JOHN
Chapter 1
John | WelBeibl | 1:5 | Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd. | |
John | WelBeibl | 1:7 | i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy'r hyn oedd yn ei ddweud. | |
John | WelBeibl | 1:12 | Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, (sef y rhai sy'n credu ynddo) hawl i ddod yn blant Duw. | |
John | WelBeibl | 1:13 | Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig (Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma); Duw sydd wedi'u gwneud nhw'n blant iddo'i hun! | |
John | WelBeibl | 1:14 | Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni. Gwelon ni ei ysblander dwyfol— ei ysblander fel Mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd. | |
John | WelBeibl | 1:15 | Dyma'r un roedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma'r un ddwedais i amdano, ‘Mae'r un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’” | |
John | WelBeibl | 1:16 | Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle'r llall – a hynny i bob un ohonon ni! | |
John | WelBeibl | 1:17 | Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a'i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia. | |
John | WelBeibl | 1:18 | Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae'r Mab unigryw hwn (sy'n Dduw ei hun, gyda'r berthynas agosaf posib â'r Tad), wedi dweud yn glir amdano. | |
John | WelBeibl | 1:19 | Dyma'r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd. | |
John | WelBeibl | 1:21 | “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?” “Nage” meddai Ioan. “Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?” Atebodd eto, “Na.” | |
John | WelBeibl | 1:22 | “Felly, pwy ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?” | |
John | WelBeibl | 1:23 | Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’ Dyna ydw i.” | |
John | WelBeibl | 1:25 | yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy'r Meseia, nac Elias, na'r Proffwyd?” | |
John | WelBeibl | 1:26 | Atebodd Ioan nhw, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae yna un dych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi – | |
John | WelBeibl | 1:27 | sef yr un sy'n dod ar fy ôl i. Fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!” | |
John | WelBeibl | 1:28 | Digwyddodd hyn i gyd yn Bethania yr ochr draw i afon Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio. | |
John | WelBeibl | 1:29 | Y diwrnod wedyn gwelodd Ioan Iesu yn dod i'w gyfeiriad. “Edrychwch!” meddai, “Dacw Oen Duw, yr un sy'n cymryd pechod y byd i ffwrdd. | |
John | WelBeibl | 1:30 | Dyma'r dyn ddwedais i amdano, ‘Mae un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o mlaen i.’ | |
John | WelBeibl | 1:31 | Doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un. Ond dw i wedi bod yn bedyddio â dŵr er mwyn i Israel ei weld e.” | |
John | WelBeibl | 1:32 | Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o'r nefoedd fel colomen ac yn aros arno. | |
John | WelBeibl | 1:33 | Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di'r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna'r un fydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.’ | |
John | WelBeibl | 1:36 | Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai, “Edrychwch! Oen Duw!” | |
John | WelBeibl | 1:38 | Trodd Iesu a'u gweld nhw'n ei ddilyn, a gofynnodd iddyn nhw, “Beth dych chi eisiau?” “Rabbi” medden nhw, “ble wyt ti'n aros?” (Ystyr y gair Hebraeg ‛Rabbi‛ ydy ‛Athro‛.) | |
John | WelBeibl | 1:39 | Atebodd Iesu nhw, “Dewch i weld.” Felly dyma nhw'n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e. Roedd hi tua pedwar o'r gloch y p'nawn erbyn hynny. | |
John | WelBeibl | 1:41 | a'r peth cyntaf wnaeth e wedyn oedd mynd i chwilio am ei frawd Simon, a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r Meseia” (gair Hebraeg sy'n golygu ‛Yr un wedi'i eneinio'n frenin‛). | |
John | WelBeibl | 1:42 | Aeth Andreas ag e i gyfarfod Iesu. Edrychodd Iesu arno, ac yna dweud, “Simon fab Ioan wyt ti. Ond Ceffas fyddi di'n cael dy alw,” (enw sy'n golygu'r un peth â Pedr, sef ‛craig‛). | |
John | WelBeibl | 1:43 | Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.” | |
John | WelBeibl | 1:45 | Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a'r un soniodd y proffwydi amdano hefyd – Iesu, mab Joseff o Nasareth.” | |
John | WelBeibl | 1:46 | “Nasareth?” meddai Nathanael, “Ddaeth unrhyw beth da o'r lle yna erioed?” “Tyrd i weld,” meddai Philip. | |
John | WelBeibl | 1:47 | Pan welodd Iesu Nathanael yn dod ato, meddai amdano, “Dyma ddyn fyddai'n twyllo neb – Israeliad go iawn!” | |
John | WelBeibl | 1:48 | “Sut wyt ti'n gwybod sut un ydw i?” meddai Nathanael. Atebodd Iesu, “Gwelais di'n myfyrio dan y goeden ffigys, cyn i Philip dy alw di.” | |
John | WelBeibl | 1:50 | Meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n credu dim ond am fy mod i wedi dweud i mi dy weld di dan y goeden ffigys?” Yna dwedodd wrthyn nhw i gyd, “Cewch weld pethau mwy na hyn! | |