JOHN
Chapter 8
John | WelBeibl | 8:2 | Pan wawriodd hi y bore wedyn, roedd Iesu yn ôl yng nghwrt y deml. Dyma dyrfa yn casglu o'i gwmpas, ac eisteddodd Iesu i'w dysgu nhw. | |
John | WelBeibl | 8:3 | Tra oedd yn dysgu'r bobl dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato gyda gwraig oedd wedi cael ei dal yn godinebu. Dyma nhw'n ei rhoi hi i sefyll yn y canol o flaen pawb, | |
John | WelBeibl | 8:4 | ac yna medden nhw wrth Iesu, “Athro, mae'r wraig hon wedi cael ei dal yn cael rhyw gyda dyn oedd ddim yn ŵr iddi. | |
John | WelBeibl | 8:5 | Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd o'r fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig. Beth wyt ti'n ei ddweud am y mater?” | |
John | WelBeibl | 8:6 | (Roedden nhw'n defnyddio'r cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesu'n plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gyda'i fys yn y llwch ar lawr. | |
John | WelBeibl | 8:7 | Wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion erioed wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf ati hi.” | |
John | WelBeibl | 8:9 | Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma'r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a'r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a'r wraig yn dal i sefyll o'i flaen. | |
John | WelBeibl | 8:10 | Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?” | |
John | WelBeibl | 8:11 | “Nac oes syr, neb” meddai. “Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.” | |
John | WelBeibl | 8:12 | Pan oedd Iesu'n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.” | |
John | WelBeibl | 8:13 | Ond dyma'r Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.” | |
John | WelBeibl | 8:14 | Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i'n tystio ar fy rhan fy hun, mae'r dystiolaeth yna'n ddilys. Dw i'n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i'n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i'n mynd. | |
John | WelBeibl | 8:16 | Os dw i'n barnu, dw i'n dyfarnu'n gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Mae'r Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi. | |
John | WelBeibl | 8:18 | Dw i fy hun yn rhoi tystiolaeth, a'r Tad ydy'r tyst arall, yr un sydd wedi fy anfon i.” | |
John | WelBeibl | 8:19 | “Ble mae dy dad di?” medden nhw. “Dych chi ddim wir yn gwybod pwy ydw i,” atebodd Iesu, “nac yn nabod fy Nhad chwaith. Tasech chi'n gwybod pwy ydw i, byddech chi'n nabod fy Nhad i hefyd.” | |
John | WelBeibl | 8:20 | Dwedodd hyn pan oedd yn dysgu yn y deml wrth ymyl y blychau lle roedd pobl yn rhoi eu harian i'r drysorfa. Ond wnaeth neb ei ddal, am fod ei amser iawn ddim wedi dod. | |
John | WelBeibl | 8:21 | Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i'n mynd i ffwrdd. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i'n mynd.” | |
John | WelBeibl | 8:22 | Gwnaeth hyn i'r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e'n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae'n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i'n mynd’?” | |
John | WelBeibl | 8:23 | Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi'n dod o'r ddaear; dw i'n dod oddi uchod. O'r byd hwn dych chi'n dod; ond dw i ddim yn dod o'r byd hwn. | |
John | WelBeibl | 8:24 | Dyna pam ddwedais i y byddwch chi'n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi'n marw yn eich pechod.” | |
John | WelBeibl | 8:25 | “Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi'i ddweud o'r dechrau,” atebodd Iesu. | |
John | WelBeibl | 8:26 | “Mae gen i lawer i'w ddweud amdanoch chi, a digon i'w gondemnio. Mae'r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi'i glywed ganddo fe dw i'n ei gyhoeddi i'r byd.” | |
John | WelBeibl | 8:28 | Felly dwedodd Iesu, “Pan fyddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny, dyna pryd byddwch chi'n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae'r Tad wedi'i ddysgu i mi. | |
John | WelBeibl | 8:29 | Mae'r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy'n ei blesio.” | |
John | WelBeibl | 8:31 | Yna dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi'i ddangos i chi, dych chi'n ddilynwyr go iawn i mi. | |
John | WelBeibl | 8:32 | Byddwch yn dod i wybod beth sy'n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi.” | |
John | WelBeibl | 8:33 | “Dŷn ni'n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti'n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n cael bod yn rhydd’?” | |
John | WelBeibl | 8:35 | Dydy caethwas ddim yn perthyn i'r teulu mae'n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth. | |
John | WelBeibl | 8:37 | Dw i'n gwybod eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi'n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i'n ddweud go iawn. | |
John | WelBeibl | 8:38 | Dw i'n cyhoeddi beth dw i wedi'i weld gyda'r Tad. Dych chi'n gwneud beth mae'ch tad chi'n ei ddweud wrthoch chi.” | |
John | WelBeibl | 8:39 | “Abraham ydy'n tad ni,” medden nhw. “Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi'n gwneud beth wnaeth Abraham. | |
John | WelBeibl | 8:40 | Yn lle hynny dych chi'n benderfynol o'm lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi'r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud peth felly! | |
John | WelBeibl | 8:41 | Na, gwneud y pethau mae'ch tad chi'n eu gwneud dych chi.” “Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy'r unig Dad sydd gynnon ni.” | |
John | WelBeibl | 8:42 | “Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi'n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i. | |
John | WelBeibl | 8:43 | Pam nad ydy be dw i'n ddweud yn gwneud sens i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i. | |
John | WelBeibl | 8:44 | Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi am wneud beth mae'ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o'r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i'r gwir ynddo. Pan mae'n dweud celwydd, mae'n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd! | |
John | WelBeibl | 8:46 | Oes unrhyw un ohonoch chi'n gallu profi mod i'n euog o bechu? Felly os dw i'n dweud y gwir pam dych chi'n gwrthod credu? | |
John | WelBeibl | 8:47 | Mae pwy bynnag sy'n perthyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn perthyn i Dduw.” | |
John | WelBeibl | 8:49 | “Fi? Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i'n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi'n fy sarhau i. | |
John | WelBeibl | 8:50 | Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy'n ei geisio, a fe ydy'r un sy'n barnu. | |
John | WelBeibl | 8:51 | Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy'n dal gafael yn yr hyn dw i wedi'i ddysgu iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.” | |
John | WelBeibl | 8:52 | Pan ddwedodd hyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Mae'n gwbl amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti'n honni y bydd y rhai sy'n dal gafael yn yr hyn rwyt ti'n ei ddysgu ddim yn marw. | |
John | WelBeibl | 8:53 | Wyt ti'n fwy o ddyn nag Abraham, tad y genedl? Buodd e farw, a'r proffwydi hefyd! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti?” | |
John | WelBeibl | 8:54 | Atebodd Iesu, “Os dw i'n canmol fy hun, dydy'r clod yna'n golygu dim byd. Fy Nhad sy'n fy nghanmol i, yr un dych chi'n hawlio ei fod yn Dduw i chi. | |
John | WelBeibl | 8:55 | Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i'w nabod; dw i yn ei nabod e'n iawn. Petawn i'n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau'n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae'n ei ddangos i mi. | |
John | WelBeibl | 8:56 | Roedd Abraham, eich tad, yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i'n dod; fe'i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.” | |
John | WelBeibl | 8:57 | “Ti ddim yn hanner cant eto!” meddai'r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti'n honni dy fod di wedi gweld Abraham?” | |