JOHN
Chapter 11
John | WelBeibl | 11:1 | Roedd dyn o'r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a'i chwaer Martha. | |
John | WelBeibl | 11:2 | (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda'i gwallt, a'i brawd hi oedd Lasarus oedd yn sâl yn ei wely.) | |
John | WelBeibl | 11:3 | Dyma'r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di'n sâl.” | |
John | WelBeibl | 11:4 | Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Fydd marwolaeth ddim yn cael y gair olaf. Na, pwrpas hyn ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.” | |
John | WelBeibl | 11:6 | Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall. | |
John | WelBeibl | 11:8 | “Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd di gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?” | |
John | WelBeibl | 11:9 | Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy rhywun sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddo olau'r haul. | |
John | WelBeibl | 11:11 | Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i i'n mynd yno i'w ddeffro.” | |
John | WelBeibl | 11:13 | Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol. | |
John | WelBeibl | 11:15 | ac er eich mwyn chi dw i'n falch fy mod i ddim yno. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.” | |
John | WelBeibl | 11:16 | Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd hefyd, i farw gydag e!” | |
John | WelBeibl | 11:17 | Pan gyrhaeddodd Iesu, cafodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod. | |
John | WelBeibl | 11:19 | ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd. | |
John | WelBeibl | 11:20 | Pan glywodd Martha fod Iesu'n dod, aeth allan i'w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ. | |
John | WelBeibl | 11:21 | “Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. | |
John | WelBeibl | 11:22 | Ond er hynny, dw i'n dal i gredu y bydd Duw yn rhoi i ti beth bynnag rwyt ti'n ei ofyn ganddo.” | |
John | WelBeibl | 11:24 | Atebodd Martha, “Dw i'n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” | |
John | WelBeibl | 11:25 | Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; | |
John | WelBeibl | 11:26 | a bydd y rhai sy'n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti'n credu hyn?” | |
John | WelBeibl | 11:27 | “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i'n credu mai ti ydy'r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i'r byd.” | |
John | WelBeibl | 11:28 | Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae'r Athro yma, ac mae'n gofyn amdanat ti.” | |
John | WelBeibl | 11:30 | (Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal lle roedd Martha wedi'i gyfarfod.) | |
John | WelBeibl | 11:31 | Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru. | |
John | WelBeibl | 11:32 | Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” | |
John | WelBeibl | 11:33 | Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig. | |
John | WelBeibl | 11:37 | Ond roedd rhai yn dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i'r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?” | |
John | WelBeibl | 11:38 | Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi'i gosod dros geg yr ogof.) | |
John | WelBeibl | 11:39 | “Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud, “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi'i gladdu ers pedwar diwrnod.” | |
John | WelBeibl | 11:40 | Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y cei di weld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?” | |
John | WelBeibl | 11:41 | Felly dyma nhw'n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i. | |
John | WelBeibl | 11:42 | Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.” | |
John | WelBeibl | 11:44 | A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi'u rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd a'i ollwng yn rhydd,” meddai Iesu. | |
John | WelBeibl | 11:45 | Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y bobl oedd yn ymweld â Mair, ac wedi gweld beth wnaeth Iesu. | |
John | WelBeibl | 11:47 | A dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o'r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol. | |
John | WelBeibl | 11:48 | Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio’ch teml a'n gwlad ni.” | |
John | WelBeibl | 11:49 | Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl! | |
John | WelBeibl | 11:50 | Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?” | |
John | WelBeibl | 11:51 | (Wnaeth e ddim dweud hyn ohono'i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu'n marw dros y genedl. | |
John | WelBeibl | 11:52 | A dim dros y genedl Iddewig yn unig, ond hefyd dros holl blant Duw ym mhobman, er mwyn eu casglu nhw at ei gilydd a'u gwneud nhw'n un.) | |
John | WelBeibl | 11:54 | Felly wnaeth Iesu ddim mynd o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith pobl Jwdea ar ôl hynny. Gadawodd yr ardal a mynd i bentref o'r enw Effraim oedd wrth ymyl yr anialwch. Buodd yn aros yno gyda'i ddisgyblion. | |
John | WelBeibl | 11:55 | Pan oedd y Pasg Iddewig yn agosáu, roedd llawer o bobl yn mynd i Jerwsalem i fynd drwy'r ddefod o ymolchi eu hunain yn seremonïol i baratoi ar gyfer y Pasg ei hun. | |
John | WelBeibl | 11:56 | Roedden nhw'n edrych am Iesu drwy'r adeg, ac yn sefyllian yng nghwrt y deml a holi ei gilydd, “Beth dych chi'n feddwl? Ddaw e ddim i'r Ŵyl, siawns!” | |