Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOHN
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 11
John WelBeibl 11:1  Roedd dyn o'r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a'i chwaer Martha.
John WelBeibl 11:2  (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda'i gwallt, a'i brawd hi oedd Lasarus oedd yn sâl yn ei wely.)
John WelBeibl 11:3  Dyma'r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di'n sâl.”
John WelBeibl 11:4  Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Fydd marwolaeth ddim yn cael y gair olaf. Na, pwrpas hyn ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.”
John WelBeibl 11:5  Roedd Iesu'n hoff iawn o Martha a'i chwaer a Lasarus.
John WelBeibl 11:6  Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall.
John WelBeibl 11:7  Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
John WelBeibl 11:8  “Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd di gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?”
John WelBeibl 11:9  Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy rhywun sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddo olau'r haul.
John WelBeibl 11:10  Ond mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.”
John WelBeibl 11:11  Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i i'n mynd yno i'w ddeffro.”
John WelBeibl 11:12  “Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “os ydy e'n cysgu, bydd yn gwella.”
John WelBeibl 11:13  Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol.
John WelBeibl 11:14  Felly dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw'n blaen, “Mae Lasarus wedi marw,
John WelBeibl 11:15  ac er eich mwyn chi dw i'n falch fy mod i ddim yno. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.”
John WelBeibl 11:16  Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd hefyd, i farw gydag e!”
John WelBeibl 11:17  Pan gyrhaeddodd Iesu, cafodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod.
John WelBeibl 11:19  ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd.
John WelBeibl 11:20  Pan glywodd Martha fod Iesu'n dod, aeth allan i'w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ.
John WelBeibl 11:21  “Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.
John WelBeibl 11:22  Ond er hynny, dw i'n dal i gredu y bydd Duw yn rhoi i ti beth bynnag rwyt ti'n ei ofyn ganddo.”
John WelBeibl 11:23  Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.”
John WelBeibl 11:24  Atebodd Martha, “Dw i'n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.”
John WelBeibl 11:25  Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw;
John WelBeibl 11:26  a bydd y rhai sy'n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti'n credu hyn?”
John WelBeibl 11:27  “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i'n credu mai ti ydy'r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i'r byd.”
John WelBeibl 11:28  Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae'r Athro yma, ac mae'n gofyn amdanat ti.”
John WelBeibl 11:29  Pan glywodd Mair hyn, dyma hi'n codi ar frys i fynd ato.
John WelBeibl 11:30  (Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal lle roedd Martha wedi'i gyfarfod.)
John WelBeibl 11:31  Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru.
John WelBeibl 11:32  Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”
John WelBeibl 11:33  Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig.
John WelBeibl 11:34  Gofynnodd, “Ble dych chi wedi'i gladdu?” “Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw.
John WelBeibl 11:36  “Edrychwch gymaint roedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno.
John WelBeibl 11:37  Ond roedd rhai yn dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i'r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?”
John WelBeibl 11:38  Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi'i gosod dros geg yr ogof.)
John WelBeibl 11:39  “Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud, “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi'i gladdu ers pedwar diwrnod.”
John WelBeibl 11:40  Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y cei di weld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?”
John WelBeibl 11:41  Felly dyma nhw'n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i.
John WelBeibl 11:42  Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.”
John WelBeibl 11:43  Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Lasarus, tyrd allan!”
John WelBeibl 11:44  A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi'u rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd a'i ollwng yn rhydd,” meddai Iesu.
John WelBeibl 11:45  Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y bobl oedd yn ymweld â Mair, ac wedi gweld beth wnaeth Iesu.
John WelBeibl 11:46  Ond aeth rhai at y Phariseaid a dweud beth oedd Iesu wedi'i wneud.
John WelBeibl 11:47  A dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o'r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol.
John WelBeibl 11:48  Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio’ch teml a'n gwlad ni.”
John WelBeibl 11:49  Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl!
John WelBeibl 11:50  Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?”
John WelBeibl 11:51  (Wnaeth e ddim dweud hyn ohono'i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu'n marw dros y genedl.
John WelBeibl 11:52  A dim dros y genedl Iddewig yn unig, ond hefyd dros holl blant Duw ym mhobman, er mwyn eu casglu nhw at ei gilydd a'u gwneud nhw'n un.)
John WelBeibl 11:53  O'r diwrnod hwnnw ymlaen roedden nhw'n cynllwynio i ladd Iesu.
John WelBeibl 11:54  Felly wnaeth Iesu ddim mynd o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith pobl Jwdea ar ôl hynny. Gadawodd yr ardal a mynd i bentref o'r enw Effraim oedd wrth ymyl yr anialwch. Buodd yn aros yno gyda'i ddisgyblion.
John WelBeibl 11:55  Pan oedd y Pasg Iddewig yn agosáu, roedd llawer o bobl yn mynd i Jerwsalem i fynd drwy'r ddefod o ymolchi eu hunain yn seremonïol i baratoi ar gyfer y Pasg ei hun.
John WelBeibl 11:56  Roedden nhw'n edrych am Iesu drwy'r adeg, ac yn sefyllian yng nghwrt y deml a holi ei gilydd, “Beth dych chi'n feddwl? Ddaw e ddim i'r Ŵyl, siawns!”
John WelBeibl 11:57  (Roedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi gorchymyn fod unrhyw un oedd yn gwybod lle roedd Iesu i ddweud wrthyn nhw, er mwyn iddo gael ei arestio.)