Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOHN
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 4
John WelBeibl 4:1  Roedd y Phariseaid wedi dod i wybod fod Iesu yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddilynwyr na Ioan Fedyddiwr
John WelBeibl 4:2  (er mai'r disgyblion oedd yn gwneud y bedyddio mewn gwirionedd, dim Iesu).
John WelBeibl 4:3  Pan glywodd Iesu am hyn, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.
John WelBeibl 4:4  Ar y ffordd roedd rhaid iddo basio drwy Samaria.
John WelBeibl 4:5  Daeth i bentref o'r enw Sychar, yn ymyl y darn tir enwog roedd Jacob wedi'i roi i'w fab Joseff ers talwm.
John WelBeibl 4:6  A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino'n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd.
John WelBeibl 4:7  Daeth gwraig yno i godi dŵr. Samariad oedd y wraig, a gofynnodd Iesu iddi, “Ga i ddiod gen ti?”
John WelBeibl 4:8  (Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dre i brynu bwyd.)
John WelBeibl 4:9  “Iddew wyt ti,” meddai'r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i'n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio'r un llestri â'r Samariaid.)
John WelBeibl 4:10  Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i'w roi i ti, a phwy ydw i sy'n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai'n gofyn wedyn, a byddwn i'n rhoi dŵr bywiol i ti.”
John WelBeibl 4:11  “Syr,” meddai'r wraig, “Ble mae'r ‛dŵr bywiol‛ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae'r pydew yn ddwfn.
John WelBeibl 4:12  Wyt ti'n meddwl dy fod di'n fwy na'n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e'n yfed y dŵr yma, a'i feibion hefyd a'i anifeiliaid.”
John WelBeibl 4:13  Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy'n yfed y dŵr yma,
John WelBeibl 4:14  ond fydd byth dim syched ar y rhai sy'n yfed y dŵr dw i'n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i'n ei roi yn troi'n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.”
John WelBeibl 4:15  Meddai'r wraig wrtho, “Syr, rho beth o'r dŵr hwnnw i mi! Fydd dim syched arna i wedyn, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.”
John WelBeibl 4:16  Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a thyrd yn ôl yma wedyn.”
John WelBeibl 4:17  “Does gen i ddim gŵr,” meddai'r wraig. “Ti'n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr.
John WelBeibl 4:18  Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a ti ddim yn briod i'r dyn sy'n byw gyda ti bellach. Ti wedi dweud y gwir.”
John WelBeibl 4:19  “Dw i'n gweld dy fod ti'n broffwyd syr,” meddai'r wraig.
John WelBeibl 4:20  “Dwed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni'r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi'r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy'r lle iawn i addoli.”
John WelBeibl 4:21  Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli'r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith.
John WelBeibl 4:22  Dych chi'r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi'n ei addoli go iawn; dŷn ni'r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni'n ei addoli, am mai drwy'r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod.
John WelBeibl 4:23  Ond mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy'n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau.
John WelBeibl 4:24  Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy'n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.”
John WelBeibl 4:25  Meddai'r wraig, “Dw i'n gwybod fod y Meseia (sy'n golygu ‘Yr un wedi'i eneinio'n frenin’) yn dod. Pan ddaw e, bydd yn esbonio popeth i ni.”
John WelBeibl 4:26  “Fi ydy e,” meddai Iesu wrthi, “yr un sy'n siarad â ti.”
John WelBeibl 4:27  Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw'n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi hi, “Beth wyt ti eisiau?”, nac i Iesu, “Pam wyt ti'n siarad gyda hi?”
John WelBeibl 4:28  Dyma'r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i'r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno,
John WelBeibl 4:29  “Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?”
John WelBeibl 4:30  Felly dyma'r bobl yn mynd allan o'r pentref i gyfarfod Iesu.
John WelBeibl 4:31  Yn y cyfamser, roedd ei ddisgyblion wedi bod yn ceisio'i gael i fwyta rhywbeth. “Rabbi,” medden nhw, “bwyta.”
John WelBeibl 4:32  Ond dyma ddwedodd Iesu: “Mae gen i fwyd i'w fwyta dych chi'n gwybod dim amdano.”
John WelBeibl 4:33  “Ddaeth rhywun arall â bwyd iddo'i fwyta?” meddai'r disgyblion wrth ei gilydd.
John WelBeibl 4:34  “Gwneud beth mae Duw'n ddweud ydy fy mwyd i,” meddai Iesu, “a gorffen y gwaith mae wedi'i roi i mi.
John WelBeibl 4:35  Mae pobl yn dweud ‘Mae pedwar mis rhwng hau a medi.’ Dw i'n dweud, ‘Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae'r cynhaeaf yn barod!’
John WelBeibl 4:36  Mae'r gweithwyr sy'n medi'r cynhaeaf yn cael eu cyflog, maen nhw'n casglu'r cnwd, sef y bobl sy'n cael bywyd tragwyddol. Mae'r rhai sy'n hau a'r rhai sy'n medi yn dathlu gyda'i gilydd!
John WelBeibl 4:37  Mae'r hen ddywediad yn wir: ‘Mae un yn hau ac arall yn medi.’
John WelBeibl 4:38  Dw i wedi'ch anfon chi i fedi cynhaeaf wnaethoch chi ddim gweithio amdano. Mae pobl eraill wedi gwneud y gwaith caled, a chithau'n casglu'r ffrwyth.”
John WelBeibl 4:39  Roedd nifer o Samariaid y pentref wedi credu yn Iesu am fod y wraig wedi dweud, “Roedd yn gwybod popeth amdana i.”
John WelBeibl 4:40  Felly pan ddaethon nhw ato, dyma nhw'n ei annog i aros gyda nhw, ac arhosodd yno am ddau ddiwrnod.
John WelBeibl 4:41  Daeth llawer iawn mwy o bobl i gredu ynddo ar ôl clywed beth oedd ganddo i'w ddweud.
John WelBeibl 4:42  A dyma nhw'n dweud wrth y wraig, “Dŷn ni ddim yn credu o achos beth ddwedaist ti bellach; dŷn ni wedi'i glywed ein hunain, ac yn reit siŵr mai'r dyn yma ydy Achubwr y byd.”
John WelBeibl 4:43  Ar ôl aros yno am ddau ddiwrnod dyma Iesu'n mynd yn ei flaen i Galilea.
John WelBeibl 4:44  Roedd Iesu wedi bod yn dweud fod dim parch at broffwyd yn yr ardal lle cafodd ei fagu.
John WelBeibl 4:45  Ond pan gyrhaeddodd Galilea cafodd groeso brwd gan y bobl oedd wedi bod yn Jerwsalem dros Ŵyl y Pasg a gweld y cwbl roedd e wedi'i wneud yno.
John WelBeibl 4:46  Aeth yn ôl i bentref Cana, lle roedd wedi troi'r dŵr yn win. Clywodd un o swyddogion llywodraeth Herod yn Capernaum
John WelBeibl 4:47  fod Iesu wedi dod yn ôl o Jwdea i Galilea. Roedd mab y dyn mor sâl roedd ar fin marw, felly aeth i Cana i chwilio am Iesu ac ymbil arno i fynd i lawr i iacháu ei fab.
John WelBeibl 4:48  Dwedodd Iesu, “Heb gael gweld arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol wnewch chi bobl byth gredu!”
John WelBeibl 4:49  “Ond syr,” meddai'r swyddog wrtho, “tyrd gyda mi cyn i'm plentyn bach i farw.”
John WelBeibl 4:50  “Dos di,” meddai Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw.” Dyma'r dyn yn credu beth ddwedodd Iesu, a mynd.
John WelBeibl 4:51  Tra oedd ar ei ffordd adre, daeth ei weision i'w gyfarfod gyda'r newyddion fod y bachgen yn mynd i fyw.
John WelBeibl 4:52  Gofynnodd iddyn nhw pryd yn union wnaeth e ddechrau gwella, a dyma nhw'n ateb, “Diflannodd y gwres tua un o'r gloch p'nawn ddoe.”
John WelBeibl 4:53  Sylweddolodd y tad mai dyna'n union pryd ddwedodd Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw.” Felly daeth y dyn a phawb yn ei dŷ i gredu yn Iesu.
John WelBeibl 4:54  Hon oedd yr ail wyrth wnaeth Iesu yn Galilea fel arwydd o pwy oedd. Gwnaeth y wyrth ar ôl dod yn ôl o Jwdea i Galilea.