ddyn oedd wedi'u croeshoelio gyda Iesu.
John WelBeibl 19:33  Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw'n barod. Yn lle torri ei goesau,
John WelBeibl 19:34  dyma un o'r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan.
John WelBeibl 19:35  Dw i'n dweud beth welais i â'm llygaid fy hun, ac mae beth dw i'n ddweud yn wir. Mae'r cwbl yn wir, a dw i'n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu.
John WelBeibl 19:36  Digwyddodd y pethau hynny er mwyn i beth sydd yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir: “Fydd dim un o'i esgyrn yn cael ei dorri,”
John WelBeibl 19:37  ac fel mae'n dweud yn rhywle arall, “Byddan nhw'n edrych ar yr un maen nhw wedi'i drywanu.”
John WelBeibl 19:38  Wedyn, dyma Joseff o Arimathea yn mynd at Peilat i ofyn am ganiatâd i gymryd corff Iesu. (Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw'n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig.) Cafodd ganiatâd Peilat, a daeth a chymryd y corff.
John WelBeibl 19:39  Roedd Nicodemus gydag e hefyd, sef y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos. Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes,
John WelBeibl 19:40  i'w ddefnyddio wrth rwymo corff Iesu gyda stribedi o liain. Dyma sut roedd yr Iddewon yn arfer claddu pobl.
John WelBeibl 19:41  Roedd gardd wrth ymyl y man lle cafodd Iesu ei groeshoelio, ac roedd bedd newydd yn yr ardd – doedd neb erioed wedi'i gladdu ynddo o'r blaen.
John WelBeibl 19:42  Am ei bod hi'n bnawn Gwener (y diwrnod cyn y dydd Saboth Iddewig), ac am fod y bedd mor agos, dyma nhw'n rhoi Iesu i orwedd yno.