LEVITICUS
Chapter 24
Levi | WelBeibl | 24:2 | “Dwed wrth bobl Israel fod rhaid iddyn nhw ddod ag olew olewydd pur i mi fel bod y lampau wedi'u goleuo'n gyson. | |
Levi | WelBeibl | 24:3 | Mae Aaron i'w gosod tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth yn y Tabernacl. Rhaid iddo ofalu eu bod yn llosgi drwy'r nos o flaen yr ARGLWYDD. Mae hyn i fod yn rheol bob amser. | |
Levi | WelBeibl | 24:4 | Rhaid iddo ofalu bob amser am y lampau ar y menora cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 24:5 | “Rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau a phobi deuddeg torth gydag e. Dau gilogram o flawd ar gyfer pob torth. | |
Levi | WelBeibl | 24:6 | Mae'r deuddeg torth i'w gosod ar y bwrdd cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD. Rhaid eu gosod yn ddau bentwr o chwech yr un. | |
Levi | WelBeibl | 24:7 | Yna rhaid rhoi thus pur ar y ddau bentwr, a bydd y bara yn ernes, yn rhodd i'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 24:8 | Mae Aaron i wneud hyn yn ddi-ffael bob Saboth, a'u gosod mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD. Mae'n ymrwymiad mae'n rhaid i bobl Israel ei gadw bob amser. | |
Levi | WelBeibl | 24:9 | Mae'r offeiriaid, Aaron a'i feibion, i gael y bara. Rhaid iddyn nhw fwyta'r torthau mewn lle cysegredig am eu bod yn rhoddion sydd wedi'u cysegru i'r ARGLWYDD.” | |
Levi | WelBeibl | 24:10 | Un diwrnod, roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o'i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe'n dechrau ymladd gydag un o ddynion Israel. Dyma fe'n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw'n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan). | |
Levi | WelBeibl | 24:11 | Un diwrnod, roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o'i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe'n dechrau ymladd gydag un o ddynion Israel. Dyma fe'n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw'n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan). | |
Levi | WelBeibl | 24:12 | Dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes byddai'r ARGLWYDD yn gwneud yn glir iddyn nhw beth oedd i ddigwydd iddo. | |
Levi | WelBeibl | 24:14 | “Mae'r dyn yma wedi fy melltithio i. Dos â fe allan o'r gwersyll, a gwna i'r rhai glywodd e'n melltithio osod eu dwylo ar ei ben. Wedyn rhaid i bawb sydd wedi dod at ei gilydd yno ei ladd drwy daflu cerrig ato. | |
Levi | WelBeibl | 24:15 | Wedyn rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae unrhyw un sy'n melltithio enw ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod, | |
Levi | WelBeibl | 24:16 | ac mae unrhyw un sy'n amharchu enw'r ARGLWYDD i farw. Rhaid i bawb daflu cerrig ato a'i ladd. Sdim ots os ydy'r person yn un o bobl Israel neu'n fewnfudwr sy'n byw yn ein plith. Mae unrhyw un sy'n amharchu enw Duw i farw. | |
Levi | WelBeibl | 24:18 | Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo dalu drwy roi anifail tebyg yn ei le i'r perchennog. | |
Levi | WelBeibl | 24:20 | anaf am anaf, llygad am lygad, dant am ddant – beth bynnag mae e wedi'i wneud i'r person arall, dyna sydd i gael ei wneud iddo fe. | |
Levi | WelBeibl | 24:21 | Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn am y peth. Ond os ydy rhywun yn llofruddio rhywun arall, rhaid iddo farw. | |
Levi | WelBeibl | 24:22 | Yr un ydy'r gyfraith i bobl Israel a mewnfudwyr sy'n byw yn eu plith. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’” | |